Cynulliad Cenedlaethol Cymru
The National Assembly for Wales

 


Cofnod y Trafodion

The Record of Proceedings

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dydd Mawrth, 11 Hydref 2011

Tuesday, 11 October 2011


Cynnwys
Contents

 

2......... Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

 

28....... Cwestiwn Brys
Urgent Question

 

33....... Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

 

36....... Datganiad: Partneriaeth Tai Cymru
Statement: Welsh Housing Partnership

 

46....... Datganiad: Twf Swyddi Cymru
Statement: Jobs Growth Wales

 

60....... Datganiad: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol
Statement: Chief Medical Officer’s Annual Report

 

76....... Cyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
Corporate Parenting Responsibilities for Looked After Children

 

96....... Cyfnod Pleidleisio

........... Voting Time

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn y golofn chwith, cofnodwyd y trafodion yn yr iaith y llefarwyd hwy ynddi yn y Siambr. Yn ogystal, cynhwysir cyfieithiad Saesneg o gyfraniadau yn y Gymraeg.

 

In the left-hand column, the proceedings are recorded in the language in which they were spoken in the Chamber. In addition, an English translation of Welsh speeches is included.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfarfu’r Cynulliad am 1.30 p.m.gyda’r Llywydd (Rosemary Butler) yn y Gadair.
The Assembly met at
1.30 p.m.with the Presiding Officer (Rosemary Butler) in the Chair.

 

The Presiding Officer: Prynhawn da. I call the National Assembly for Wales to order.

 

Y Llywydd: Prynhawn da. Galwaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i drefn.

 

Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Questions to the First Minister

 

Toriadau i Fudd-daliadau Pobl Anabl

Cuts to Benefits for People with Disabilities

 

1. Mike Hedges: A yw’r Prif Weinidog wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y toriadau i fudd-daliadau pobl anabl. OAQ(4)0166(FM)

 

1. Mike Hedges: Has the First Minister had any discussions with the UK Government regarding cuts to benefits for people with disabilities. OAQ(4)0166(FM)

 

The First Minister (Carwyn Jones): I have discussed the welfare reform agenda with the Secretary of State, and I have nominated the Minister for Education and Skills to represent the Welsh Government’s interests in this matter. He will also be part of a cross-government working group established by the UK Minister for Disabled People.

 

Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Yr wyf wedi trafod yr agenda diwygio lles gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, ac yr wyf wedi enwebu’r Gweinidog Addysg a Sgiliau i gynrychioli buddiannau Llywodraeth Cymru yn y mater hwn. Bydd hefyd yn rhan o weithgor traws-lywodraeth a sefydlwyd gan Gweinidog y Deyrnas Unedig dros Bobl Anabl.

 

Mike Hedges: Will you tell me, First Minister, what action this Labour Welsh Government will take to minimise the effect of these vicious changes on Wales, to ensure that the most vulnerable in society are not forgotten?

 

Mike Hedges: A wnewch chi ddweud wrthyf, Brif Weinidog, pa gamau y bydd y Llywodraeth Cymru Lafur hon yn eu cymryd i leihau effaith y newidiadau milain hyn ar Gymru, er mwyn sicrhau nad yw pobl fwyaf bregus y gymdeithas yn cael eu hanghofio?

 

The First Minister: We will ensure that we do what we can in order to help them. Our concern is that as we see cuts to benefits, it is a saving for the UK Treasury, but it may be an additional cost for our budget, for example, in terms of extra homelessness. Through our programme for government we will be doing the best that we can to ensure that people are protected.

 

Y Prif Weinidog: Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn y gallwn i’w helpu. Ein pryder, wrth i ni weld toriadau i fudd-daliadau, yw y bydd yn arwain at arbedion ar gyfer Trysorlys y Deyrnas Unedig, ond gall fod yn gost ychwanegol ar gyfer ein cyllideb ni, er enghraifft, o ran digartrefedd ychwanegol. Drwy ein rhaglen lywodraethu byddwn yn gwneud y gorau y gallwn i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu.

 

Mohammad Asghar: First Minister, the disability living allowance has not been fundamentally looked at since it was introduced 19 years ago, neither has it undergone any notable reforms. The coalition Government is determined that the new personal independence payment will be easier to administer and simpler for claimants to claim. In response to the consultation, most organisations said that the DLA needed modernising. Given the misunderstanding that exists with regard to who qualifies for DLA and the concern over the subjective assessment process, First Minister, will you applaud the coalition Government’s decision to properly look at and consult on reforming the DLA—something that Labour failed to do in 13 years in power in Westminster?

 

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, nid oes ystyriaeth sylweddol wedi cael ei roi i’r lwfans byw i’r anabl ers ei gyflwyno 19 mlynedd yn ôl, ac ni chafwyd unrhyw ddiwygiadau nodedig iddo. Mae’r Llywodraeth glymbleidiol yn benderfynol y bydd y taliad annibyniaeth bersonol newydd yn haws i’w weinyddu ac y bydd yn symlach i hawlwyr wneud cais. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd y rhan fwyaf o sefydliadau bod angen i’r DLA foderneiddio. O ystyried y camddealltwriaeth sy’n bodoli o ran pwy sy’n gymwys am lwfans byw i’r anabl a’r pryder ynghylch y broses asesu oddrychol, Brif Weinidog, a wnewch chi ganmol penderfyniad y Llywodraeth glymbleidiol i edrych yn iawn ar ac ymgynghori ar ddiwygio’r DLA—rhywbeth y methodd Llafur ei wneud mewn 13 mlynedd mewn grym yn San Steffan?

 

The First Minister: I think that was a question best asked in the House of Commons rather than here.

 

Y Prif Weinidog: Credaf mai cwestiwn i’w ofyn yn Nhŷ’r Cyffredin yw hynny, yn hytrach nag yma.

 

Jenny Rathbone: Demos and Scope Cymru did a report on ‘Coping with the Cuts’ and their impact on disabled people. It found that Carmarthenshire County Council and Ceredigion County Council performed the best in Wales. How can the Welsh Government ensure that good practice is recognised and shared to get the best outcomes for disabled people across all local authorities?

 

 Jenny Rathbone: Gwnaeth Demos a Scope Cymru adroddiad ar ‘Ymdopi â’r Toriadau’ a’u heffaith ar bobl anabl. Canfu mai Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion oedd â’r perfformiad gorau yng Nghymru. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod arfer da yn cael ei gydnabod a’i rannu i gael y canlyniadau gorau ar gyfer pobl anabl ar draws pob awdurdod lleol?

 

The First Minister: I can say that officials are assessing the report that was commissioned, but it is right to say that innovative approaches by local authorities are required, and, of course, it is important that councils learn from each other where that is possible.

 

Y Prif Weinidog: Gallaf ddweud bod swyddogion yn asesu’r adroddiad a gomisiynwyd, ond mae’n iawn i ddweud y bydd angen dulliau arloesol gan awdurdodau lleol, ac, wrth gwrs, mae’n bwysig bod cynghorau yn dysgu oddi wrth ei gilydd lle bo hynny’n bosibl.

 

Lindsay Whittle: First Minister, you must be embarrassed that your Welsh Labour Party colleagues in Westminster, with only two notable exceptions, abstained from voting on the Government’s motion to reform those particular benefits to which disabled people are entitled. What assurances can you give this Assembly that any adjustments to the benefits system will help, rather than hinder, disabled people in making choices about work opportunities? You promised to protect the people of Wales against the cuts. What price your promise now, sir?

 

Lindsay Whittle: Brif Weinidog, mae’n rhaid eich bod yn teimlo cywilydd bod eich cydweithwyr yn y Blaid Lafur Gymreig yn San Steffan, gyda dim ond dau eithriad nodedig, wedi atal eu pleidlais ar gynnig y Llywodraeth i ddiwygio’r budd-daliadau penodol hynny y mae pobl anabl yn eu hawlio. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i’r Cynulliad hwn y bydd unrhyw newidiadau i’r system budd-daliadau yn helpu, yn hytrach na rhwystro, pobl anabl wrth iddynt wneud dewisiadau am gyfleoedd gwaith? Addawsoch amddiffyn pobl Cymru rhag y toriadau. Pa werth sydd i’ch addewid yn awr, syr?

 

The First Minister: That is another question that should have been asked in the House of Commons, where responsibility lies.

 

Y Prif Weinidog: Dyna gwestiwn arall y dylid wedi ei ofyn yn Nhŷ’r Cyffredin, lle mae’r cyfrifoldeb dros y pwnc hwn.

 

Mick Antoniw: First Minister, Atos Healthcare, which is the firm that has been awarded a £100 million contract by the UK Government to carry out work capability assessments, has been criticised by MPs of all parties for errors, mistakes and administrative failings. In my constituency, the number of inquiries for the employment and support allowance is rising massively. For the first six months of the financial year, Rhondda Cynon Taf citizens advice bureau has seen the number of inquiries regarding the ESA overtake those regarding the disability living allowance for the first time. Are there any representations that we can make to ensure that Atos Healthcare carries out its job properly, rather than simply operating to strike people off the benefits register as it is doing currently?

 

Mick Antoniw: Brif Weinidog, mae Atos Healthcare, sef y cwmni sydd wedi ennill contract £100 miliwn wrth Lywodraeth y DU i gynnal asesiadau o allu pobl i weithio, wedi cael ei feirniadu gan Aelodau Seneddol o bob plaid am wallau, camgymeriadau a methiannau gweinyddol. Yn fy etholaeth i, mae nifer yr ymholiadau ar gyfer y lwfans cyflogaeth a chymorth yn cynyddu yn aruthrol. Yn ystod y chwe mis cyntaf o’r flwyddyn ariannol, mae canolfan cyngor ar bopeth Rhondda Cynon Taf wedi gweld nifer yr ymholiadau ynghylch y lwfans cyflogaeth a chymorth yn codi’n uwch na’r rheiny ar gyfer y lwfans byw i’r anabl am y tro cyntaf. A oes unrhyw sylwadau y gallwn ei wneud i sicrhau bod Atos Healthcare yn cyflawni ei waith yn iawn, yn hytrach na dim ond gweithredu i daro pobl oddi ar y gofrestr budd-daliadau fel y mae’n ei wneud ar hyn o bryd?

 

The First Minister: While I note your concerns, as I said earlier, the Minister for Education and Skills will be on the ministerial working group. I know that officials have agreed to meet the Department for Work and Pensions and its officials in particular in order to discuss arrangements for DWP-contracted medical services in Wales. Concerns can be expressed at that time.

 

Y Prif Weinidog: Er fy mod yn nodi eich pryderon, fel y dywedais yn gynharach, bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y gweithgor gweinidogol. Gwn fod swyddogion wedi cytuno i gwrdd â’r Adran Gwaith a Phensiynau a’i swyddogion yn arbennig er mwyn trafod trefniadau ar gyfer gwasanaethau meddygol a gontractiwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru. Gall pryderon gael eu mynegi bryd hynny.

 

Rebecca Evans: Under the modernising of the DLA, people in state-funded care homes will have the mobility component stripped away. This money is essential to ensure that these individuals remain active in their communities and maintain interests and friendships and so on. How will the Welsh Government seek to ensure that people in care homes do not become more isolated as a result of the Con-Dem cuts?

 

Rebecca Evans: O dan foderneiddio’r lwfans byw i’r anabl, bydd pobl mewn cartrefi gofal a ariennir gan y wladwriaeth yn colli’r gydran symudedd. Mae’r arian hwn yn hanfodol i sicrhau bod yr unigolion hyn yn parhau i fod yn weithgar yn eu cymunedau ac yn cynnal diddordebau a chyfeillgarwch ac yn y blaen. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau nad yw pobl mewn cartrefi gofal yn dod yn fwy ynysig o ganlyniad i’r toriadau Con-Dem?

 

The First Minister: I understand that, in terms of the factual issue, the UK Government has stated that it will not withdraw the DLA mobility component from people in residential care and will not now introduce this measure as planned in October 2012. That is a matter that could perhaps be raised in the House of Commons, to use the phrase that I used earlier—I can hear mumbling on this—but the question asked what the Welsh Government could do in order to assist on this matter. It appears that the difficulty has been resolved due to a change of mind by the UK Government.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn deall, o ran y mater ffeithiol, bod Llywodraeth y DU wedi datgan na fydd yn tynnu elfen symudedd lwfans byw i’r anabl oddi wrth bobl mewn gofal preswyl ac ni fydd yn awr yn cyflwyno’r mesur hwn yn Hydref 2012, fel yr oedd yn bwriadu ei wneud. Mae hynny’n fater y gellid ei godi o bosibl yn Nhŷ’r Cyffredin, i ddefnyddio’r ymadrodd a ddefnyddiais yn gynharach—gallaf glywed mwmian ar hyn—ond roedd y cwestiwn yn gofyn beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn cynorthwyo ar y mater hwn. Ymddengys bod yr anhawster wedi ei ddatrys o ganlyniad i newid meddwl gan Lywodraeth y DU.

 

The Presiding Officer: I remind Members that ‘Con-Dem’ is a phrase that is not welcome in this place.

 

Y Llywydd: Atgoffaf yr Aelodau nad oes croeso i’r ymadrodd ‘Con-Dem’ yn y lle hwn.

 

Julie Morgan: In view of the fact that it is estimated that one in four children in Wales and the UK live in poverty, what can the First Minister do to make the UK Government re-think its plan to impose the universal credit cuts, which would cut support for some disabled children by up to £27 per week?

 

Julie Morgan: Yn wyneb y ffaith yr amcangyfrifwyd bod un ymhob pedwar plentyn yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn byw mewn tlodi, beth y gall y Prif Weinidog ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ailfeddwl ei chynllun i orfodi’r toriadau credyd cynhwysol, a fyddai’n torri’r gefnogaeth i rai plant anabl gan hyd at £27 y wythnos?

 

The First Minister: I condemn what it plans to do and it is important that we have a benefits system that is appropriate for people’s needs rather than the desire of the UK Government to make cuts.

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn condemnio’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud, ac mae’n bwysig bod gennym system fudd-daliadau sy’n briodol ar gyfer anghenion pobl yn hytrach nag awydd Llywodraeth y DU i wneud toriadau.

 

Dyfodol S4C

Future of S4C

 

2. Keith Davies: Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda San Steffan ynglŷn â dyfodol S4C. OAQ(4)0158(FM)

 

2. Keith Davies: What discussions has the First Minister had with the UK Government about the future of S4C. OAQ(4)0158(FM)

 

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn cael trafodaethau rheolaidd mewn perthynas â materion darlledu sy’n effeithio ar Gymru. Ar 6 Gorffennaf, cefais gyfarfod ffurfiol â Jeremy Hunt ac yr oedd S4C yn rhan o’r trafodaethau hynny.

 

The First Minister: I have regular discussions with regard to broadcasting issues that affect Wales. On 6 July, I had a formal meeting with Jeremy Hunt and S4C was covered in those discussions.

 

Keith Davies: Ymddengys nad yw Llywodraeth San Steffan yn pwyso ar y BBC i sicrhau annibyniaeth S4C. A wnewch chi barhau yn eich ymdrechion i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau S4C sy’n annibynnol ac sydd wedi’i hariannu’n gywir?

 

Keith Davies: It appears that the Westminster Government is not putting pressure on the BBC to ensure the independence of S4C. Will you continue in your efforts to put pressure on the United Kingdom Government to ensure an independent and properly funded S4C?

 

Y Prif Weinidog: Dyna beth yw safbwynt y Llywodraeth a safbwynt y Cynulliad cyfan. Mae’n bwysig dros ben bod annibyniaeth S4C yn cael ei gwarchod a bod digon o arian ar gael fel bod S4C yn gallu creu gwasanaeth sy’n iawn i bobl Cymru.

 

The First Minister: That is the view of the Government and the view of the whole Assembly. It is very important that S4C’s independence is safeguarded and that there is sufficient funding available to enable S4C to provide a service that is right for the people of Wales.

 

Suzy Davies: Er nad yw darlledu wedi’i ddatganoli, mae’r cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg wedi’i ddatganoli. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno bod achos i S4C adrodd i’r Cynulliad yn swyddogol ar effeithiolrwydd ei ymrwymiad darlledu cyhoeddus i’r iaith?

 

Suzy Davies: Although broadcasting is not a devolved issue, the responsibility for the Welsh language is devolved. Does the First Minister agree that there is a case for S4C to report to the Assembly on the effectiveness of its public broadcasting commitment to the Welsh language?

 

Y Prif Weinidog: Ydw, yr wyf yn cytuno â hynny. Credaf ei bod yn bwysig dros ben bod cysylltiad rhwng y Cynulliad yn gyfan gwbl â S4C. Fel rhan o’r cysylltiad hwnnw, mae’n bwysig bod rhyw fath o system o adrodd, lle y gall S4C ddod i’r Cynulliad i roi adroddiad blynyddol i’r Llywodraeth a’r Cynulliad fel y gall Aelodau weld yr hyn y mae S4C yn ei wneud.

 

The First Minister: Yes, I agree with that. I believe that it is very important that there should be a link between the Assembly as a whole and S4C. As part of that link, there should be some system of reporting, where S4C would come to the Assembly to report annually to the Government and the Assembly so that Members can see what S4C is doing.

 

Alun Ffred Jones: I ddilyn sylwadau Keith Davies, credaf fod un mater yn flaenoriaeth: mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi cynnig gwelliant i’w Bil ei hun sy’n awgrymu bod y cyfrifoldeb o sicrhau cyllid teg i S4C yn gorwedd gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Ar yr un pryd, mae’r Llywodraeth wedi dod i gytundeb â’r BBC sy’n dweud mai’r BBC fydd yn gyfrifol am ariannu S4C a phenderfynu ar y lefelau. Ni all y ddau beth hwnnw gyd-fynd, a gofynnaf i chi ddefnyddio pob cyfle a gewch i bwyso ar y Llywodraeth yn Llundain i sicrhau nad y BBC fydd yn gyfrifol am ariannu S4C yn uniongyrchol, neu bydd hynny’n rhoi S4C mewn sefyllfa wan iawn.

 

Alun Ffred Jones: Following on from Keith Davies’s comments, I think that one matter is a priority: the Government in London has tabled an amendment to its own Bill that suggests that the responsibility for ensuring fair funding for S4C lies with the Secretary of State. At the same time, the Government has reached an agreement with the BBC that states that the BBC should be responsible for funding S4C and deciding on the levels. Those two issues are incompatible with each other and I ask you to use every opportunity to put pressure on the Government in London to ensure that the BBC will not be responsible for directly funding S4C, or that will put S4C in a very weak position.

 

Y Prif Weinidog: Barn y pleidiau i gyd yn y Cynulliad hwn yw y dylai S4C fod yn gorff cryf ac annibynnol sy’n cael ei ariannu mewn ffordd sy’n gallu sicrhau gwasanaeth teg a da i bobl Cymru, ac nid yw’r sefyllfa honno wedi newid.

 

The First Minister: All the parties in this Assembly are agreed that S4C should be a strong and independent organisation that is funded in a way that ensures a fair and proper service for the people of Wales, and that position has not changed.

 

Aled Roberts: Yr wyf yn cefnogi’r hyn a ddywedodd Alun Ffred Jones ac yn derbyn bod cyfrifoldeb arnom ni, yn y ddwy blaid hon, i ddylanwadu ar ein ffrindiau yn San Steffan. Fodd bynnag, a wnewch chi gymryd y cyfle i ddweud wrth y Llywodraeth ein bod yn unfrydol yn y Cynulliad hwn ein bod am sicrhau annibyniaeth S4C ac nad ydym yn derbyn bod gan y BBC yr hawl i benderfynu ar ariannu S4C ar ôl 2015?

 

Aled Roberts: I support what Alun Ffred Jones said, and accept that there is a responsibility on us, in these two parties, to influence our friends in Westminster. However, will you take the opportunity to tell the Government that we are unanimous in this Assembly that we wish to secure the independence of S4C and that we do not accept that the BBC has the right to decide on the funding of S4C post 2015?

 

Y Prif Weinidog: Mae’r safbwynt hwnnw wedi cael ei roi yn glir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

 

The First Minister: That view has been expressed clearly to the United Kingdom Government.

 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

 

Questions Without Notice from the Party Leaders

 

The Leader of the Welsh Liberal Democrats (Kirsty Williams): First Minister, are you satisfied with the current levels of patient safety in risk registers kept by local health boards across Wales?

 

Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (Kirsty Williams): Brif Weinidog, a ydych yn fodlon ar y lefelau cyfredol o ddiogelwch cleifion mewn cofrestrau risg a gedwir gan fyrddau iechyd lleol ar draws Cymru?

 

The First Minister: Yes.

 

Y Prif Weinidog: Ydw.

 

Kirsty Williams: Thank you for that answer. I am assuming that you have read those risk registers for you to be able to give such a definitive answer, and if you have read them, I am surprised at your answer. For those who do not know, risk registers provide a snapshot of the state of our NHS and monitor the levels of risk. Did you know—you obviously do because you are satisfied with them—that if you have a heart attack in Pembrokeshire, it has been assessed by the local health board as ‘almost certain to result in death because of a lack of facilities’? In the same area, if you have a stroke outside of 9 a.m. to 5 p.m., you are ‘almost certain to die or suffer multiple permanent injuries’ because there is no stroke thrombolysis service outside of 9 a.m. to 5 p.m., but that is obviously acceptable to you. In Cardiff, there is the risk of ‘death and multiple permanent injuries because of an inability to secure timely access to emergency beds’. The likelihood of that happening to a patient is ‘almost certain’. Would you like to reconsider your first answer?

 

Kirsty Williams: Diolch am yr ateb hwnnw. Yr wyf yn cymryd eich bod wedi darllen y cofrestri risg hynny er mwyn ichi allu rhoi ateb mor bendant, ac os ydych wedi eu darllen, yr wyf yn synnu at eich ateb. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gwybod, mae cofrestri risg yn rhoi ciplun o gyflwr ein gwasanaeth iechyd gwladol ac yn monitro lefelau risg. A oeddech chi’n gwybod—ac mae’n amlwg eich bod oherwydd eich bod yn fodlon â hwy—petaech yn dioddef trawiad ar y galon yn sir Benfro, asesiad y bwrdd iechyd lleol yw y bydd y trawiad bron yn sicr o arwain at farwolaeth oherwydd diffyg cyfleusterau? Yn yr un ardal, os ydych yn dioddef strôc y tu allan i’r oriau 9 a.m. i 5 p.m., rydych bron yn sicr o farw neu ddioddef anafiadau parhaol lluosog oherwydd nad oes gwasanaeth thrombolysis strôc y tu allan i oriau 9 a.m. i 5 p.m., ond mae hynny’n amlwg yn dderbyniol i chi. Yng Nghaerdydd, mae risg o farwolaeth ac anafiadau parhaol lluosog oherwydd anallu i sicrhau mynediad amserol at welyau argyfwng. Mae’n debyg bod hynny bron yn sicr o ddigwydd i glaf. A hoffech chi ailystyried eich ateb cyntaf?

 

The First Minister: No, I will not reconsider it. In my view, our NHS is performing well. If you look at the figures in Wales, we have an NHS of which we are proud. Selectively taking sentences and statements from a document is not the way to assess the NHS in Wales.

 

Y Prif Weinidog: Na, ni wnaf ei ailystyried. Yn fy marn i, mae ein gwasanaeth iechyd gwladol yn perfformio’n dda. Os edrychwch ar y ffigurau yng Nghymru, mae gennym GIG yr ydym yn falch ohono. Nid dewis a dethol datganiadau o ddogfen yw’r ffordd i asesu’r GIG yng Nghymru.

 

Kirsty Williams: The words that I have quoted are not my words; they are the words of local health boards that are required to carry out a risk assessment. At least with those risk assessments, the LHBs are admitting to the scale of the problems and the challenges that they are facing. Are you prepared to face up to those same challenges? It seems to me, First Minister, from your attitude this afternoon, that you are not. We often hear talk in politics of a postcode lottery in the health service. Do you agree that if you actually looked at those risk registers, you would find that, in Wales, it is more like Russian roulette?

 

Kirsty Williams: Nid fy ngeiriau i yw’r geiriau yr wyf wedi eu dyfynnu; geiriau byrddau iechyd lleol sy’n gorfod gweithredu asesiadau risg ydynt. O leiaf gyda’r asesiadau risg hynny, mae’r byrddau iechyd lleol yn cyfaddef maint y broblem a’r heriau y maent yn eu hwynebu. A ydych yn barod i wynebu’r heriau hynny? Ymddengys i mi, Brif Weinidog, o’ch agwedd y prynhawn yma, nad ydych yn barod i wneud hynny. Rydym yn aml yn clywed sôn ym myd gwleidyddiaeth am loteri yn ôl côd post o fewn y gwasanaeth iechyd. A ydych yn cytuno y byddech, petaech yn edrych ar y cofrestri risg hynny, yn gweld, yng Nghymru, ei fod yn debygach i rwlét y Rwsiaid?

 

The First Minister: No, I do not and I do not think that phrases like that are helpful to the NHS. The reality is that most people in the NHS, and most people in Wales, are very happy with the service that they receive. We all know that there are some areas where we wish to see improvement and that is why the Minister for Health and Social Services is ever vigilant in ensuring that she moves forward in constantly improving the NHS in Wales. I do not accept this story that, somehow, if you live in Wales, it is a matter of chance whether you die or not; that is ridiculous.

 

Y Prif Weinidog: Na, nid wyf yn cytuno ac nid wyf yn meddwl bod ymadroddion fel hynny o help i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Y realiti yw bod y rhan fwyaf o bobl yn y GIG, a’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn. Rydym i gyd yn gwybod bod yna rai meysydd lle dymunwn weld gwelliant a dyna pam y mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hyd yn oed yn fwy gofalus i sicrhau ei bod yn symud ymlaen i wella’r GIG yng Nghymru yn gyson. Nid wyf yn derbyn y stori, os ydych yn byw yng Nghymru, ei fod, rhywsut, yn fater o hap a damwain a ydych yn byw ai peidio; mae hynny’n hurt.

 

The Leader of the Opposition (Andrew R.T. Davies): Is the First Minister satisfied with the level of support that the economic renewal programme is offering Welsh businesses?

 

Arweinydd yr Wrthblaid (Andrew R.T. Davies): A ydyw’r Prif Weinidog yn fodlon ar y lefel o gymorth y mae rhaglen adnewyddu’r economi yn ei gynnig i fusnesau Cymru?

 

The First Minister: Yes.

 

Y Prif Weinidog: Ydw.

 

Andrew R.T. Davies: Thank you, First Minister, for that. It is a little startling that you are satisfied with that, given that in the first six months of this financial year, only 16 businesses were attracting support from the economic renewal programme. In the first two months of this year, 130 businesses went out of business in Wales. Do you not think that the Welsh Government could, bearing in mind those figures, be more proactive in supporting Welsh business and using the economic renewal programme more effectively?

 

Andrew R.T. Davies: Diolch, Brif Weinidog, am hynny. Mae hi ychydig yn frawychus eich bod yn fodlon â hynny, o ystyried mai dim ond 16 o fusnesau a dderbyniodd gefnogaeth gan raglen adnewyddu’r economi yn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon. Yn neufis cyntaf y flwyddyn hon, aeth 130 o fusnesau allan o fusnes yng Nghymru. Onid ydych yn meddwl y gallai Llywodraeth Cymru, gan gofio’r ffigurau hynny, fod yn fwy rhagweithiol wrth gefnogi busnesau Cymru a defnyddio rhaglen adnewyddu’r economi yn fwy effeithiol?

 

The First Minister: It has been used effectively. The figure you quote is from the programme when it first started. As it is rolling forward, so it is that more businesses are being supported.

 

Y Prif Weinidog: Y mae wedi cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Mae’r ffigwr yr ydych yn ei ddyfynnu o’r rhaglen pan ddechreuodd gyntaf. Wrth iddo fynd yn ei flaen, mae mwy o fusnesau’n cael eu cefnogi.

 

Andrew R.T. Davies: I think you will find that those figures are from this financial year—April through to September, not back to 2009, so you are quoting misinformed facts. They are for April through to September. On business support and turnaround, the time taken for the Welsh Government to determine that level of support is increasing as well. Before 2009, it used to take 12 working days to offer an element of support to businesses. It is now taking a month for the Government to turn around those applications. Given that fewer businesses are being offered support, and the time it takes to indicate whether the Welsh Government will offer that support, do you not think that the Government needs to be more proactive in offering support to businesses, especially as the economic renewal programme is not delivering as these figures clearly indicate?

 

Andrew R.T. Davies: Credaf y byddwch yn canfod bod y ffigurau hynny o’r flwyddyn ariannol hon—o fis Ebrill hyd at fis Medi, nid o 2009, felly yr ydych yn dyfynnu ffeithiau camarweiniol. Maent ar gyfer Ebrill hyd at fis Medi. Ar gymorth busnes a gweithdroad, mae’r amser a gymerir gan Lywodraeth Cymru i benderfynu’r lefel honno o gefnogaeth yn cynyddu hefyd. Cyn 2009, arferai gymryd 12 diwrnod gwaith i gynnig elfen o gefnogaeth i fusnesau. Mae bellach yn cymryd mis i’r Llywodraeth i brosesu’r ceisiadau hynny. O gofio bod llai o fusnesau yn cael cynnig cymorth, a’r amser y mae’n ei gymryd i nodi a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y gefnogaeth honno, onid ydych yn credu bod angen i’r Llywodraeth fod yn fwy rhagweithiol wrth gynnig cymorth i fusnesau, yn enwedig gan nad yw rhaglen adnewyddu’r economi yn cyflawni, fel y mae’r ffigurau hyn yn eu dangos yn glir?

 

1.45 p.m.

 

The First Minister: These are not comments that I have heard from businesses in Wales,these are not comments that I have heard from businesses in Wales—such comments have not been made to me or to the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science. Indeed, businesses are more than happy with the level of support that they are receiving in Wales, and the council for economic renewal, when it meets on 9 November, will be an opportunity for us to discuss what can be done to improve the situation, if that is required, and indeed for businesses to put forward their views as to the future of economic renewal and the programme in Wales.

 

Y Prif Weinidog: Nid yw’r rhain yn sylwadau yr wyf wedi’u clywed gan fusnesau yng Nghymru—nid oes sylwadau o’r fath wedi cael eu gwneud i mi nac i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth. Yn wir, mae busnesau yn fwy na hapus gyda lefel y cymorth y maent yn ei chael yng Nghymru, a bydd y cyngor ar gyfer adnewyddu’r economi, pan fydd yn cyfarfod ar 9 Tachwedd, yn gyfle i ni drafod beth y gellir ei wneud i wella’r sefyllfa, os oes angen hynny, ac, yn wir, yn gyfle i fusnesau i gyflwyno eu barn ynghylch dyfodol adnewyddu’r economi a’r rhaglen yng Nghymru.

 

The Leader of Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Today, First Minister, we have had the announcement on the commission on devolution in Wales, and I am sure that we all wish the members of the commission well as they start on a very important piece of work. However, I was surprised today by a statement from your leader, Peter Hain, who says that he is sceptical of the impact of any tinkering with the funding formula. Do you agree with your leader?

 

Arweinydd Plaid Cymru (Ieuan Wyn Jones): Heddiw, Brif Weinidog, yr ydym wedi cael y cyhoeddiad ar y comisiwn ar ddatganoli yng Nghymru, ac yr wyf yn sicr ein bod ni i gyd yn dymuno’n dda i aelodau’r comisiwn wrth iddynt ddechrau ar ddarn o waith pwysig iawn. Fodd bynnag, cefais fy synnu heddiw gan ddatganiad gan eich arweinydd, Peter Hain, sy’n dweud ei fod yn amheus o effaith unrhyw dincran â’r fformiwla ariannu. A ydych yn cytuno â’ch arweinydd?

 

The First Minister: I will have to check what your leader, Elfyn Llwyd, says before I consider what anyone else in Parliament might say. The position of all parties in this Chamber is clear: we very much welcome the commission and look forward to it delivering a comprehensive report in due course.

Y Prif Weinidog: Bydd rhaid imi gadarnhau beth mae eich arweinydd chi, Elfyn Llwyd, wedi’i ddweud cyn i mi ystyried beth y gallai unrhyw un arall yn y Senedd fod wedi’i ddweud. Mae safle pob plaid yn y Siambr hon yn glir: yr ydym yn croesawu’r comisiwn yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen ato’n cyflwyno adroddiad cynhwysfawr yn y man.

 

Ieuan Wyn Jones: I notice that you do not deny that Peter Hain is your leader, because he says so on his website: ‘it is a privilege to be leading again for Labour in Wales’. We will leave that for the time being.

Ieuan Wyn Jones: Sylwaf nad ydych yn gwadu mai Peter Hain yw eich arweinydd, oherwydd ei fod yn dweud hynny ar ei gwefan: ‘mae’n fraint i fod yn arwain eto ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru’. Gadawn ni hynny am y tro.

 

The serious issue is this: Peter Hain does not think that there should be any reform of the Barnett formula. That is a serious issue that we need to address, because if the commission is to start its work properly, it needs to know that there is a united position in Wales on the need for reform of Barnett. Will you say categorically that the position of the Welsh Government has not changed, and that you as a Government believe that that funding formula needs fundamental reform?

Y mater difrifol yw hyn: nid yw Peter Hain yn meddwl y dylid cael unrhyw ddiwygio ar fformiwla Barnett. Mae hynny’n fater difrifol y mae angen inni roi sylw iddo, oherwydd os yw’r comisiwn i ddechrau ar ei waith yn iawn, mae angen iddo wybod bod farn unfrydol yng Nghymru ar yr angen i ddiwygio fformiwla Barnett. A wnewch chi ddweud yn bendant nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru wedi newid, a’ch bod chi fel Llywodraeth yn credu bod angen diwygio’r fformiwla ariannu’n sylfaenol?

 

The First Minister: In fairness, if Peter Hain has used the word ‘tinkering’, he is right; we do not want tinkering—we want fundamental change. That is the position of the Government, and it has not changed.

Y Prif Weinidog: A bod yn deg, os yw Peter Hain wedi defnyddio’r gair ‘tincran’, mae’n iawn; nid ydym am tincran—yr ydym am newid sylfaenol. Dyna safbwynt y Llywodraeth, ac nid yw wedi newid.

 

Ieuan Wyn Jones: I would like to know if that is Peter Hain’s position, because I doubt whether it is; it is certainly not the position of Ed Balls. However, never mind, let us come on to the real issue here—how we will be spending our Welsh money in this particular economic crisis. I am sure that you are also aware that tomorrow’s figures for youth unemployment are likely to show a substantial increase. There are already 50,000 young people out of work in Wales—those are the latest figures—and the likelihood is that that will shoot up. All the commentators are now saying that. You have made an announcement about your Welsh jobs fund, which you say will help 4,000 young people. Given that we are likely to see the unemployment figures increase substantially over the next 18 months or so, what additional help will you give our young people in these dire economic circumstances?

Ieuan Wyn Jones: Hoffwn wybod ai safbwynt Peter Hain yw hwnnw, oherwydd yr wyf yn amau hynny; yn sicr nid safbwynt Ed Balls ydyw. Fodd bynnag, dim ots, gadewch i ni ddod at y mater go iawn fan hyn—sut y byddwn yn gwario ein harian Cymraeg yn yr argyfwng economaidd penodol. Yr wyf yn siŵr eich bod hefyd yn ymwybodol bod y ffigurau yfory ar gyfer diweithdra ymhlith pobl ifanc yn debygol o ddangos cynnydd sylweddol. Mae yna eisoes 50,000 o bobl ifanc ddi-waith yng Nghymru—dyna’r ffigurau diweddaraf—ac mae’n debygol y bydd hynny’n saethu i fyny. Mae pob sylwebydd yn dweud hynny bellach. Yr ydych wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch eich cronfa swyddi yng Nghymru, a dywedwch y bydd yn helpu 4,000 o bobl ifanc. O gofio ein bod yn debygol o weld y ffigurau diweithdra’n cynyddu’n sylweddol dros y 18 mis nesaf, pa help ychwanegol y byddwch yn ei roi i’n pobl ifanc yn yr amgylchiadau economaidd enbyd hyn?

 

The First Minister: I agree that we need to ensure that there are more resources available for jobs and skills. As I have said in the Chamber, the consequential that we receive from the UK Government because of its decision on council tax provides us with a pot of money that could profitably be used for that. I look forward to further discussions with you on how that money might best be used to create jobs and improve skills.

Y Prif Weinidog: Cytunaf fod angen inni sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael ar gyfer swyddi a sgiliau. Fel yr wyf wedi’i ddweud yn y Siambr, mae’r swm canlyniadol a gawn gan Lywodraeth y DU oherwydd ei benderfyniad ar y dreth gyngor yn rhoi pot o arian i ni a allai gael ei ddefnyddio ar gyfer hynny’n broffidiol. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaethau pellach gyda chi ar sut y gallai’r arian hwnnw gael ei ddefnyddio orau i greu swyddi a gwella sgiliau.

 

Y Llywydd: Tynnwyd cwestiwn 3, OAQ(4)0159(FM), yn ôl.

 

The Presiding Officer: Question 3, OAQ(4)0159(FM), has been withdrawn.

Gwasanaeth Iechyd

The Health Service

 

4. Elin Jones: Sut y bydd eich Llywodraeth yn cefnogi’r gwasanaeth iechyd. OAQ(4)0163(FM)

 

4. Elin Jones: How will the Welsh Government be supporting the health service. OAQ(4)0163(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad, cyfeiriad strategol ac ystod o gymorth ymarferol a chanllawiau i’r GIG yng Nghymru.

The First Minister: The Welsh Government provides leadership, strategic direction and a range of practical support and guidance for NHS in Wales.

 

Elin Jones: The health boards will soon be publishing their clinical services plans. Would you expect full, open, local consultation by health boards on these plans, and total honesty on what any changes will mean for communities? Will you issue guidance to local health boards on your Government’s expectation of clear and honest consultation? If there needs to be change in the NHS, then, at the very least, it should be proposed honestly.

 

Elin Jones: Bydd y byrddau iechyd yn fuan yn cyhoeddi eu cynlluniau gwasanaethau clinigol. A fyddech yn disgwyl ymgynghori llawn, agored, lleol gan fyrddau iechyd ar y cynlluniau hyn, a gonestrwydd llwyr ynglŷn â beth fydd unrhyw newidiadau yn eu golygu i gymunedau? A wnewch chi gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ynghylch y ffaith bod eich Llywodraeth yn disgwyl ymgynghori clir ac onest? Os oes angen newid yn y GIG, yna, ar y lleiaf, dylid ei gynnig yn onest.

 

The First Minister: That is true. It is crucial that, where there is consultation, it should be honest and clear. I could not disagree with what was said.

Y Prif Weinidog: Mae hynny’n wir. Mae’n hollbwysig, lle mae ymgynghori, ei fod yn onest ac yn glir. Ni allaf anghytuno â’r hyn a ddywedwyd.

 

Darren Millar: First Minister, you claim to be supporting the NHS in Wales, but the reality is that you are hindering it, particularly when it comes to clearing the backlog of 6,000 patients waiting over 36 weeks for their orthopaedic treatment. Your targets for orthopaedic treatment are being missed on a regular basis, and the waiting lists are growing ever longer. I accept, and welcome, that your Government has put more money into addressing this particular problem. However, given that some health boards have come forward with proposals to use some of the slack in the private sector to address the backlog on these waiting lists, to ensure that people are treated within a reasonable time frame, what support will your Government give to them in delivering their plans?

Darren Millar: Brif Weinidog, yr ydych yn honni eich bod yn cynorthwyo’r GIG yng Nghymru, ond y gwir amdani yw eich bod yn ei lesteirio, yn enwedig pan ddaw i glirio’r ôl-groniad o 6,000 o gleifion sy’n aros dros 36 wythnos am eu triniaeth orthopedig. Mae eich targedau ar gyfer triniaeth orthopedig yn cael eu colli yn rheolaidd, ac mae’r rhestrau aros yn parhau i dyfu. Yr wyf yn derbyn, ac yn croesawu, fod eich Llywodraeth wedi darparu mwy o arian i fynd i’r afael â’r broblem benodol hon. Fodd bynnag, gan fod rhai byrddau iechyd wedi cyflwyno cynigion i ddefnyddio rhywfaint o’r slac yn y sector preifat i fynd i’r afael â’r ôl-groniad ar y rhestrau aros, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu trin o fewn amserlen resymol, pa gefnogaeth y bydd eich Llywodraeth yn ei roi iddynt wrth gyflawni eu cynlluniau?

 

The First Minister: I am only aware of one mention by one health board of this issue. We provide a substantial amount of money—£65 million—to deal with the backlog in orthopaedic services due to the large increase in the numbers of people being referred. However, it remains the case that we are getting on with the task of reducing the problems in orthopaedics, as we said that we would. I welcome the fact that, unlike elsewhere in the UK, we do not see letters in newspapers from physicians telling us that our health policy is wrong.

Y Prif Weinidog: Yr wyf ond yn ymwybodol o un sylw gan un bwrdd iechyd ar y mater hwn. Rydym yn darparu swm sylweddol o arian—£65 miliwn—i ddelio â’r ôl-groniad yn y gwasanaethau orthopedig oherwydd y cynnydd mawr yn nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn wir ein bod yn bwrw ymlaen â’r dasg o leihau’r problemau mewn orthopedeg, fel y dywedasom y byddem. Croesawaf y ffaith nad ydym, yn wahanol i rannau eraill o’r DU, yn gweld llythyrau yn y papurau newydd gan feddygon yn dweud wrthym fod ein polisi iechyd yn anghywir.

 

William Powell: Recent performance reports from the Hywel Dda Local Health Board indicate that, between April and July of this year, the number of in-patients over the age of 66 who have acquired Clostridium difficile has tripled, from 20 to some 66 cases, which is an alarming trend. First Minister, what support are you giving, in particular to the Hywel Dda board and other boards across Wales, for tackling hospital-acquired infections?

William Powell: Mae adroddiadau perfformiad diweddar gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn dangos, rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf eleni, fod nifer y cleifion mewnol dros oed 66 sydd wedi cael Clostridium difficile wedi treblu, o 20 i ryw 66 o achosion, sydd yn duedd frawychus. Brif Weinidog, pa gymorth yr ydych yn ei roi, yn enwedig i fwrdd Hywel Dda a byrddau eraill ar draws Cymru, i fynd i’r afael â heintiau a gafwyd yn yr ysbyty?

 

 

The First Minister: There are established procedures for dealing with C. difficile. We have seen a reduction in the number of people presenting with that infection at hospitals in Wales. The number peaked in 2008, but it has reduced since that time.

Y Prif Weinidog: Mae gweithdrefnau wedi’u sefydlu ar gyfer ymdrin â C. difficile.  Yr ydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy’n cyflwyno gyda’r haint mewn ysbytai yng Nghymru. Cyrhaeddodd y rhif uchafbwynt yn 2008, ond mae wedi gostwng ers hynny.

 

Gwasanaethau Deintyddol

Dental Services

 

5. Paul Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau deintyddol yng Nghymru. OAQ(4)0162(FM)

 

5. Paul Davies: Will the First Minister make a statement on the delivery of dental services in Wales. OAQ(4)0162(FM)

 

Y Prif Weinidog: Mae’r mater hwn yn gyfrifoldeb i’r byrddau iechyd lleol. Mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau bod gwasanaethau deintyddol ar gael yn eu hardaloedd.

 

The First Minister: This matter is the responsibility of the local health boards. They have a responsibility to ensure that dental services are available in their areas.

Paul Davies: Byddwch yn ymwybodol fod Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y trydydd Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad i wasanaethau orthodontig. Deallaf fod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bryd hynny wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i gefnogi sefydlu rhwydweithiau clinigol a reolir mewn orthodonteg, a bod un wedi’i sefydlu yn fy ardal i gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae hyn yn hynod bwysig i’m hetholwyr, gan fod llawer ohonynt yn dioddef oherwydd diffyg gofal orthodontig yn yr ardal ac yn gorfod teithio i Abertawe i gael triniaeth. A amlinellwch, felly, pa gynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r rhwydwaith clinigol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, a pha ymdrech a wneir i ail-leoli gofal orthodontig yn ôl yn sir Benfro?

 

Paul Davies: You will be aware that the Health, Wellbeing and Local Government Committee of the third Assembly conducted an inquiry into orthodontic services. I understand that the Minister for Health and Social Services at the time accepted the committee’s recommendation to support the establishment of local managed clinical networks in orthodontics, and that one has been established in my area by Hywel Dda Local Health Board. As you will appreciate, this is particularly important for my constituents, as many of them suffer from a lack of orthodontic care in the area and have to travel to Swansea for treatment. Will you outline, therefore, what progress has been made with the clinical network in the Hywel Dda health board area, and what efforts are being made to relocate orthodontic care back into Pembrokeshire?

 

Y Prif Weinidog: Mae proses weithredu wedi’i sefydlu er mwyn symud ymlaen gydag argymhellion y pwyllgor fel rhan o’i adolygiad o orthodonteg. O ran ardal Hywel Dda, mae gwasanaethau ar gael yn Ysbyty Treforys, ond y broblem ar hyn o bryd yw sicrhau bod orthodeintydd yn cael ei benodi yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Mae sawl ymgais wedi’i wneud i benodi rhywun, ond yn aflwyddiannus hyd yma. Yr ydym eisiau sicrhau bod gan bobl fynediad i wasanaethau deintyddol. Fodd bynnag, o ran sir Benfro, mae canolfannau yn Hendy-gwyn ar Daf, Hwlffordd ac Aberdaugleddau sy’n derbyn cleifion ar hyn o bryd dan y gwasanaeth iechyd gwladol.

 

The First Minister: An action pathway has been established to progress the committee’s recommendations as part of the orthodontics review. With regard to the Hywel Dda area, services are available at Morriston Hospital, but the problem at the moment is ensuring that an orthodonist is appointed at Withybush General Hospital. Several attempts have been made to appoint someone, but they have been unsuccessful to date. We want to ensure that people have access to dental services. However, in relation to Pembrokeshire, there are centres in Whitland, Haverfordwest and Milford Haven that are currently taking patients under the NHS.

Llyr Huws Gruffydd: Yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, dim ond 46 y cant o oedolion a 59 y cant o blant sydd wedi gweld deintydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda rhai o’r rheini yn wynebu teithiau, yno ac yn ôl, o hyd at 100 milltir er mwyn cael gweld deintydd y GIG. Llwyddodd Llywodraeth Cymru’n Un i sicrhau bod 200 yn fwy o ddeintyddion Cymru yn gwneud gwaith i’r GIG, ac mae eich rhaglen lywodraethu chi yn dweud eich bod am wella mynediad i ddeintyddion lle mae prinder lleol. Felly, beth yw targed eich Llywodraeth chi o ran mwy o ddeintyddion yn gwneud gwaith i’r GIG?

 

Llyr Huws Gruffydd: In the Betsi Cadwaladr University Local Health Board area, only 46 per cent of adults and 59 per cent of children have seen a dentist in the last two years, with some of those people facing round journeys of about 100 miles in order to see an NHS dentist. The One Wales Government succeeded in ensuring that an additional 200 dentists were doing work for the NHS, and your programme for government states that you want to improve access to dentists where there is a local shortage. Therefore, what is the Government’s target on how many more dentists you want to see doing work for the NHS?

 

Y Prif Weinidog: Mae nifer y deintyddion sy’n gwneud gwaith i’r GIG wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ac mae’r ffigur bellach wedi cyrraedd 1,300 a mwy. Mae’r sefyllfa wedi gwella llawer dros y blynyddoedd, ac, ar hyn o bryd, mae’n wir dweud bod mynediad i wasanaethau deintyddol yng Nghymru lawer yn well nag ydoedd ddegawd a mwy yn ôl.

 

The First Minister: The number of dentists doing work for the NHS has increased over the years, and has now reached 1,300 plus. The situation has vastly improved over the years, and, at present, it is true to say that access to dental services in Wales is very much better than it was a decade or more ago.

Cefnogi Busnesau

Support for Businesses

 

6. Julie James: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nghymru. OAQ(4)0167(FM)

 

6. Julie James: What are the Welsh Government’s plans to support businesses in Wales. OAQ(4)0167(FM)

The First Minister: The plans are set out in the programme for government.

Y Prif Weinidog: Mae’r cynlluniau wedi’u nodi yn y rhaglen lywodraethu.

 

Julie James: I welcome the Government’s commitment to business in the programme for government. I have been working closely with Swansea city centre businesses in my constituency, which are concerned for their livelihoods during the downturn. Will the First Minister touch upon what preparations the Government has been making to replace or extend the business rate relief scheme for Welsh businesses?

Julie James: Croesawaf ymrwymiad y Llywodraeth i fusnes yn y rhaglen lywodraethu. Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gyda busnesau canol dinas Abertawe yn fy etholaeth, sydd yn poeni am eu bywoliaeth yn ystod y dirywiad. A wnaiff y Prif Weinidog sôn am y paratoadau y mae’r Llywodraeth wedi eu gwneud er mwyn cymryd lle neu i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau yng Nghymru?

 

The First Minister: As you know, the scheme will remain in place until 30 September of next year. A review will take place, which will look at rate relief for small businesses in Wales.

Y Prif Weinidog: Fel y gwyddoch, bydd y cynllun yn aros yn ei le hyd at 30 Medi y flwyddyn nesaf. Cynhelir adolygiad a fydd yn edrych ar ryddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru.

 

Nick Ramsay: I am pleased to hear the conversion of some Labour Members to a full business rate relief scheme; we have been calling for that. First Minister, I am sure that you agree—as does the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science—that speedy access to the Welsh Government is necessary, particularly for new and expanding firms. However, it is often not that they just need to know whether they can access resource, but need to know as quickly as possible. On that basis, will you commit to doing what you can to ensure that there is more of a one-stop-shop approach with regard to the Welsh Government’s dealing with businesses in Wales? The entrepreneurial sector, in particular, needs access to information as swiftly as possible and needs a single point of contact because for business, speed is of the essence.

Nick Ramsay: Yr wyf yn falch o glywed tröedigaeth rhai Aelodau Llafur i gynllun rhyddhad ardrethi busnes llawn; yr ydym wedi bod yn galw am hynny. Brif Weinidog, yr wyf yn siŵr y cytunwch—fel y gwna’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth—fod mynediad cyflym i Lywodraeth Cymru yn angenrheidiol, yn enwedig ar gyfer cwmnïau newydd sydd yn ehangu. Fodd bynnag, yn aml, nid yn unig y mae angen iddynt wybod a allant gael gafael ar adnoddau, ond mae ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Ar sail hynny, a wnewch chi ymrwymo i wneud yr hyn a allwch i sicrhau bod mwy o ymagwedd siop-un-stop o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn delio â busnesau yng Nghymru? Mae’r sector entrepreneuraidd, yn benodol, angen mynediad i wybodaeth cyn gynted ag y bo modd ac mae angen un pwynt cyswllt oherwydd, i fusnes, mae cyflymder yn hanfodol.

 

The First Minister: I agree with that. It is important that there is a one-stop-shop approach. We are continuing to develop that in order to help businesses in Wales.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn cytuno â hynny. Mae’n bwysig bod yna ddull siop-un-stop. Rydym yn parhau i ddatblygu hwnnw er mewn helpu busnesau yng Nghymru.

 

Simon Thomas: Bydd datblygu’r economi werdd yn hanfodol bwysig yn ystod tymor nesaf y Senedd hon. Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau ein bod yn cael y fargen orau o’r fargen werdd a fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf? Mae’r fargen werdd yn golygu £7 biliwn y flwyddyn ledled Prydain ar gyfer gwneud tai yn glyd ac i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Byddai sicrhau cyfran deg o’r fargen werdd yn golygu llawer o swyddi a sgiliau newydd yng Nghymru, yn ogystal â helpu gyda’r targedau newid yn yr hinsawdd. A yw’r Prif Weinidog yn llwyr argyhoeddedig ac yn hyderus fod y Llywodraeth hon yn barod i fanteisio’n llawn ar y fargen werdd?

 

Simon Thomas: Developing the green economy will be crucial during the next term of this Senedd. What steps is the Government taking to ensure that we get the best deal from the green deal that will come into force next year? The green deal means that £7 billion a year will be spent throughout Britain to keep houses warm and to tackle fuel poverty. Ensuring a fair share of the green deal would create many new jobs and skills in Wales, as well as helping with the climate change target. Is the First Minister fully convinced and confident that this Government is ready to take full advantage of the green deal?

Y Prif Weinidog: Ydw. Yr ydym bob amser yn ceisio cael y fargen orau i Gymru, boed yn fargen werdd neu’n fargen o unrhyw liw arall. Mae’n hollbwysig ein bod mewn sefyllfa i elwa, ac yr ydym yn hyderus ein bod yn y sefyllfa honno.

The First Minister: Yes. We will always try to get the best deal for Wales, whether it is a green deal or a deal of any other hue. It is crucial that we are in a position to benefit from this, and we are confident that we are in that position.

 

Eluned Parrott: The Government has talked in the past about tax increment financing. Are the First Minister and his Cabinet closer to making a decision on allowing this form of investment by local authorities?

 

Eluned Parrott: Mae’r Llywodraeth wedi siarad yn y gorffennol am ariannu drwy gynyddrannau treth. A yw’r Prif Weinidog a’i Gabinet yn nes at wneud penderfyniad ar ganiatáu’r math hwn o fuddsoddiad gan awdurdodau lleol?

 

The First Minister: We always look to be innovative, as I am sure will local authorities. We are always in discussions with local authorities to ensure that they can be innovative in the way that they raise money, given the tight financial situation that all levels of Government find themselves in.

Y Prif Weinidog: Yr ydym bob amser yn amcanu at fod yn arloesol, fel yr wyf yn siŵr y bydd awdurdodau lleol. Rydym bob amser yn cynnal trafodaethau gydag awdurdodau lleol i sicrhau y gallant fod yn arloesol yn y ffordd y maent yn codi arian, o ystyried y sefyllfa ariannol dynn y mae pob lefel o Lywodraeth yn canfod ei hun ynddi.

 

Gwasanaethau Cyhoeddus

Public Services

 

7. Jenny Rathbone: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r drefn o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd. OAQ(4)0157(FM)

 

7. Jenny Rathbone: Will the First Minister outline the Welsh Government’s plans for improving the delivery of public services in Cardiff. OAQ(4)0157(FM)

The First Minister: With regard to local government functions, that is a matter for Cardiff Council. However, every public service organisation is accountable to the people it serves for improving the delivery of services.

Y Prif Weinidog: O ran swyddogaethau llywodraeth leol, mae hynny’n fater i Gyngor Caerdydd. Fodd bynnag, mae pob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yn atebol i’r bobl y mae’n eu gwasanaethu o safbwynt gwella’r modd y cyflwynir gwasanaethau.

 

Jenny Rathbone: The latest local government performance figures show that Cardiff Council is performing even worse than Pembrokeshire on safeguarding children; it is now the worst in Wales. What action does the Government expect Cardiff Council to take to make improvements?

Jenny Rathbone: Mae’r ffigurau diweddaraf ar berfformiad llywodraeth leol yn dangos bod Cyngor Caerdydd yn perfformio hyd yn oed yn waeth na sir Benfro ar ddiogelu plant; dyma’r gwaethaf yng Nghymru erbyn hyn. Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn disgwyl i Gyngor Caerdydd eu cymryd i wneud gwelliannau?

 

The First Minister: We expect local authorities to make constant improvements. With regard to the issue that you have raised, the Deputy Minister for Children and Social Services will make a statement later this month, which will build on our proposals for a stronger framework for safeguarding, as set out in ‘Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’.

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn disgwyl i awdurdodau lleol wneud gwelliannau cyson. O ran y mater a godwyd gennych, bydd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y mis hwn a fydd yn adeiladu ar ein cynigion ar gyfer fframwaith cryfach ar gyfer diogelu, fel y nodir yn ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu ‘.

 

Andrew R.T. Davies: First Minister, one key provider of public services in Cardiff is Cardiff and Vale University Local Health Board. You may be aware that the health board finds the current economic climate, as well as the operational environment, challenging, as identified in the staff newsletter. Would you commit your Government, if requested, to intervening to assist the health board in meeting these challenges, especially as we are not even into the winter months yet? Staff members have raised serious concerns with me about the ability of the health board to deliver on its remit of health services in the Cardiff area.

Andrew R.T. Davies: Brif Weinidog, un darparwr allweddol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghaerdydd yw Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Efallai eich bod yn ymwybodol bod y bwrdd iechyd yn canfod yr hinsawdd economaidd bresennol, yn ogystal â’r amgylchedd gweithredol, yn heriol, fel y nodwyd yng nghylchlythyr y staff. A fyddech chi’n ymrwymo eich Llywodraeth, os gofynnir am hynny, i ymyrryd i gynorthwyo’r bwrdd iechyd wrth gwrdd â’r heriau hyn, yn enwedig gan nad ydym hyd yn oed ym misoedd y gaeaf eto? Mae aelodau o staff wedi codi pryderon difrifol gyda mi ynghylch gallu’r bwrdd iechyd i gyflawni ei gylch gwaith o safbwynt  gwasanaethau iechyd yn ardal Caerdydd.

 

The First Minister: Local health boards are expected to deliver with the budgets that they have. Cardiff and Vale is no different to any other.

Y Prif Weinidog: Disgwylir i fyrddau iechyd lleol gyflawni yn unol â’r cyllidebau sydd ganddynt. Nid yw Caerdydd a’r Fro yn wahanol i unrhyw un arall.

 

Leanne Wood: First Minister, as you are aware, it is likely that there will be a two-thirds cut to the budget of the Equality and Human Rights Commission and a two-thirds cut to the staff as well.

Leanne Wood: Brif Weinidog, fel y gwyddoch, mae’n debygol y bydd toriad o ddwy ran o dair i gyllideb y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a thoriad o  ddwy ran o dair i’r staff yn ogystal.

 

2.00 p.m.

 

 

Given that this body prevents discrimination, you would be hard pressed to find a better exposé of the UK coalition Government myth that ‘we are all in this together’. It is proposed that the Bangor office will close—

 

O ystyried bod y corff hwn yn atal gwahaniaethu, byddech yn cael anhawster mawr i ddod o hyd i well dadleniad o’r myth gan Lywodraeth glymblaid y DU ein bod i gyd yn hyn gyda’n gilydd. Y bwriad yw y bydd y swyddfa ym Mangor yn cau—

 

The Presiding Officer: We are talking about Cardiff in this set of questions.

 

Y Llywydd: Rydym yn siarad am Gaerdydd yn y set hon o gwestiynau.

 

Leanne Wood: Yes; the Bangor office will close, leaving Cardiff as the only office for the EHRC in Wales. The helpline provision is to be removed from Wales completely, while the commission’s grant-giving programme, which has helped groups such as Women’s Aid and race equality councils in Wales in the past, will be stopped. First Minister, how will you ensure that those groups that are discriminated against in Wales, as well as the dedicated staff who work for this organisation, are protected in the face of these callous Westminster cuts?

 

Leanne Wood: Ydyn; bydd y swyddfa ym Mangor yn cau, gan adael y swyddfa yng Nghaerdydd fel yr unig swyddfa ar gyfer y CCHD yng Nghymru. Ni fydd unrhyw ddarpariaeth llinell gymorth yng Nghymru o gwbl, a bydd rhaglen grantiau y comisiwn, sydd wedi helpu grwpiau fel Cymorth i Fenywod a chynghorau cydraddoldeb hiliol yng Nghymru yn y gorffennol, yn dod i ben. Brif Weinidog, sut y byddwch chi’n sicrhau y bydd y grwpiau yma sy’n wynebu gwahaniaethu yng Nghymru, yn ogystal â’r staff ymroddedig sy’n gweithio i’r sefydliad hwn, yn cael eu diogelu yn wyneb y toriadau dideimlad hyn o San Steffan?

 

The First Minister: This is a matter for the UK Government to explain, but it is inevitable that there will be a knock-on effect on devolved services. We continue to work with a number of organisations that represent those people for whom the Equality and Human Rights Commission, under its remit, has been working. We will continue to liaise with them to ensure that we are responsive as we can be, given the decisions that have been taken regarding the EHRC’s budget.

 

Y Prif Weinidog: Mae hwn yn fater i Lywodraeth y DU i’w esbonio, ond mae’n anochel y bydd yn effeithio ar wasanaethau datganoledig. Rydym yn parhau i weithio gyda nifer o sefydliadau sy’n cynrychioli’r rhai y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, o dan ei gylch gorchwyl, wedi bod yn gweithio drostynt. Byddwn yn cytuno i drafod gyda hwy i sicrhau ein bod yn ymateb gymaint ag sy’n bosibl, o ystyried y penderfyniadau sydd wedi eu cymryd o ran cyllideb y CCHD.

 

Y Mudiad Cydweithredol

 

The Co-operative Movement

 

8. Vaughan Gething: A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu a chefnogi’r mudiad cydweithredol yng Nghymru. OAQ(4)0164(FM)

 

8. Vaughan Gething: Will the First Minister provide an update on what the Welsh Government is doing to promote and support the co-operative movement in Wales. OAQ(4)0164(FM)

 

The First Minister: We hold regular strategic discussions with the Wales Co-operative Centre, as well as providing it with a mix of funding to raise awareness of the social enterprise business models and to provide specialist support.

 

Y Prif Weinidog: Rydym yn cynnal trafodaethau strategol cyson gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru, yn ogystal â darparu cyllid iddi i godi ymwybyddiaeth o fodelau busnes mentrau cymdeithasol ac i ddarparu cyngor arbenigol.

 

Vaughan Gething: Thank you for that answer, First Minister. You may be aware of Green Renewable Wales Limited, a co-operative consortium based in Bridgend and the Vale of Glamorgan, the latter in my constituency. The consortium generates income from feed-in tariffs by engaging local communities in solar photovoltaic energy schemes. Projects such as this and others not only help us to meet our renewable energy targets but engage and directly benefit local communities. The consortium is still developing, but can you confirm what the Welsh Government is doing to promote new community energy co-operatives in Wales and to support those that already exist?

 

Vaughan Gething: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol o Green Renewable Wales Cyf, consortiwm cydweithredol sydd wedi ei leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd ym Mro Morgannwg, yn fy etholaeth i. Mae’r consortiwm yn cynhyrchu incwm o dariffau bwydo i mewn drwy gynnwys cymunedau lleol mewn cynlluniau ynni ffotofoltäig solar. Nid yn unig bod prosiectau fel hyn ac eraill yn ein helpu i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy ond maent yn ymgysylltu ac o fudd uniongyrchol i gymunedau lleol. Mae’r consortiwm yn dal i ddatblygu, ond a allwch gadarnhau beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran hyrwyddo mentrau cydweithredol ynni cymunedol newydd yng Nghymru a chefnogi’r rhai sydd eisoes yn bodoli?

 

The First Minister: With regard to what we doing to support social enterprises in general, we provide match funding for the £8 million social enterprise support project, led by the Wales Co-operative Centre, provide core funding of £510,000 to the Wales Co-operative Centre to support the development of co-operatives in Wales, and £1.2 million to support a business succession and co-operative consortia project. I understand that the centre is running a convergence project to promote consortium projects and enable suppliers to enjoy economies of scale and win tenders. Support for community energy projects is included in the support given to social enterprises in general.

 

Y Prif Weinidog: O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud i gefnogi mentrau cymdeithasol yn gyffredinol, rydym yn darparu arian cyfatebol ar gyfer y prosiect cefnogi mentrau cymdeithasol, sydd gwerth £8 miliwn, a arweinir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, rydym yn darparu cyllid craidd o £510,000 i Ganolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi datblygiad mentrau cydweithredol yng Nghymru, ac £1.2 miliwn i gefnogi prosiect olyniaeth busnes a chonsortia cydweithredol. Deallaf fod y ganolfan yn cynnal prosiect cydgyfeirio i hyrwyddo prosiectau consortiwm ac i alluogi cyflenwyr i fwynhau arbedion maint ac ennill tendrau. Mae cefnogaeth ar gyfer prosiectau ynni cymunedol wedi ei chynnwys yn y gefnogaeth gyffredinol a roddir i fentrau cymdeithasol.

 

Mark Isherwood: Given your previous statement that we have a distinct approach to public services in Wales, that is, a co-operative model, how do you propose to engage with the actions of the UK Government to give public sector workers who want to form mutual organisations or co-operatives to deliver public services a right to provide? This will enable them to form independent or joint-venture-based mutual organisations, co-operatives and social enterprises, and has been described in very positive terms by the chair of the John Lewis Partnership, who believes that co-ownership can empower front-line workers to achieve a high level of customer care.

 

Mark Isherwood: O ystyried eich datganiad blaenorol bod gennym ymagwedd wahanol o ran gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, hynny yw, model cydweithredol, sut ydych chi’n bwriadu ymgysylltu â chamau gweithredu Llywodraeth y DU i roi’r hawl i weithwyr yn y sector cyhoeddus sydd am ffurfio mudiadau cydfuddiannol neu fentrau cydweithredol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i wneud hynny? Bydd hyn yn eu galluogi i ffurfio mudiadau cydfuddiannol annibynnol neu ar y cyd a chwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, a disgrifiwyd y cam mewn termau cadarnhaol iawn gan gadeirydd Partneriaeth John Lewis, sy’n credu y gall cydberchnogaeth grymuso gweithwyr rheng flaen i gyflawni lefel uchel o ofal cwsmeriaid.

 

The First Minister: The UK Government is responsible for what happens in England, and this is a matter for it.

 

Y Prif Weinidog: Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr, a mater iddi hi yw hwn.

 

Mick Antoniw: First Minister, the statement of opinion that I submitted yesterday regarding the Co-operative Party’s campaign, ‘The Feeling’s Mutual’, calls on Northern Rock to be returned to the mutual sector as a new building society. What is being done by the Welsh Government to ensure the continuation and expansion of mutual and co-operative financial services in Wales?

 

Mick Antoniw: Brif Weinidog, mae’r datganiad barn a gyflwynais ddoe ynghylch ymgyrch y Blaid Gydweithredol, sef ‘The Feeling’s Mutual’, yn galw am ddychwelyd Northern Rock i’r sector cydfuddiannol fel cymdeithas adeiladu newydd. Beth sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau  bod gwasanaethau ariannol cydfuddiannol a chydweithredol yn parhau ac yn ehangu yng Nghymru?

 

The First Minister: I have already mentioned the support being given to social enterprises. It is right that Northern Rock should be returned to the mutual sector, because we know that it has been the most robust sector in the financial services sector, given what we have seen with some of the other organisations. In Wales, of course, we have the Principality Building Society, which is the seventh largest mutual building society in the UK.

 

Y Prif Weinidog: Rwyf wedi sôn yn barod am y gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i fentrau cymdeithasol. Mae’n iawn fod Northern Rock yn cael ei ddychwelyd i’r sector cydfuddiannol, oherwydd gwyddom mai dyna’r sector mwyaf cadarn yn y sector gwasanaethau ariannol, o ystyried yr hyn yr ydym wedi’i weld gyda rhai o’r sefydliadau eraill. Yng Nghymru, wrth gwrs, mae gennym Gymdeithas Adeiladu’r Principality, sef y seithfed cymdeithas adeiladu gydfuddiannol fwyaf yn y DU.

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas: A oes modd i’r Prif Weinidog, pan fydd ar daith bregethu yn y gogledd y tro nesaf, ymweld â thafarn gymunedol hyfryd y Pengwern yn Llan Ffestiniog yn Nwyfor Meirionnydd? Caiff gyfle personol nid yn unig i flasu Cwrw Glaslyn, neu beth bynnag y byddai’n hoffi ei yfed ar y pryd, ond i longyfarch y gymuned yno am ei gwaith yn cynnal ac adfywio’r pentref. Ar yr un pryd, gall ddiolch i’r cyn-Weinidog yn y maes hwn am sicrhau’r cyllid drwy Gymdeithas Tai Eryri i adfywio’r pentref drwy gynnal y dafarn.

 

Lord Elis-Thomas: Would it be possible for the First Minister, when next he is on a preaching tour in north Wales, to visit the wonderful community tavern, the Pengwern Arms, in Llan Ffestiniog in Dwyfor Meirionnydd? He will have a personal opportunity not only to taste Glaslyn beer, or whatever takes his fancy at the time, but to congratulate the community there on its work in sustaining and regenerating the village. At the same time, he can thank the former Minister in this field for securing funding through Cymdeithas Tai Eryri to ensure the regeneration of the village by supporting the pub.

 

Y Prif Weinidog: Sut y gallaf wrthod gwahoddiad o’r fath? Yr wyf yn gyfarwydd â Llan Ffestiniog, wrth gwrs—mae’r dafarn ar y sgwâr, lle mae’r troad i Flaenau Ffestiniog ar y dde. Yr wyf yn hapus iawn bod y gymuned leol wedi sicrhau bod un o’r tafarndai—yr oedd mwy nag un, yn hanesyddol—wedi ailagor, gan ddarparu canolfan lle gall pobl leol gwrdd. Cwrw Glaslyn yw cwrw lleol Porthmadog, a byddaf yn hapus iawn i dderbyn y gwahoddiad hwnnw ar yr adeg iawn.

 

The First Minister: How could I turn down such an invitation? I know Llan Ffestiniog, of course—the pub is on the square, where the turning to Blaenau Ffestiniog is on the right. I am very happy to see that the local community has ensured that one of the pubs—historically, there was more than one—has reopened, providing a centre where local people can meet. Glaslyn beer is the local beer from Porthmadog, and I would be very happy to take up that invitation at the right time.

 

The Presiding Officer: Question 9, OAQ(4)0154(FM), has been withdrawn.

 

Y Llywydd: Tynnwyd cwestiwn 9, OAQ(4)0154(FM), yn ôl.

 

Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned

 

Community First Responders

 

10. Suzy Davies: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ynghylch gwneud gwell defnydd o Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned. OAQ(4)0160(FM)

 

10. Suzy Davies: What discussions has the Welsh Government had with the Wales Ambulance Trust about maximising the use of Community First Responders. OAQ(4)0160(FM)

 

The First Minister: Operational matters around the appropriate use of community first responders are the responsibility of the Welsh Ambulance Services NHS Trust. The Minister for Health and Social Services is well informed of the issues and the ongoing discussions between the trust and its partners.

 

Y Prif Weinidog: Cyfrifoldeb Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yw materion gweithredol o amgylch y defnydd priodol o ymatebwyr cyntaf cymunedol. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn wybodus iawn am yr hyn sy’n digwydd a’r trafodaethau parhaus rhwng yr ymddiriedolaeth a’i bartneriaid.

 

Suzy Davies: Thank you for that answer, First Minister. In Gower and other rural areas of my region, the first response to a 999 call to the ambulance service can be made by the local fire service co-responders. Some 115 call categories are identified as sufficiently serious and suitable for co-responder attendance, and yet the ambulance trust now permits co-responder attendance for just five of those categories, all of which relate to cardiac arrest. Will you ask the Minister for health to investigate why, in rural Gower, someone with a suspected stroke, anaphylactic shock, diabetic crisis or breathing difficulties has to wait 20 to 40 minutes for an ambulance when, if they had a suspected heart attack, a local co-responder would be mobilised immediately?

 

Suzy Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Yng Ngŵyr ac ardaloedd gwledig eraill yn fy rhanbarth i, gall yr ymateb cyntaf i alwad 999 i’r gwasanaeth ambiwlans gael ei wneud gan y cyd-ymatebwyr gwasanaeth tân lleol. Mae rhyw 115 categori o alwadau yn cael eu nodi fel rhai digon difrifol ac addas ar gyfer presenoldeb cyd-ymatebwr, ac eto mae’r ymddiriedolaeth ambiwlans yn awr yn caniatáu presenoldeb cyd-ymatebwyr am ddim ond pump o’r categorïau hynny, pob un ohonynt yn ymwneud ag ataliad ar y galon. A wnewch chi ofyn i’r Gweinidog iechyd i ymchwilio pam, yng Ngŵyr wledig, y mae rhywun sydd efallai yn dioddef strôc, sioc anaffylactig, argyfwng diabetig neu anawsterau anadlu yn gorfod aros 20 i 40 munud am ambiwlans pan, petai’n bosibl eu bod yn dioddef trawiad ar y galon, byddai cyd-ymatebwyr lleol yn cael eu hanfon ar unwaith?

 

The First Minister: If you write to me with further details, I would be pleased to respond.

 

Y Prif Weinidog: Os ysgrifennwch ataf gyda manylion pellach, byddaf yn hapus i ymateb.

 

Jocelyn Davies: Obviously, community first responders do an invaluable job, but I would like to ask you about equipment. Do you agree that, if defibrillators were available on every high street for use by trained operatives, many lives would be saved? The British Heart Foundation has supplied around 6,000 across the UK, saving hundreds of lives. Will you consider exploring the supply of life-saving equipment for the use of volunteers?

 

Jocelyn Davies: Mae’n amlwg bod ymatebwyr cyntaf cymunedol yn gwneud gwaith amhrisiadwy, ond hoffwn ofyn i chi ynghylch cyfarpar. A ydych yn cytuno, petai diffibrilwyr ar gael ar bob stryd fawr i’w defnyddio gan weithredwyr hyfforddedig, byddai llawer o fywydau yn cael eu hachub? Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi cyflenwi tua 6,000 ar draws y Deyrnas Unedig, gan arbed cannoedd o fywydau. A wnewch chi ystyried edrych ar y cyflenwad o offer achub bywyd er mwyn i wirfoddolwyr eu defnyddio?

 

The First Minister: Yes, I can see the merit in that. We can look at that, certainly. It would depend on money, of course, as everything does, as well as on ensuring that there were enough trained operatives to ensure that the machines could be used effectively.

 

Y Prif Weinidog: Gwnaf; gallaf weld y byddai budd o wneud hynny. Gallwn edrych ar hynny, yn sicr. Byddai’n dibynnu ar arian, wrth gwrs, fel y mae popeth, yn ogystal ag ar sicrhau bod yna ddigon o weithredwyr hyfforddi i sicrhau y gellid defnyddio’r peiriannau yn effeithiol.

 

Peter Black: I wish to add my voice to that of Suzy Davies on the issue of the first responder scheme, which has worked very successfully in Gower and rural areas, whereby the fire brigade’s part-time firefighters in particular have attended emergencies ahead of ambulance crews to help resuscitate and aid people who are in distress as a result of serious illness. It seems to me, First Minister, that, if the Government is not aware of this problem, it needs to get a grip on it, because there is a huge amount of concern and there have been a number of incidents where firefighters would have been able to intervene but were unable to because of the scaling back of the scheme. Therefore, I ask you to look very closely at what is happening in this regard.

 

Peter Black: Hoffwn ychwanegu fy llais at un Suzy Davies ar y mater o’r cynllun ymatebwr cyntaf, sydd wedi gweithio’n llwyddiannus iawn yng Ngŵyr ac ardaloedd gwledig, lle mae diffoddwyr tân rhan amser y frigâd dân yn benodol wedi mynychu argyfyngau cyn criwiau ambiwlans i helpu adfywio a helpu pobl sydd mewn trallod o ganlyniad i salwch difrifol. Mae’n ymddangos i mi, Brif Weinidog, os nad yw’r Llywodraeth yn ymwybodol o’r broblem hon, mae angen iddo gael gafael arno, oherwydd mae llawer iawn o bryder a bu nifer o ddigwyddiadau lle y byddai diffoddwyr tân wedi gallu ymyrryd ond yn methu oherwydd y cwtogi ar faint y cynllun. Felly, gofynnaf ichi edrych yn ofalus iawn ar yr hyn sy’n digwydd yn hynny o beth.

 

The First Minister: As I said, if there are examples of that happening, we would be more than happy to investigate the circumstances.

 

Y Prif Weinidog: Fel y dywedais, os oes enghreifftiau lle mae hynny’n digwydd, byddem yn hapus iawn i edrych i mewn i’r amgylchiadau.

 

Parth Lefel Uchaf

 

Top Level Domain

 

11. Alun Ffred Jones: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau parth lefel uchaf i Gymru. OAQ(4)0156(FM)

 

11. Alun Ffred Jones: What plans does the Welsh Government have to ensure a top level domain for Wales. OAQ(4)0156(FM)

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn cefnogi’r egwyddor o gael parth lefel uchaf i Gymru, ac yr ydym yn barod i ddarparu llythyr i gefnogi cais sy’n dechnegol gadarn, yn economaidd hyfyw, yn ddiogel a chynaliadwy i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir.

 

The First Minister: We support the principle of a top level domain for Wales and are prepared to provide a letter of support for a technically robust, financially viable, secure and sustainable application to the Internet Corporation for Assigned Names and Numbers.

 

Alun Ffred Jones: Gwyddoch y bydd y broses bidio yn dechrau ym mis Ionawr. Hyd y deallaf, mae dau gwmni â diddordeb mewn cyflwyno cais. Mae un ohonynt o du allan i Gymru. Bydd cael dau gais yn gwanio’r achos dros gael parth lefel uchaf i Gymru. Felly, a fydd y Llywodraeth yn penderfynu cefnogi un o’r ceisiadau hynny yn y dyfodol agos?

 

Alun Ffred Jones: You know that the bidding process will commence in January. As I understand it, two companies are interested in submitting a bid. One is from outside Wales. Having two bids going forward is likely to weaken the case for a top level domain for Wales. Therefore, will the Government decide to support one of those bids in the near future?

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn ystyried hyn ar hyn o bryd. Mae’n wir fod yn rhaid i’r ceisiadau ddechrau ym mis Ionawr. Yr ydym yn ystyried ar hyn o bryd a ddylem gefnogi un cais o flaen y llall ynteu a fyddai’n strategaeth well i gefnogi’r ddau.

 

The First Minister: We are currently considering this. It is true that the bids have to start in January. We are currently considering whether we should support one bid in preference to the other or whether it would be a better strategy to support both.

 

Buddsoddiad Mewnol

 

Inward Investment

 

12. Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer hybu buddsoddiad mewnol. OAQ(4)0161(FM)

 

12. Nick Ramsay: Will the First Minister make a statement on his policies for promoting inward investment. OAQ(4)0161(FM)

 

The First Minister: Our aim is for Wales to be an excellent place in which to locate and do business, whether companies are Wales-based or new inward investors.

 

Y Prif Weinidog: Ein nod yw i Gymru fod yn lle ardderchog i leoli a gwneud busnes, i gwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru neu i fewnfuddsoddwyr newydd.

 

Nick Ramsay: Thank you for that answer, First Minister. I am sure that you are aware that there has been a dramatic fall in inward investment in Wales over the past 15 years, from around 15 per cent of the total UK inward investment in the mid-1990s to the 4 per cent recorded more recently in 2009. The economic renewal programme sectors have been expanded from the six that were originally proposed to nine. We welcome the addition of those other sectors, but, clearly, there will be a financial implication to that. Is the Government planning to ensure that those additional sectors are funded adequately? Will there be redistribution from the other sectors, or will each individual sector receive less finance than it would, and perhaps should, otherwise receive?

 

Nick Ramsay: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol y bu gostyngiad dramatig mewn mewnfuddsoddi yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf, o ryw 15 y cant o gyfanswm buddsoddiad yn y Deyrnas Unedig yng nghanol y 1990au i’r 4 y cant a gofnodwyd yn fwy diweddar yn 2009. Mae’r sectorau sy’n rhan o’r rhaglen adnewyddu economaidd wedi cael eu hehangu o’r chwech a gynigiwyd yn wreiddiol i naw. Rydym yn croesawu ychwanegu’r sectorau eraill hynny, ond, wrth gwrs, bydd goblygiadau ariannol i hynny. A ydyw’r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod y sectorau ychwanegol hynny’n cael eu hariannu’n ddigonol? A fydd ailddosbarthu o’r sectorau eraill, neu a fydd pob sector unigol yn derbyn llai o gyllid nag y byddai, ac efallai y dylai, fod yn ei dderbyn fel arall?

 

The First Minister: We are examining the situation at the moment. We must remember that, even though there was a lot of inward investment in the 1990s and late 1980s, much of it left to go elsewhere. At that time, it was thought best to attract people to Wales on the basis that wage rates were lower in Wales than anywhere else—those factories subsequently left. We want to ensure that Wales is seen as a place that has a reservoir of people with high skills, rather than a place where wages are low.

 

Y Prif Weinidog: Yr ydym yn edrych ar y sefyllfa ar hyn o bryd. Rhaid inni gofio, er y cafwyd llawer o fewnfuddsoddi yn y 1990au a’r 1980au hwyr, gadawodd llawer ohono i fynd i rywle arall. Ar y pryd, credwyd mai’r ffordd orau o ddenu pobl i Gymru oedd ar sail y ffaith bod cyfraddau cyflog yn is yng Nghymru nag yn unman arall—ymadawodd y ffatrïoedd hynny ychydig ar ôl hynny. Rydym am sicrhau bod Cymru yn cael ei gweld fel lle sydd â chronfa o bobl sydd â sgiliau uchel, yn hytrach na rhywle lle mae cyflogau yn isel.

 

Chwaraeon yn Nhor-faen

 

Sport in Torfaen

 

13. Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon yn Nhor-faen. OAQ(4)0155(FM)

 

13. Lynne Neagle: Will the First Minister outline the Welsh Government’s priorities for sport in Torfaen. OAQ(4)0155(FM)

 

The First Minister: Sport Wales is working closely with Torfaen County Borough Council to support the development of effective pathways between schools and communities so that children can sustain their engagement in sport and physical activity into their adult lives.

 

Y Prif Weinidog: Mae Chwaraeon Cymru yn cydweithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i gefnogi datblygiad llwybrau effeithiol rhwng ysgolion a chymunedau er mwyn i’r plant gynnal eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu bywydau fel oedolion.

 

Lynne Neagle: First Minister, for the past year or so I have been heavily involved in the campaign to save Gwent Actionnaires, a fantastic local group that provides sporting opportunities for blind and partially sighted children in Gwent. Sadly, the clubs’ future is uncertain, because of a decision by Action for Children to withdraw its funding. We have all been working hard to secure the long-term future of the clubs. Given that London 2012 is around the corner, and that it is world sight day on Thursday, will you join me in commending Gwent Actionnaires on its fantastic work with blind and partially sighted children, some of whom may be Wales’ future Paralympians?

 

Lynne Neagle: Brif Weinidog, dros y flwyddyn ddiwethaf, yr wyf wedi bod yn ymwneud yn helaeth â’r ymgyrch i achub Actionnaires Gwent, grŵp lleol gwych sy’n cynnig cyfleoedd chwaraeon i blant dall a rhannol ddall yng Ngwent. Yn anffodus, mae dyfodol y clybiau yn ansicr, oherwydd penderfyniad gan Gweithredu dros Blant i dynnu eu cyllid. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau dyfodol tymor hir y clybiau. O ystyried bod Llundain 2012 rownd y gornel, a’i fod yn ddiwrnod golwg y byd ddydd Iau, a ymunwch â mi i gymeradwyo Actionnaires Gwent ar ei waith ardderchog gyda phlant dall a rhannol ddall—rhai ohonynt, efallai, yn ddarpar Baralympiaid Cymru?

 

The First Minister: Yes, I will join you in that. Participating in sporting activities has a positive impact on those who are blind or partially sighted, as it helps to build confidence and self-esteem. Sport is good for everyone, but, for people who are blind and partially sighted in particular, it is an activity that gives an extra boost to their confidence. I hope that the matter can be resolved satisfactorily and that the future of Gwent Actionnaires can be secured.

 

Y Prif Weinidog: Gwnaf; ymunaf â chi yn hynny. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai sy’n ddall neu’n rhannol ddall, gan ei fod yn helpu i adeiladu hyder a hunan-barch. Mae chwaraeon yn dda i bawb, ond, i bobl sy’n ddall ac yn rhannol ddall yn benodol, mae’n weithgaredd sy’n rhoi hwb ychwanegol i’w hyder. Yr wyf yn gobeithio y gall y mater gael ei ddatrys yn foddhaol ac y gall dyfodol Actionnaires Gwent gael ei sicrhau.

 

Mohammad Asghar: First Minister, the Welsh Government’s priority for sport should be ensuring that areas such as Torfaen gain from the potentially immense benefits linked with Wales hosting the very first event of the 2012 Olympics. I was alarmed when you informed me recently that you have not had any meetings during the fourth Assembly regarding how Wales could benefit from hosting this landmark event. Why is the Welsh Government not doing more to seize the opportunities presented by the Olympics, such as increasing the level of participation in sports? Given that in 288 days the first Olympic event takes place in Wales, will you hold discussions with relevant bodies on how this could be more rigorously promoted for the people of Wales, such as, perhaps, with the Assembly Commission on installing a countdown clock to 25 July somewhere around or in front of the Senedd building?

 

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, o ran chwaraeon, dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu sicrhau bod lleoedd fel Tor-faen yn elwa o’r buddion, a allai fod yn enfawr, sy’n gysylltiedig â Chymru’n cynnal digwyddiad cyntaf un Gemau Olympaidd 2012. Roeddwn yn synnu pan ddywedasoch wrthyf yn ddiweddar nad ydych wedi cael unrhyw gyfarfodydd yn ystod y pedwerydd Cynulliad ynglŷn â sut y gallai Cymru elwa o ganlyniad i gynnal y digwyddiad pwysig hwn. Pam nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y Gemau Olympaidd, megis cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon? O ystyried y bydd digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd yn cael ei gynnal yng Nghymru ymhen 288 diwrnod, a wnewch chi gynnal trafodaethau gyda’r cyrff perthnasol ynghylch sut y gallai hyn gael ei hyrwyddo yn well ar gyfer pobl Cymru, er enghraifft, gyda Chomisiwn y Cynulliad o ran gosod cloc sy’n cyfrif i lawr i 25 Gorffennaf rywle o gwmpas neu o flaen adeilad y Senedd?

 

The Presiding Officer: I assume that you would want it placed in Torfaen, as this set of questions is about Torfaen.

 

Y Llywydd: Yr wyf yn cymryd y byddech am ei roi yn Nhor-faen, gan fod y set hon o gwestiynau yn ymwneud â Thor-faen.

 

The First Minister: As far as I am aware, the Senedd has not been relocated to Torfaen, although there are some Members who would, perhaps, like to see that. A countdown clock would be a matter for the Commission, as you said; therefore, it would not be appropriate for me to answer on that. It is important that we make the most of events held in Wales. We will continue to look at how we can make best use of the Olympics. I am sure that everyone in this Chamber is looking forward to seeing how we can make best use of being rugby world champions.

 

Y Prif Weinidog: Hyd y gwn i, nid yw’r Senedd wedi cael ei hadleoli i Dor-faen, er yr hoffai rhai Aelodau, efallai, weld hynny’n digwydd. Mater i’r Comisiwn fyddai cael cloc yn cyfrif i lawr, fel y dywedasoch; felly, ni fyddai’n briodol imi ateb o ran hynny. Mae’n bwysig ein bod yn manteisio i’r eithaf ar ddigwyddiadau a gynhelir yng Nghymru. Byddwn yn parhau i edrych ar sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r Gemau Olympaidd. Yr wyf yn siŵr bod pawb yn y Siambr hon yn edrych ymlaen at weld sut y gallwn wneud y defnydd gorau o fod yn bencampwyr rygbi’r byd.

 

Trefi Gwledig Bychain

 

Small Rural Towns

 

14. William Powell: Pa fesurau y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu eu cymryd i gynnal a hybu hyfywedd trefi bychain mewn ardaloedd gwledig. OAQ(4)0165(FM)

 

14. William Powell: What measures does the First Minister plan to take to sustain and promote the viability of small towns in rural areas. OAQ(4)0165(FM)

 

The First Minister: The programme for government outlines what we are doing to sustain and enhance rural Wales.

 

Y Prif Weinidog: Mae’r rhaglen lywodraethu yn amlinellu’r hyn yr ydym yn ei wneud i gynnal a gwella cefn gwlad Cymru.

 

William Powell: Thank you for that answer, First Minister. Do you believe that there is a case to raise the bar regarding retail impact assessments for out-of-town shopping developments? They can have a devastating effect on town centres, as we have seen in various parts of Wales.

 

William Powell: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. A ydych yn credu bod yna achos i godi’r safon o ran asesiadau effaith adwerthu ar gyfer datblygiadau siopa y tu allan i drefi? Gallant gael effaith ddinistriol ar ganol trefi, fel yr ydym wedi ei weld mewn gwahanol rannau o Gymru.

 

2.15 p.m.

 

The First Minister: There are, of course, planning guidelines in place regarding what retail impact assessments should take place if out-of-town applications come before local authorities. However, it is right to say that we cannot expect our high streets to return to what they once were, because so many people are now shopping online as well. There should be a debate in Wales on what we think our high streets should look like in the years to come—that is, what town centres should be and what sort of mix of uses there should be. It is important that businesses in rural Wales have access to broadband. This is our plan in terms of rolling out next generation broadband by 2015.

 

Y Prif Weinidog: Mae yna, wrth gwrs, ganllawiau ar waith o ran pa asesiadau effaith manwerthu ddylai digwydd os bydd ceisiadau am ddatblygiadau ar gyrion y dref yn dod gerbron awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae’n iawn dweud na allwn ddisgwyl i’r stryd fawr ddychwelyd at yr hyn yr oedd, oherwydd bod cymaint o bobl yn awr yn siopa ar-lein yn ogystal. Dylid cael trafodaeth yng Nghymru ar sut y dylai ein strydoedd mawr edrych yn y blynyddoedd sydd i ddod—hynny yw, yr hyn y dylai canol trefi  fod a pha fath o gymysgedd o ddefnydd ddylai fod. Mae’n bwysig bod busnesau yng nghefn gwlad Cymru yn cael mynediad i fand eang. Dyma ein cynllun o ran cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015.

 

Darren Millar: First Minister, I am sure that you will agree that small businesses are the backbone of the Welsh economy, particularly in small rural towns. We know that there is a strategic regeneration area status in various parts of Wales, which is delivering some improvements in those areas, including in my own constituency. However, market towns in particular, such as Ruthin in my constituency, are in need of some additional support. Will you look at the possibility of introducing a market towns initiative to address the particular problems that market towns have had and to address the challenges that they have faced and will continue to face in future?

 

Darren Millar: Brif Weinidog, yr wyf yn siŵr y byddwch yn cytuno mai busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru, yn enwedig mewn trefi gwledig bach. Rydym yn gwybod bod yna statws ardal adfywio strategol mewn gwahanol rannau o Gymru, sydd yn cyflawni rhai gwelliannau yn yr ardaloedd hynny, gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun. Fodd bynnag, mae angen ar drefi marchnad yn arbennig, fel Rhuthun yn fy etholaeth i, rywfaint o gymorth ychwanegol. A wnewch chi edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno menter trefi marchnad i fynd i’r afael â’r problemau penodol y mae trefi marchnad wedi eu cael ac i fynd i’r afael â’r heriau y maent wedi’u hwynebu ac y byddant yn parhau i’w hwynebu yn y dyfodol?

 

The First Minister: It depends on what you mean by a ‘market town’. There are many market towns in Wales—Cardiff is technically a market town as well as being a city. It is important that we look at ways of ensuring that businesses in rural areas, particularly in market towns as you have defined them, benefit from having access to the wider world. The way to do that is to ensure that broadband is rolled out by 2015. That can only be an advantage to all businesses in Wales, regardless of where they are situated.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n dibynnu ar yr hyn rydych yn ei olygu wrth ‘dref farchnad’. Mae yna nifer o drefi marchnad yng Nghymru—mae Caerdydd yn dechnegol yn dref farchnad yn ogystal â bod yn ddinas. Mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ffyrdd o sicrhau bod busnesau mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig mewn trefi marchnad fel yr ydych wedi eu diffinio, yn elwa o gael mynediad i’r byd ehangach. Y ffordd o wneud hynny yw sicrhau bod band eang yn cael ei gyflwyno erbyn 2015. Ni all hynny ond bod o fantais i bob busnes yng Nghymru, ni waeth ble maent wedi’u lleoli.

 

Simon Thomas: Does the First Minister agree that one of the key issues for sustainability for rural towns is their wider transport links into the local economic area, and in particular in relation to travel to work, access to shops, doctors’ surgeries, and very importantly, access to training and education facilities and workplaces? It is vital that the Government has the right plans in place in transport terms to ensure that public transport is available in rural areas. What steps is the First Minister taking to strengthen public transport in rural areas?

 

Simon Thomas: A yw’r Prif Weinidog yn cytuno mai un o’r materion allweddol ar gyfer cynaliadwyedd mewn trefi gwledig yw eu cysylltiadau trafnidiaeth ehangach i’r ardal economaidd leol, ac yn enwedig mewn perthynas â theithio i’r gwaith, mynediad i siopau, meddygfeydd, ac yn bwysig iawn, mynediad at gyfleusterau hyfforddi ac addysg a gweithleoedd? Mae’n hanfodol bod gan y Llywodraeth y cynlluniau cywir ar waith o ran trafnidiaeth i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael mewn ardaloedd gwledig. Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig?

 

The First Minister: There are some good examples. The Bwcabus scheme in Carmarthenshire has been an excellent example of how to provide public transport in areas where it is not viable to provide a more regular service. There are similar arrangements in the Vale of Glamorgan. I have noticed the good links that exist along main roads in Ceredigion, for example, such as the 550 bus that travels along the coast between New Quay and Aberaeron. We have committed ourselves to providing more train services on the line between Clarbeston Road and Fishguard with the extra trains that have been provided. Connectivity is important, not just in terms of broadband, but equally in terms of physical movement.

Y Prif Weinidog: Mae yna rai enghreifftiau da. Mae’r cynllun Bwcabus yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn enghraifft ragorol o sut i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd lle nad yw’n ymarferol i ddarparu gwasanaeth mwy rheolaidd. Mae trefniadau tebyg ym Mro Morgannwg. Rwyf wedi sylwi ar y cysylltiadau da sy’n bodoli ar hyd prif ffyrdd yng Ngheredigion, er enghraifft, megis y bws 550 sy’n teithio ar hyd yr arfordir rhwng Ceinewydd ac Aberaeron. Rydym wedi ymrwymo ein hunain i ddarparu mwy o wasanaethau trên ar y lein rhwng Clarbeston Road ac Abergwaun gyda’r trenau ychwanegol sydd wedi cael eu darparu. Mae cysylltedd yn bwysig, nid yn unig o ran band eang, ond hefyd o ran symud o gwmpas.

Gwahaniaethu

Discrimination

 

15. Lindsay Whittle: Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau nad yw pobl anabl yng Nghymru yn dioddef gwahaniaethu. OAQ(4)0153(FM)

15. Lindsay Whittle: What action is the First Minister taking to ensure that disabled people in Wales do not suffer from discrimination. OAQ(4)0153(FM)

 

The First Minister: Our public sector specific equality duties underpin our action on this. It is a serious problem, and one that has been highlighted previously in this Chamber and outside it.

 

Y Prif Weinidog: Mae ein dyletswyddau cydraddoldeb penodol sector cyhoeddus yn sail i’n camau gweithredu ar hyn. Mae’n broblem ddifrifol, ac yn un sydd wedi cael ei amlygu o’r blaen yn y Siambr hon a’r tu allan iddo.

 

Lindsay Whittle: Thank you for that reply, First Minister. You will be aware that a number of third sector organisations are working strenuously to combat discrimination against disabled people. We have a commissioner for older people and a children’s commissioner; what would your response be to the proposal that this Government should set up a working group, to include representatives from the third sector, in order to discuss establishing the post of commissioner for disabled people?

 

Lindsay Whittle: Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol bod nifer o sefydliadau’r trydydd sector yn gweithio’n egnïol i frwydro yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Mae gennym gomisiynydd pobl hŷn a chomisiynydd plant; beth fyddai eich ymateb i’r cynnig y dylai’r Llywodraeth hon sefydlu gweithgor, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r trydydd sector, er mwyn trafod sefydlu swydd comisiynydd i bobl anabl?

 

The First Minister: It is an interesting idea. We would have to ensure that it did not cut across any similar post or appointment by the UK Government. It is certainly an idea worth pursuing.

 

Y Prif Weinidog: Mae’n syniad diddorol. Byddai’n rhaid i ni sicrhau nad oedd yn torri ar draws unrhyw swydd neu benodiad tebyg gan Lywodraeth y DU. Mae’n sicr yn syniad sydd yn werth ei ddilyn.

 

Mark Isherwood: In reply to an enquiry that I made regarding service provision by a local authority, an officer stated that there cannot be one rule for one and another for everyone else. Given that that is right in terms of removing barriers to access for everyone—whether disabled or not—and wrong if it is about putting barriers in place, as in this case, to discriminate against a disabled person, how will you prioritise the need for disability awareness training in practice and ensure that it is embedded so that it becomes cultural? Every day, I hear from groups representing disabled people and from disabled people directly about a lack of awareness, which is still leading to direct discrimination.

 

Mark Isherwood: Mewn ymateb i ymholiad a wnes i ynghylch darpariaeth gwasanaethau gan awdurdod lleol, dywedodd swyddog na ellir cael un rheol i un ac un arall i bawb arall. O ystyried bod hynny’n iawn o safbwynt dileu rhwystrau i fynediad i bawb—boed yn anabl neu beidio—ac yn anghywir os yw’n ymwneud â rhoi rhwystrau yn eu lle, fel yn yr achos hwn, i wahaniaethu yn erbyn person anabl, sut y byddwch yn blaenoriaethu’r angen am hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd yn ymarferol a sicrhau y caiff ei hymgorffori fel ei fod yn ddiwylliannol? Bob dydd, yr wyf yn clywed gan grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl a gan bobl anabl yn uniongyrchol am ddiffyg ymwybyddiaeth, sydd yn dal i arwain at wahaniaethu uniongyrchol.

 

The First Minister: I found it difficult to follow the point that you were making. You said that an officer had sent a letter, but you did not give me the background to what it was about. However, generally, as a Government, we are unusual in the world in the sense that we promote equality impact assessments. It is absolutely crucial that they are taken seriously, and that people have faith that all barriers to those with disabilities are removed.

Y Prif Weinidog: Yr wyf yn ei chael yn anodd dilyn y pwynt a wnaethoch. Dywedasoch fod swyddog wedi anfon llythyr, ond nid oeddech yn rhoi’r cefndir i’r hyn yr oedd yn ei drafod. Fodd bynnag, yn gyffredinol, fel Llywodraeth, yr ydym yn anarferol yn y byd yn yr ystyr ein bod yn hybu asesiadau effaith ar gydraddoldeb.  Mae’n gwbl hanfodol eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod gan bobl ffydd bod yr holl rwystrau at y rhai sydd ag anableddau yn cael eu dileu.

 

Cwestiwn Brys
Urgent Question

 

Prifysgol Cymru
The University of Wales

Aled Roberts: Yr wyf yn derbyn bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â’r mater dan sylw.

 

Aled Roberts: I accept that the Minister for Education and Skills has published a written statement on the matter under consideration.

The Presiding Officer: Order. Please ask the question.

 

Y Llywydd: Trefn. Gofynnwch y cwestiwn os gwelwch yn dda.

Aled Roberts: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch Prifysgol Cymru, yn sgîl datblygiadau diweddar. EAQ(4)0052(ESK)

 

Aled Roberts: Will the Minister make a statement regarding the University of Wales, in light of recent developments. EAQ(4)0052(ESK)

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): The University of Wales has helped to create and define the modern character of Wales. Last week, a new vice-chancellor took up his post, and I wish Professor Medwin Hughes every success in his new role. However, the continuing adverse publicity attached to the University of Wales is damaging not just to the institution, but to the Welsh higher education sector and to Wales as a whole. In view of the further allegations made in the press last week, I believe that it is untenable for the University of Wales to continue under its current leadership. I therefore call on the chair of the council of the University of Wales to consider his position, in the interests of the institution and of Wales. We cannot have a situation where a catalogue of mismanagement undermines the whole of the higher education sector in Wales.

Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Mae Prifysgol Cymru wedi helpu i greu a diffinio cymeriad modern Cymru. Yr wythnos diwethaf, cymerodd is-ganghellor newydd ei swydd, a dymunaf bob llwyddiant i’r Athro Medwin Hughes yn ei rôl newydd. Fodd bynnag, mae’r cyhoeddusrwydd gwael parhaus ynghlwm wrth Brifysgol Cymru yn niweidiol nid yn unig i’r sefydliad, ond i’r sector addysg uwch yng Nghymru ac i Gymru gyfan. O ystyried yr honiadau pellach a wnaed yn y wasg yr wythnos diwethaf, yr wyf yn credu ei bod yn anghynaladwy i Brifysgol Cymru i barhau o dan ei arweinyddiaeth bresennol. Galwaf felly ar gadeirydd cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei swydd, er budd y sefydliad ac er budd Cymru. Ni allwn gael sefyllfa lle mae catalog o gamreoli yn tanseilio’r holl sector addysg uwch yng Nghymru.

 

Aled Roberts: Yr wyf yn derbyn yr hyn a ddywedasoch. Serch hynny, mae’n debyg bod problemau mwy sylfaenol yn bodoli na phenodiad un person. A oes gennych chi unrhyw rym, Weinidog, i gynnal adolygiad annibynnol o sut y cododd y sefyllfa hon?

 

Aled Roberts: I accept what you have said, but it seems that there are more fundamental problems than the appointment of a single person. Do you any power, Minister, to set up an independent review of how this situation arose?

Leighton Andrews: Earlier this year, we asked the task and finish group that carried out a review on governance, with John McCormick as chair, to look at the University of Wales. As I said in my written statement, the group concluded that the role of the University of Wales needed to change or it probably would not have a future. We put that information into the public domain. Separately, Members will have received a letter from my colleague, the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, addressing issues concerned with the Prince of Wales innovation scholarships. She made it clear today that the Welsh European Funding Office is working with the University of Wales to achieve a managed closure of that project. Clearly, this Government has taken action in a number of ways to address issues that have arisen in relation to the conduct of the University of Wales. However, at the end of the day, the University of Wales operates under a Royal Charter and has a governing body. We expect to see good governance in higher education institutions in Wales. I therefore repeat that it is for the chair of the council of the University of Wales to consider his position and to face up to the issues that have arisen during his term of office.

 

 

 

Leighton Andrews: Yn gynharach eleni, roeddem wedi gofyn i’r grŵp gorchwyl a gorffen a gynhaliodd adolygiad ar lywodraethu, gyda John McCormick yn gadeirydd, i edrych ar Brifysgol Cymru. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, daeth y grŵp i’r casgliad bod angen i rôl Prifysgol Cymru newid neu mae’n debyg na fyddai ganddo ddyfodol. Rydym yn rhoi’r wybodaeth yn y parth cyhoeddus. Ar wahân i hynny, bydd Aelodau wedi cael llythyr oddi wrth fy nghydweithiwr, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, sy’n mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag ysgoloriaethau arloesi Tywysog Cymru. Mae hi’n gwneud yn glir heddiw fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Cymru i reoli cyflawni’r prosiect hwnnw. Yn amlwg, mae’r Llywodraeth hon wedi cymryd camau mewn nifer o ffyrdd i fynd i’r afael â materion sydd wedi codi mewn perthynas ag ymddygiad Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, ar ddiwedd y dydd, mae Prifysgol Cymru yn gweithredu o dan Siarter Frenhinol ac mae ganddo gorff llywodraethu. Disgwyliwn weld llywodraethu da mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Rwyf felly yn ailadrodd mai mater yw hwn i gadeirydd cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei swydd ac i wynebu’r materion sydd wedi codi yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Yr Arglwydd Elis-Thomas: Fel Llywydd Prifysgol Bangor, yr wyf yn datgan buddiant yn y mater hwn ac yn datgan cefnogaeth i’r cyfan y mae’r Gweinidog wedi’i wneud yn ei gylch. Yr wyf hefyd yn datgan fy nghefnogaeth bersonol, fel y gwneuthum yr wythnos diwethaf, i Medwin Hughes yn y gwaith anodd sydd ganddo i’w wneud. Serch hynny, a wnaiff y Gweinidog dderbyn fy mod yn credu, fel y cred John Hughes, fy is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, fod yn rhaid dod â’r bennod ddiflas hon i ben, a bod gan bawb ohonom sy’n ymwneud â llywodraethu prifysgolion gyfrifoldeb i wneud y gwaith yn iawn, ac os nad ydym yn gwneud hynny, ni ddylem fod yn rhan ohono? Yn hynny o beth, mae gennyf ofn fy mod yn sôn am ganghellor, dirprwy ganghellor a chadeirydd y cyngor.

 

Lord Elis-Thomas: As the President of Bangor University, I declare an interest in this matter and declare my support for everything that the Minister has done in this regard. I also declare my personal support, as I did a week ago, for the Medwin Hughes in the difficult task ahead of him. However, will the Minister accept that I believe, as does John Hughes, my vice-chancellor at Bangor University, that this sorry chapter must be brought to a close, and that all of us who are involved in the governance of universities have the responsibility to carry out that work properly, and that, if we do not, we should not be there? In that regard, I am afraid to say that I talking about the chancellor, the pro vice-chancellor and the chair of the council.

Leighton Andrews: I think that a number of us will have to declare an interest, in that many Members of this Chamber—including myself and the First Minister—have degrees from the University of Wales. Let me state on the record that there is nothing wrong with a University of Wales degree that has been properly awarded. We want to assert that in this Chamber. However, I think that the points made by the member for Dwyfor Meirionnydd are very important. We have sought to address the question of governance in the McCormick review. There are limits to our powers in respect of pre-1992 higher education institutions. However, I think that the people of Wales understand the issues that are at stake. There has been widespread discussion of the issues. As far as I can tell, there is all-party consensus in this Chamber on the problems facing the University of Wales. I have heard calls from the official opposition for University of Wales officials to face up to the challenges and to own up to the issues that have affected them. I have now heard calls from other parties in this Chamber as well. The message to the University of Wales, to its chair and to the other officials in the University of Wales is unambiguous and clear: you have had plenty of opportunities to sort yourselves out; it is now time for people to take responsibility.

Leighton Andrews: Yr wyf yn meddwl y bydd angen i nifer ohonom ddatgan buddiant, gan fod gan lawer o Aelodau’r Siambr hon—gan gynnwys fy hun a’r Prif Weinidog—radd o Brifysgol Cymru. Gadewch i mi ddatgan ar goedd nad oes dim byd o’i le gyda graddau Prifysgol Cymru a ddyfarnwyd yn iawn. Rydym am ddatgan hynny yn y Siambr hon. Fodd bynnag, credaf fod y pwyntiau a wnaed gan yr aelod dros Ddwyfor Meirionnydd yn bwysig iawn. Rydym wedi ceisio mynd i’r afael â’r cwestiwn o lywodraethu yn yr adolygiad McCormick. Mae cyfyngiadau ar ein pwerau mewn perthynas â sefydliadau addysg uwch cyn 1992. Fodd bynnag, credaf fod pobl Cymru yn deall y materion sydd yn y fantol. Cafwyd trafodaeth eang am y materion. Cyn belled ag y gallaf ddweud, mae consensws hollbleidiol yn y Siambr hon ar y problemau sy’n wynebu Prifysgol Cymru. Yr wyf wedi clywed galwadau gan yr wrthblaid swyddogol i swyddogion Prifysgol Cymru i wynebu heriau ac i gyfaddef y materion sydd wedi effeithio arnynt. Yr wyf yn awr wedi clywed galwadau gan bleidiau eraill yn y Siambr hon hefyd. Mae’r neges i Brifysgol Cymru, i’w chadeirydd ac i’r swyddogion eraill ym Mhrifysgol Cymru yn ddiamwys ac yn glir: yr ydych wedi cael digon o gyfle i roi trefn ar eich hunain; mae’n bryd i bobl gymryd cyfrifoldeb.

 

Andrew R.T. Davies: You will have our support, and our support has been given by our spokesperson with my endorsement. In your statement yesterday, you specifically invited the chairman of the council to reflect on his position and to consider what action would be appropriate in light of the evidence that has been brought forward. However, are you confident that, should the chair of the council take the advice and leave his position, the rest of the current leadership would be able to take the brand forward—we are hearing a lot about the brand—and reinvigorate the University of Wales so that it can start doing what we all would like it to do? As you touched on earlier—and I noticed many heads nodding—many Members who sit in this Chamber hold a University of Wales degree.

Andrew RT Davies: Byddwch yn cael ein cefnogaeth, ac mae ein cefnogaeth wedi ei roi gan ein llefarydd, gyda fy nghymeradwyaeth. Yn eich datganiad ddoe, bu i chi wahodd yn benodol cadeirydd y cyngor i fyfyrio ar ei swydd ac i ystyried beth fyddai’r camau gweithredu priodol yng ngoleuni’r dystiolaeth sydd wedi cael ei gyflwyno. Fodd bynnag, a ydych yn hyderus, os yw cadeirydd y cyngor yn cymryd y cyngor a gadael ei swydd, y byddai gweddill yr arweinyddiaeth bresennol yn gallu datblygu’r brand—yr ydym yn clywed llawer am y brand—ac ailfywiogi Prifysgol Cymru fel y gall ddechrau gwneud rhywbeth y byddai pob un ohonom yn hoffi iddo ei wneud? Fel y gwnaethoch grybwyll yn gynharach—a sylwais ar lawer o bennau’n nodio—mae gan lawer o Aelodau sy’n eistedd yn y Siambr hon radd Prifysgol Cymru.

 

Leighton Andrews: I thank the leader of the opposition for his support of the position taken by the Welsh Government. I want to commend the work that is already being done by Professor Medwin Hughes in his first week as vice-chancellor in attempting to address the challenges faced by the University of Wales and its brand. It is quite clear that the reputation of higher education in Wales has been affected internationally by what has taken place, not least in the past 12 months. That has been very damaging for the higher education sector in Wales. Time will tell whether there is a future for the University of Wales. Further serious steps would have to be taken to ensure that that brand has a value in the future.

Leighton Andrews: Diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei gefnogaeth i’r safbwynt a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwyf am ganmol y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan yr Athro Medwin Hughes yn ei wythnos gyntaf fel is-ganghellor wrth geisio mynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan Brifysgol Cymru a’i brand. Mae’n gwbl glir bod enw da addysg uwch yng Nghymru wedi cael ei effeithio arno yn rhyngwladol gan yr hyn sydd wedi digwydd, yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae hynny wedi bod yn niweidiol iawn i’r sector addysg uwch yng Nghymru. Amser a ddengys a oes dyfodol i Brifysgol Cymru. Byddai’n rhaid cymryd camau difrifol pellach i sicrhau bod gan y brand werth yn y dyfodol.

 

Simon Thomas: I am sure that many here will want to say that those involved in the University of Wales in the past have wanted the best for the Welsh economy and for Welsh students, but unfortunately, ambition has outpaced scrutiny. Those now involved will need to consider how best they can contribute towards the good governance of the institution for the future. Sadly, things have gone wrong, and I support the Minister and what he said about the implications of this for the whole sector in Wales. However, we are left with two key questions. We have an institution that will soon be asset rich but student poor considering going into a regional set-up. Does the Minister agree that the name of the institution must reflect its new role in Wales accurately, and that the national assets and reserves of the University of Wales, gathered in the name of the nation, should now be looked at to see how they can be best used to support higher education throughout Wales? Does he agree that there is an issue about where these assets belong, in the long term, if the future of the University of Wales is to be part of a regional structure, rather than a national one? Will he consider what steps he could take to ensure that the assets of the University of Wales, which have been set aside for national higher education in Wales, are in some way used to support his ambitions in Government and all of our ambitions in the Welsh Parliament to ensure the best quality of higher education for our students? 

Simon Thomas: Yr wyf yn siŵr y bydd llawer yma eisiau dweud bod y rhai a oedd ynghlwm â Phrifysgol Cymru yn y gorffennol wedi eisiau’r gorau ar gyfer economi Cymru ac i fyfyrwyr o Gymru, ond yn anffodus, mae uchelgais wedi tyfu’n gynt na’r craffu. Bydd angen i’r rhai sydd yno nawr ystyried y ffordd orau y gallant gyfrannu tuag at lywodraethu da’r sefydliad ar gyfer y dyfodol. Yn anffodus, mae pethau wedi mynd o’i le, ac yr wyf yn cefnogi’r Gweinidog a’r hyn a ddywedodd am oblygiadau hyn ar gyfer y sector cyfan yng Nghymru. Fodd bynnag, mae yna ddau gwestiwn allweddol. Mae gennym sefydliad a fydd yn fuan yn gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran myfyrwyr, sydd yn ystyried mynd i drefn ranbarthol.  A yw’r Gweinidog yn cytuno bod yn rhaid i enw’r sefydliad adlewyrchu ei rôl newydd yng Nghymru yn gywir, ac y dylid edrych ar asedau a chronfeydd cenedlaethol wrth gefn Prifysgol Cymru, a gasglwyd yn enw’r genedl, yn awr i weld sut y gallant gael eu defnyddio orau i gefnogi addysg uwch ledled Cymru? A yw’n cytuno bod yna fater ynglŷn â lle y mae’r asedau hyn yn perthyn, yn y tymor hir, os yw dyfodol Prifysgol Cymru i fod yn rhan o strwythur rhanbarthol, yn hytrach nag un cenedlaethol? A fydd yn ystyried pa gamau y gallai eu cymryd i sicrhau bod asedau Prifysgol Cymru, sydd wedi eu neilltuo ar gyfer addysg uwch cenedlaethol yng Nghymru, yn cael eu defnyddio mewn rhyw ffordd i gefnogi ei uchelgeisiau yn y Llywodraeth a phob un o’n huchelgeisiau yn Senedd Cymru i sicrhau’r ansawdd orau o addysg uwch ar gyfer ein myfyrwyr?

 

Leighton Andrews: I thank the Member for Mid and West Wales again for his support for the position taken by the Welsh Government on this issue. On the first point he raised, he will be aware that the stakeholder engagement on the future of higher education configuration closed only last week. Therefore, it would be premature for me to make further statements in relation to potential mergers between the University of Wales and any other institutions. On his second point about the national assets that exist within the University of Wales, I would remind him of what the McCormick review said about the University of Wales. It said that

Leighton Andrews: Diolch i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru unwaith eto am ei gefnogaeth ar gyfer y safbwynt a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn. O ran y pwynt cyntaf a gododd, bydd yn ymwybodol mai dim ond yr wythnos diwethaf y caewyd yr ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ddyfodol ffurfweddiad addysg uwch. Felly, byddai’n rhy gynnar i mi wneud datganiadau pellach mewn perthynas ag uno posibl rhwng Prifysgol Cymru ac unrhyw sefydliadau eraill. Ar ei ail bwynt ynglŷn â’r asedau cenedlaethol sy’n bodoli o fewn Prifysgol Cymru, byddwn yn ei atgoffa o’r hyn a ddywedodd adolygiad McCormick am Brifysgol Cymru. Dywedodd:

 

‘it is an institution that is deploying a national asset—the all-Wales brand—and yet has no national accountability’.

Mae’n sefydliad sy’n defnyddio ased cenedlaethol—brand Cymru gyfan—ac eto nid oes ganddi unrhyw atebolrwydd cenedlaethol .

 

I think that the Member was referring to very specific physical assets held by the University of Wales, including the University of Wales press, Gregynog Hall and so on. It is important to all of us, I think, that those assets are properly used for the future good of higher education in Wales, for the higher education students in Wales and for the people of Wales who have invested for over a century now in developing the University of Wales.

Credaf fod yr Aelod yn cyfeirio at asedau ffisegol penodol iawn a gedwir gan Brifysgol Cymru, gan gynnwys gwasg Prifysgol Cymru, Neuadd Gregynog ac yn y blaen. Mae’n bwysig i bob un ohonom, yr wyf yn meddwl, bod yr asedau hynny’n cael eu defnyddio’n iawn er lles dyfodol addysg uwch yng Nghymru, ar gyfer y myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru ac ar gyfer pobl Cymru sydd wedi buddsoddi ers dros canrif bellach o ran datblygu Prifysgol Cymru.

 

2.30 p.m.

 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Business Statement and Announcement

 

The Minister for Finance and Leader of the House (Jane Hutt): I have one change to report to this week’s Government business. On Wednesday, the First Minister will make a statement on the Welsh Government’s approach to economic stimulus. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement that can be found among the agenda papers that are available to Members electronically.

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Jane Hutt): Mae gennyf un newid i’w adrodd i fusnes y Llywodraeth yr wythnos hon. Ddydd Mercher, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran ysgogiad economaidd. Mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes y gellir ei weld ymhlith papurau’r agenda sydd ar gael i Aelodau yn electronig.

 

Mark Isherwood: The Association of Voluntary Organisations in Wrexham has announced that it will now not be appealing against tribunal findings, which now stand in their entirety. Therefore, in that context, I call for a statement by the Welsh Government on the damning judgment against this organisation with regard to the Welsh Government’s administration of public funds, the delivery of Welsh Government programmes and the appointment by the Welsh Government of this body as a grant recipient body for the troubled Plas Madoc Communities First project, after concerns were raised by the Wales Audit Office. This is not a historic matter that has since been remedied: one of the tribunal’s findings was that the trustees failed in their duties to oversee the conduct of officers, and we know that at the tribunal in March of this year, a trustee testified under oath that instead of dealing with issues now, the chair refers back to the chief officer, which is an inversion of the proper relationship between trustees and officers.

 

Mark Isherwood: Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam wedi cyhoeddi na fydd yn awr yn apelio yn erbyn canfyddiadau tribiwnlysoedd, a fydd nawr yn sefyll yn eu cyfanrwydd. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y dyfarniad damniol yn erbyn y sefydliad hwn o ran gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru o arian cyhoeddus, cyflwyno rhaglenni Llywodraeth Cymru a phenodiad y corff hwn gan Lywodraeth Cymru fel corff sy’n derbyn grant ar gyfer prosiect cythryblus Cymunedau yn Gyntaf ym Mhlas Madoc, ar ôl i bryderon gael eu codi gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw hwn yn fater hanesyddol sydd bellach wedi cael ei ddatrys: un o ganfyddiadau’r tribiwnlys oedd bod yr ymddiriedolwyr wedi methu yn eu dyletswyddau i oruchwylio ymddygiad swyddogion, ac rydym yn gwybod, yn y tribiwnlys ym mis Mawrth eleni, y bu i ymddiriedolwr dystio dan lw bod y cadeirydd, yn hytrach nag ymdrin â materion yn awr, yn cyfeirio yn ôl at y prif swyddog, sef gwrthdroad o’r berthynas briodol rhwng ymddiriedolwyr a swyddogion.

 

A letter dated 20 September from the Minister for Local Government and Communities stated that the appointment of this organisation as a grant recipient body for the Communities First programme in Plas Madoc followed a robust governance assurance process. A letter dated 10 October from the same Minister said that the areas covered included governance and executive leadership. However, it now seems that the deal over Plas Madoc was being discussed between the Welsh Government and AVOW at the same time as the tribunal judgment was being handed down. Therefore, we need to know whether AVOW informed the Welsh Government of the tribunal outcome at the time, noting that one of the board members who resigned in consequence of this—

 

Dywedodd llythyr ar 20 Medi oddi wrth y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau fod penodiad y sefydliad hwn fel corff sy’n derbyn grant ar gyfer y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ym Mhlas Madoc wedi dilyn proses gadarn o ran sicrwydd llywodraethu. Dywedodd llythyr ar 10 Hydref oddi wrth yr un Gweinidog fod y meysydd a drafodwyd yn cynnwys llywodraethiant ac arweinyddiaeth weithredol. Fodd bynnag, ymddengys yn awr bod y cytundeb dros Blas Madoc wedi cael ei drafod rhwng Llywodraeth Cymru a CMGW ar yr un pryd ag yr oedd dyfarniad y tribiwnlys yn cael ei gyhoeddi. Felly, mae angen i ni wybod a wnaeth CMGW hysbysu Llywodraeth Cymru am ganlyniad y tribiwnlys ar y pryd, gan nodi bod un o aelodau’r bwrdd a ymddiswyddodd o ganlyniad i hyn—

 

The Presiding Officer: Order. Can you move on a bit? [Laughter.]

 

Y Llywydd: Trefn. A allwch chi symud ymlaen ychydig? [Chwerthin.]

 

Mark Isherwood: This is a very serious matter.

 

Mark Isherwood: Mae hwn yn fater difrifol iawn.

 

He said that board members were parachuted in to get through the vote conducted for AVOW to take over the Plas Madoc Communities First project. Those facts have now come to a light and they show that there are serious questions about AVOW’s governance. It is surely incumbent on the Welsh Government to investigate thoroughly and speedily.

 

Dywedodd y daethpwyd ag aelodau’r bwrdd i mewn er mwyn sicrhau bod y bleidlais a gynhaliwyd i CMGW gymryd drosodd prosiect Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc yn llwyddiannus. Mae’r ffeithiau hynny bellach wedi dod yn amlwg ac maent yn dangos bod cwestiynau difrifol ynghylch llywodraethu CMGW. Mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i’w hymchwilio yn drylwyr ac yn gyflym.

 

Jane Hutt: I would like to inform the Assembly today that the Minister for Local Government and Communities has written in detail to Mark Isherwood on this matter.

 

Jane Hutt: Hoffwn roi gwybod i’r Cynulliad heddiw bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi ysgrifennu yn fanwl at Mark Isherwood ar y mater hwn.

 

Mike Hedges: Will you make time for the Assembly to discuss the impact of benefit reform on disabled people in Wales? If so, can you make it as close as possible to 22 October, which is a national day of action on this matter?

 

Mike Hedges: A wnewch chi amser i’r Cynulliad i drafod effaith diwygio budd-daliadau ar bobl anabl yng Nghymru? Os felly, a allwch ei wneud mor agos â phosibl at 22 Hydref, sef diwrnod cenedlaethol o weithredu ar y mater hwn?

 

Jane Hutt: I thank the Member for Swansea East. I hope that the Member will be aware that I announced in a written statement that I would be leading the development of a framework for action for independent living for disabled people. When I appeared before the Petitions Committee, the fact that I was taking that action, in partnership with my colleagues across the Welsh Government, was welcomed. I also made the point in my statement to the Petitions Committee that one of the reasons why this is now even more pressing is because of the adverse negative impact of welfare reform changes on disabled people.

 

Jane Hutt: Diolch i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe. Gobeithio y bydd yr Aelod yn ymwybodol y cyhoeddais mewn datganiad ysgrifenedig y byddwn yn arwain y gwaith o ddatblygu fframwaith ar gyfer gweithredu ar gyfer byw’n annibynnol i bobl anabl. Pan ymddangosais gerbron y Pwyllgor Deisebau, croesawyd y ffaith fy mod yn cymryd y camau hynny, mewn partneriaeth â’m cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru. Gwneuthum y pwynt hefyd yn fy natganiad i’r Pwyllgor Deisebau mai un o’r rhesymau pam fod hwn yn awr hyd yn oed yn bwysicach yw oherwydd effaith negyddol andwyol y newidiadau o ran diwygio lles ar bobl anabl.

 

Eluned Parrott: Minister, as we all know, the carrier bag charge came into effect around 10 days ago, and I am sure that we have all had at least one e-mail or letter from a constituent asking for clarification about how the charge is being implemented, as there is some variation between different shops. Will the Minister ask the Minister for Environment and Sustainable Development for a statement to the Chamber so that we can understand how the implementation of this law is being taken forward?

 

Eluned Parrott: Weinidog, fel y gwyddom, daeth y tâl am fagiau siopa i rym tua 10 niwrnod yn ôl, ac mae’n siŵr gennyf ein bod i gyd wedi cael o leiaf un e-bost neu lythyr gan etholwr yn gofyn am eglurhad ynglŷn â sut y mae’r tâl yn cael ei weithredu, gan fod peth amrywiaeth rhwng gwahanol siopau. A wnaiff y Gweinidog ofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy am ddatganiad i’r Siambr fel y gallwn ddeall sut y mae’r gyfraith hon yn cael ei roi ar waith?

 

Jane Hutt: The Member for South Wales Central will know that this is a step forward and that the introduction of the carrier bag charge has gone smoothly, on the whole, as a result of widespread consultation. I am sure that the Minister will receive and deal with any queries from constituents who are in business or who are customers, particularly if the implementation was uneven.

 

Jane Hutt: Bydd yr Aelod dros Ganol De Cymru yn gwybod bod hyn yn gam ymlaen, a bod cyflwyno’r tâl am fagiau siopa wedi mynd yn esmwyth, ar y cyfan, o ganlyniad i ymgynghori eang. Yr wyf yn sicr y bydd y Gweinidog yn derbyn ac yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau gan etholwyr sydd mewn busnes neu sy’n gwsmeriaid, yn enwedig os yw’r gweithrediad yn anwastad.

 

Andrew R.T. Davies: Leader of the House, could we have a statement from the Minister for Health and Social Services about the precarious situation in which the Cardiff and Vale University Local Health Board finds itself? I am sure that you, as a constituency Member, have been approached, as have I, as a regional Member, by people who are served by this LHB who have real concerns about the financial predicament and the operational difficulties in which it finds itself. A written statement would suffice on what actions the Government believes that it may be able to take to assist the LHB to meet the winter pressures and the financial and operational challenges that it faces.

 

Andrew R.T. Davies: Arweinydd y Tŷ, a allem gael datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am sefyllfa fregus Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro? Mae’n siŵr gennyf eich bod, fel Aelod etholaeth, wedi cael pobl yn dod atoch, fel y maent wedi dod ataf fi, fel Aelod rhanbarthol, sy’n cael eu gwasanaethu gan y bwrdd iechyd lleol hwn sydd â phryderon gwirioneddol ynghylch ei sefyllfa anodd ariannol a’i anawsterau gweithredol. Byddai datganiad ysgrifenedig yn ddigonol ar ba gamau y mae’r Llywodraeth yn credu y gallai eu cymryd i gynorthwyo’r bwrdd iechyd lleol i gwrdd â phwysau’r gaeaf a’r heriau ariannol a gweithredol y mae’n eu hwynebu.

 

Jane Hutt: I am sure that the leader of the opposition will welcome the fact that my draft budget statement last week resulted in a further allocation of £288 million to the NHS. That, of course, would be welcomed by health boards, including the Cardiff and Vale University Local Health Board.

 

Jane Hutt: Mae’n siŵr gennyf y bydd arweinydd yr wrthblaid yn croesawu’r ffaith bod fy natganiad ar y gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf wedi arwain at ddyraniad pellach o £288 miliwn i’r gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cael ei groesawu gan fyrddau iechyd, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

 

Datganiad: Partneriaeth Tai Cymru
Statement: Welsh Housing Partnership

 

The Minister for Housing, Regeneration and Heritage (Huw Lewis): I know that I do not need to spell out to Members the substantial impact that the economic situation is having on the housing market and investment in new homes. As a result, we must be more innovative in how we finance the building of new homes that families can afford. My statement today signals just that.

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (Huw Lewis): Gwn nad oes angen imi ddweud yn fanwl wrth Aelodau yr effaith sylweddol y mae’r sefyllfa economaidd yn ei gael ar y farchnad dai a buddsoddiad mewn cartrefi newydd. O ganlyniad, mae’n rhaid inni fod yn fwy arloesol o ran y ffordd yr ydym yn ariannu adeiladu cartrefi newydd y gall teuluoedd eu fforddio. Mae fy natganiad heddiw yn dangos hynny.

 

In August, the Welsh housing partnership was formed. One month later, together with the Minister for Finance and Leader of the House, I visited the first house to be purchased by the partnership. I wish to update Members on this new and innovative model. This idea has been some time in the pipeline. I welcome it and I am grateful to the members of the partnership who have demonstrated a high level of commitment and determination to reach a common goal. The Welsh housing partnership is made up of Coastal Housing Group, Hendre Group, Seren Group and Cymdeithas Tai Clwyd. They have joined forces to work together to share knowledge, experience and risk, but, most importantly, to provide around 150 quality, affordable rented homes to people living in north and south Wales.

 

Ym mis Awst, ffurfiwyd partneriaeth tai Cymru. Fis yn ddiweddarach, ynghyd â’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, ymwelais â’r tŷ cyntaf a brynwyd gan y bartneriaeth. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaf i Aelodau ar y model newydd, arloesol. Mae’r syniad wedi bod ar y gweill ers peth amser. Yr wyf yn ei groesawu ac yr wyf yn ddiolchgar i aelodau’r bartneriaeth sydd wedi dangos lefel uchel o ymrwymiad a phenderfyniad i gyrraedd nod cyffredin. Mae partneriaeth tai Cymru yn cynnwys Grŵp Tai’r Arfordir, Grŵp Hendre, Grŵp Seren a Chymdeithas Tai Clwyd. Maent wedi dod at ei gilydd i weithio ar y cyd i rannu gwybodaeth, profiad a risg, ond, yn bwysicaf oll, er mwyn darparu tua 150 o dai rhent fforddiadwy o safon dda i bobl sy’n byw yng ngogledd a de Cymru.

 

It is a collaborative funding vehicle for the delivery of quality, intermediate rented housing. In terms of structure, it is a jointly owned special purpose vehicle, owned by the four members. The model is relatively novel in that the partnership will purchase the properties and then lease them back to the associations for a period of 10 years. The properties will then be managed by the associations as part of their existing stock, which, collectively, is in excess of 18,000 properties. Building on previous successes in increasing the provision of affordable housing in Wales, the aim of the new project is to increase the supply of quality affordable homes. The partnership will offer long-term, quality rental packages to tenants throughout the country.

 

Mae’n ddull o ddefnyddio cyllid cydweithredol er mwyn darparu tai rhent canolradd o ansawdd. O ran strwythur, fe’i crëwyd at bwrpas arbennig, ac mae’r berchnogaeth yn cael ei rhannu rhwng y pedwar aelod. Mae’r model yn gymharol newydd gan y bydd y bartneriaeth yn prynu’r eiddo ac wedyn yn eu prydlesu yn ôl i’r cymdeithasau am gyfnod o 10 mlynedd. Yna, bydd yr eiddo yn cael eu rheoli gan y cymdeithasau fel rhan o’u stoc bresennol, sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na 18,000 o dai. Gan adeiladu ar lwyddiannau blaenorol wrth gynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru, nod y prosiect newydd yw cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy o safon. Bydd y bartneriaeth yn cynnig pecynnau rhent tymor hir o ansawdd i denantiaid ledled y wlad.

 

I want to ensure that, over the next five years, we increase the supply of homes, making certain that we provide the right type of quality housing and more choice for people in housing need. The partnership is helping to lead the way in ensuring that that happens. There is great pressure to provide affordable housing across Wales, and we are all aware that there is not enough to meet the need. At the same time as Welsh Government budgets are reducing, the levels of need are increasing across the board. The partnership is showing that it is possible to do things differently, to make best use of increasingly reduced public funding and to secure private sector support, which is vital for this project to succeed. The partnership has shown that, in difficult times, people become more resourceful and focused and work together to find solutions to make a difference.

 

Yr wyf am sicrhau ein bod, dros y pum mlynedd nesaf, yn cynyddu’r cyflenwad o gartrefi, gan sicrhau ein bod yn darparu’r math cywir o dai o ansawdd a mwy o ddewis i bobl sydd ag anghenion tai. Mae’r bartneriaeth yn helpu i arwain y ffordd o ran sicrhau bod hynny’n digwydd. Mae pwysau mawr i ddarparu tai fforddiadwy ledled Cymru, ac yr ydym i gyd yn ymwybodol nad oes digon i ddiwallu’r angen. Ar yr un pryd wrth i gyllidebau Llywodraeth Cymru leihau, mae lefel yr angen yn cynyddu yn gyffredinol. Mae’r bartneriaeth yn dangos ei bod yn bosibl i wneud pethau’n wahanol, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r symiau cynyddol lai o arian cyhoeddus sydd ar gael ac i sicrhau cefnogaeth y sector preifat, sy’n hanfodol os yw’r prosiect hwn i lwyddo. Mae’r bartneriaeth wedi dangos bod pobl, mewn cyfnod anodd, yn dod yn fwy dyfeisgar ac yn canolbwyntio, ac yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i atebion er mwyn gwneud gwahaniaeth.

 

Managing reducing budgets is a challenge to which we must continue to rise to meet and, unfortunately, something that we will have to face for the foreseeable future. In view of that, it is imperative that we make existing budgets stretch further and I want to look for alternative ways of bringing new money into the housing sector. This £16 million project demonstrates how this can be done, as it is being financed through a combination of £3 million of Welsh Government grant funding, a £12 million loan from the Principality Building Society’s commercial division and a combined £1 million from the four associations in the partnership. It is essential that we share ideas such as the Welsh housing partnership to encourage others to come forward with new ways of working.

 

Mae rheoli cyllidebau sy’n lleihau yn her y mae’n rhaid i ni barhau i gwrdd â hi, yn anffodus, yn rhywbeth y byddwn yn ei wynebu yn y dyfodol. O ystyried hynny, mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud i’r cyllidebau presennol ymestyn ymhellach ac rwyf am edrych ar ddulliau amgen o ddod ag arian newydd i mewn i’r sector tai. Mae’r prosiect yma, sydd gwerth £16 miliwn, yn dangos sut y gellir gwneud hyn, gan ei fod yn cael ei ariannu drwy gyfuniad o £3 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth Cymru, a benthyciad o £12 miliwn wrth isadran fasnachol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, ynghyd â chyfanswm o £1 miliwn gan y pedair cymdeithas yn y bartneriaeth. Mae’n hanfodol ein bod yn rhannu syniadau megis partneriaeth tai Cymru i annog eraill i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.

 

At the heart of the partnership are the people of Wales whom we are seeking to help. It is vital that these homes are affordable, as so many people are in low-paid employment. This project has been modelled on rents that are at or below the local housing allowance. This means that all rents will be below the average private rent in each area and eligible for full housing benefit where tenants qualify for it. This marks the culmination of many months of hard work to bring forward a new and innovative way of delivering quality, affordable housing—a key priority for this Welsh Government.

 

Wrth wraidd y bartneriaeth y mae’r bobl yng Nghymru yr ydym yn ceisio eu helpu. Mae’n hanfodol bod y cartrefi hyn yn fforddiadwy, gan fod cymaint o bobl mewn gwaith ar gyflog isel. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei fodelu ar rent sydd ar yr un lefel neu’n is na’r lwfans tai lleol. Golyga hyn y bydd pob rhent yn is na’r rhent preifat ar gyfartaledd ym mhob ardal ac yn gymwys i dderbyn budd-dal tai llawn lle mae tenantiaid yn gymwys ar ei gyfer. Mae hyn yn nodi diwedd misoedd lawer o waith caled i gyflwyno ffordd newydd ac arloesol o ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd—blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.

 

This partnership, and its contribution to social housing in Wales, is important on many levels. A key aspect is the opportunity that it gives to housing associations in Wales to increase the number of affordable homes that they provide. The Welsh housing partnership has developed an innovative approach to funding in Wales that maximises the impact of public funding by drawing on the support and finances of private sector partners that share our goals. Not only has the partnership produced a proposal that will provide much needed housing, but it has set the standard for other potential opportunities and builds on a long track record of partnership working. We think it has the potential to grow and to be replicated. We will build on this great foundation that will see more and more people living in quality rented accommodation across Wales.

 

Mae’r bartneriaeth hon, a’i chyfraniad at dai cymdeithasol yng Nghymru, yn bwysig ar sawl lefel. Un agwedd allweddol yw’r cyfle y mae’n ei roi i gymdeithasau tai yng Nghymru i gynyddu nifer y tai fforddiadwy a ddarperir ganddynt. Mae partneriaeth tai Cymru wedi datblygu dull arloesol o gyllido yng Nghymru sy’n sicrhau’r effaith fwyaf ar gyfer cyllid cyhoeddus drwy dynnu ar gefnogaeth a chyllid partneriaid yn y sector preifat sy’n rhannu ein nodau. Nid yn unig y mae’r bartneriaeth wedi cynhyrchu cynnig a fydd yn darparu’r tai y mae eu hangen, ond y mae wedi gosod y safon ar gyfer cyfleoedd posibl eraill ac yn adeiladu ar hanes hir o weithio mewn partneriaeth. Credwn fod ganddo’r potensial i dyfu a chael ei gopïo mewn mannau eraill. Byddwn yn adeiladu ar y sylfaen gwych a fydd yn gweld mwy a mwy o bobl yn byw mewn cartrefi rhent o ansawdd ar draws Cymru.

 

Mark Isherwood: We are supportive of this initiative and particularly a collaborative funding vehicle for the delivery of intermediate rental housing—of course, not social rents, therefore supporting higher levels of debt, lower levels of grants and keeping it off the balance sheet for housing associations and enabling the grants to go further. It is good to see the Principality making its £12 million contribution and £1 million from the housing associations alongside the Welsh Government’s £3 million. This of course comes out of the, unfortunately, disastrous end to the Welsh housing investment trust, but it is encouraging that, where collaboration can exist across housing associations, that aspect can come forward in this way because we need to find new ways of funding at a time of funding shortages and social housing grant cuts. In that context, cuts are not new; we have seen significant cuts since 1999 and now we face a further 49 per cent cut in the social housing grant, which amounts to £43 million. This, therefore, goes some way at least to compensating for that and to keeping rents below the private rent level, as you say.

 

Mark Isherwood: Yr ydym yn cefnogi’r fenter hon ac, yn arbennig, defnyddio cyllid cydweithredol i ddarparu tai rhent canolradd—wrth gwrs, nid rhenti cymdeithasol, ac felly yn cefnogi lefelau uwch o ddyled, lefelau is o grantiau a’i gadw oddi ar y fantolen ar gyfer cymdeithasau tai a galluogi’r grantiau i fynd ymhellach. Mae’n dda gweld Principality yn gwneud ei gyfraniad o £12 miliwn ac £1 miliwn gan y cymdeithasau tai ochr yn ochr â £3 miliwn wrth Lywodraeth Cymru. Mae hwn, wrth gwrs, yn ganlyniad i ddiwedd trychinebus ymddiriedolaeth buddsoddi tai Cymru, ond mae’n galonogol, lle y gall cydweithio fodoli ar draws cymdeithasau tai, y gall yr agwedd honno ddod ymlaen fel hyn oherwydd mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyllido ar adeg o brinder cyllid a thoriadau grant tai cymdeithasol. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw toriadau yn newydd; yr ydym wedi gweld toriadau sylweddol ers 1999 ac yn awr rydym yn wynebu toriad pellach o 49 y cant yn y grant tai cymdeithasol, sef £43 miliwn. Mae hyn, felly, yn cyfrannu rhywfaint o ran gwneud yn iawn am hynny ac i gadw rhenti yn is na’r lefel rhent preifat, fel y dywedasoch.

 

How will you also be engaging with the private sector—the National Landlords Association, for example—to ensure that, as you are doing here, by keeping rents below average private rents, they will be eligible for full housing benefit? Like you, we welcome the fact that you maximise the impact of public funding by drawing on the support and finances of private sector partners who share your goals. We fully support that on a sector-blind basis if it works, but I am sure that you will recognise that the Principality Building Society and the housing associations are not part of the private sector, as they are mutuals and social enterprises. It is good that you say that we will build on this great foundation to see more people living in quality rented accommodation across Wales.

 

Sut y byddwch hefyd yn ymgysylltu â’r sector preifat—Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, er enghraifft—i sicrhau, fel yr ydych yn ei wneud yma, drwy gadw rhenti yn is na rhenti preifat, y byddant yn gymwys i dderbyn budd-dal tai llawn? Fel chi, yr ydym yn croesawu’r ffaith eich bod yn sicrhau’r effaith mwyaf posibl o gyllid cyhoeddus drwy dynnu ar gefnogaeth a chyllid partneriaid yn y sector preifat sy’n rhannu eich nodau. Rydym yn llwyr gefnogi hynny ar sail sector os yw’n gweithio, ond yr wyf yn siŵr y byddech yn cydnabod nad oedd Cymdeithas Adeiladu’r Principality a’r cymdeithasau tai yn rhan o’r sector preifat, gan eu bod yn gydfuddiannol ac yn fentrau cymdeithasol. Mae’n dda eich bod yn dweud y byddwn yn adeiladu ar y sylfaen gadarn hon er mwyn gweld mwy o bobl yn byw mewn llety rhent o ansawdd ar draws Cymru.

 

What will be the eligibility criteria for applicants, if any, for the 150 units that will be supplied? How will this relate to the Welsh Government’s Rent First scheme, and is the Welsh Government also looking at a Welsh equivalent of the England First Buy scheme or not? What engagement, if any, are you having with house builders with regard to other vehicles, for example, a mortgage indemnity insurance guarantee scheme, to enable first-time buyers to borrow a higher percentage of the house price, or with the likes of Conwy County Council, which is also bringing forward an insurance-based scheme for that purpose?

 

Beth fydd y meini prawf cymhwyster ar gyfer ymgeiswyr, os o gwbl, ar gyfer y 150 o unedau a fydd yn cael eu cyflenwi? Sut y bydd hyn yn ymwneud â chynllun Rhent yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, ac a ydyw Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar gynllun cyfatebol Cymreig i’r cynllun First Buy yn Lloegr ai peidio? Pa ymgysylltu, os o gwbl, ydych yn ei gael gydag adeiladwyr tai mewn perthynas â cherbydau eraill, er enghraifft, cynllun gwarant yswiriant indemniad morgais, er mwyn galluogi prynwyr tro cyntaf i fenthyg canran uwch o’r prisiau tai, neu gyda chwaraewyr fel Cyngor Sir Conwy, sydd hefyd yn cyflwyno cynllun ar sail yswiriant at y diben hwnnw?

 

In terms of private sector landlords, do you agree that we need engagement, not enforcement, encouraging local authorities to use the Housing Act 2004 against the Rachmans and Rigsbys—the bad landlords—rather than necessarily repeating the experience of Scotland with the mandatory landlord register, which has cost it £16 million and not worked? How will you plan to help the housing supply in general across all tenures to address housing needs and demands? An increase in social rented products alone will not help with the underlying issues in the housing market regulated to affordability and problems for first-time buyers.

O ran landlordiaid sector preifat, a ydych yn cytuno bod arnom angen ymrwymiad, nid gorfodaeth, gan annog awdurdodau lleol i ddefnyddio Deddf Tai 2004 yn erbyn y Rachmans a’r Rigsbys—y landlordiaid gwael—yn hytrach nag o reidrwydd ailadrodd profiad yr Alban â’r gofrestr landlordiaid gorfodol, sydd wedi costio £16 miliwn a heb weithio? Sut y byddwch yn cynllunio i helpu’r cyflenwad tai yn gyffredinol ar draws pob daliadaeth i roi sylw i anghenion a galwadau am dai? Ni fydd cynnydd mewn llety cymdeithasol ar rent ar ei ben ei hun yn helpu gyda’r materion sylfaenol yn y farchnad dai o ran rheoleiddio ynghylch fforddiadwyedd a phroblemau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf.

 

2.45 p.m.

 

 

What broader innovations—possibly a sustainable rent model—are you considering to complement this, so that we can continue to sustain supply despite the 50 per cent capital cuts that are being faced?

 

Pa arloesi ehangach—model rhent cynaliadwy, o bosibl—yr ydych chi’n ei ystyried i ategu hyn, fel y gallwn barhau i gynnal y cyflenwad er gwaethaf y ffaith ein bod yn wynebu toriadau cyfalaf o 50 y cant?

Huw Lewis: You have summed up the five years’ work ahead of me in one question. Was it one question, Presiding Officer? I am not sure.

 

Huw Lewis: Yr ydych wedi crynhoi’r gwaith sydd o fy mlaen i am y pum mlynedd nesaf mewn un cwestiwn. A oedd yn un cwestiwn, Lywydd? Nid wyf yn siŵr.

The Presiding Officer: Order. I did count and I will tell you later. [Laughter.]

 

Y Llywydd: Trefn. Bu i mi gyfrif a dywedaf wrthych yn nes ymlaen. [Chwerthin.]

 

Huw Lewis: I will try my best to cover the main highlights of the points that you raised, Mark. I understand why the questions tumble out, because an innovation like the Welsh housing partnership begs many questions. Many possibilities open up before us if we can emulate that commitment to partnership working and innovative forms of finance. At the root of the solution to the problems that we face are two words: land and capital. If we can increase the supply of land by being more efficient in how public land flows towards housing solutions, and engage the wider private sector—as Mark was hinting at—with regard to innovative forms of capital investment, then, despite all the problems that we face, we can do a great deal to make sure that every person in Wales has access to a decent affordable home.

 

Huw Lewis: Gwnaf fy ngorau i drafod prif uchafbwyntiau'r pwyntiau a godwyd gennych, Mark. Yr wyf yn deall pam mae’r cwestiynau yn llifo, gan fod arloesedd fel partneriaeth tai Cymru yn codi llawer o gwestiynau. Mae llawer o bosibiliadau yn agor i fyny o’n blaenau petaem yn gallu efelychu’r ymrwymiad hwnnw i weithio mewn partneriaeth a mathau arloesol o gyllid. Wrth wraidd yr ateb i’r problemau sy’n ein hwynebu y mae dau air: tir a chyfalaf. Os gallwn gynyddu’r cyflenwad tir drwy fod yn fwy effeithlon yn y ffordd y mae tir cyhoeddus yn llifo tuag at ddatrysiadau tai, a chynnwys y sector preifat ehangach—fel y bu i Mark awgrymu—mewn perthynas â ffurfiau arloesol o fuddsoddiad cyfalaf, yna, er gwaethaf yr holl broblemau rydym yn eu hwynebu, gallwn wneud llawer i sicrhau bod gan bob person yng Nghymru fynediad at gartref fforddiadwy o safon.

 

I am sorry that Mark thinks that the Welsh housing investment trust is ‘disastrous’. I would not agree with the word ‘disastrous’ at all. Without the experience of the Welsh housing investment trust I would not be in a position today to talk about the Welsh housing partnership. I am sure that the partnership model will grow and evolve over time as we learn new ways of solving those twin problems of supply of land and supply of capital.

 

Mae’n ddrwg gennyf fod Mark yn meddwl bod ymddiriedolaeth buddsoddi tai Cymru yn drychinebus. Ni fyddwn yn cytuno â’r gair ‘trychinebus’ o gwbl. Heb y profiad o ymddiriedolaeth fuddsoddi tai Cymru, ni fyddwn mewn sefyllfa heddiw i siarad am bartneriaeth tai Cymru. Yr wyf yn sicr y bydd y model partneriaeth yn tyfu ac yn datblygu dros amser wrth i ni ddysgu ffyrdd newydd o ddatrys problemau cyflenwad tir a chyflenwad cyfalaf.

In terms of the private rented sector, Mark is right to highlight it. I intend, during this Assembly term, to raise our engagement and relationship with the private rented sector, through the National Landlords Association and others, to a new level. The private rented sector deserves the Government’s attention and support, and, as a quid pro quo, it must recognise that there are problems with its image. We need to work together to put that right. I do not entirely see that as a job of enforcement, although if enforcement is necessary, it will follow. We have the opportunity, of course, for considerable legislative change opening up before us. I see a considerable role for carrots as well as sticks—I am sure that good landlords would be the first to agree with me—to make sure that bad landlords are driven out of the private rented sector, as far as we can possibly manage, because they are not good for landlords or tenants. 

 

O ran y sector rhentu preifat, mae Mark yn iawn i dynnu sylw at hynny. Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yr wyf yn bwriadu codi ein hymgysylltiad a’n perthynas â’r sector rhentu preifat, trwy Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid ac eraill, i lefel newydd. Mae’r sector rhentu preifat yn haeddu sylw a chefnogaeth y Llywodraeth, ac, fel quid pro quo, mae’n rhaid iddo gydnabod bod problemau gyda’i ddelwedd. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i ddatrys hynny. Nid wyf yn gweld hynny fel mater o orfodi yn unig, er, os oes angen gorfodi, bydd hynny’n dilyn. Mae gennym y cyfle, wrth gwrs, i beri newid deddfwriaethol. Yr wyf yn gweld rôl sylweddol i foron yn ogystal â ffyn—yr wyf yn sicr mai landlordiaid da fyddai’r cyntaf i gytuno â mi—i wneud yn siŵr bod landlordiaid drwg yn cael eu gyrru allan o’r sector rhentu preifat, cyn belled ag y gallwn wneud hynny, oherwydd nid ydynt yn dda ar gyfer landlordiaid na thenantiaid.

 

To conclude, it might be best to get back to you in writing on some of the points that you raised, Mark. However, I stress that this is an intermediate rent product that we are talking about specifically. It is not the only model that we could pursue to exploit what I think is an underexplored sub-sector of Welsh housing—intermediate rent. The changes that we are facing with regard to the economic downturn, the rise in household bills and the problems that Welsh households will face in the coming months and years, will mean that many people will be forced into a situation where they can no longer afford to buy a house, but they would be locked out of the traditional social housing route.

 

I gloi, efallai y byddai’n well i mi ysgrifennu atoch ar rai o’r pwyntiau a godwyd gennych, Mark. Fodd bynnag, pwysleisiaf ein bod yn trafod cynnyrch rhent canolradd yn benodol. Nid dyma’r unig fodel y gallem ei ddefnyddio i fanteisio ar is-sector o dai Cymru nad yw wedi ei archwilio—rhent canolradd. Mae’r newidiadau yr ydym yn eu hwynebu o ran y dirywiad economaidd, y cynnydd ym miliau’r cartref a’r problemau y bydd aelwydydd yng Nghymru yn eu hwynebu yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, yn golygu y bydd llawer o bobl yn cael eu gorfodi i sefyllfa lle na allant fforddio mwyach i brynu tŷ, ond byddent yn cael eu cloi allan o’r llwybr tai cymdeithasol traddodiadol.

 

Therefore, who is this aimed at? Who is eligible for this? I think that those were your other key questions, Mark. Eligibility surrounds that growing portion of the population that is locked out of conventional social housing. They are people who may have been on a registered social landlord waiting list for a long time but who, at the same time, cannot access the level of savings required for a deposit to get on the home-ownership ladder—a growing proportion of the Welsh public.

 

Felly, ar gyfer pwy y mae hyn? Pwy sy’n gymwys ar gyfer hyn? Credaf mai dyna oedd eich cwestiynau allweddol eraill, Mark. Mae’r cwestiwn o bwy sy’n gymwys yn ymwneud â chyfran gynyddol o’r boblogaeth sy’n cael ei chloi allan o dai cymdeithasol confensiynol. Maent yn bobl a allai fod wedi bod ar restr aros landlord cymdeithasol cofrestredig am amser hir ond, ar yr un pryd, nad ydynt yn gallu cael mynediad at y lefel o gynilion sydd eu hangen am flaendal i brynu eu tŷ cyntaf—cyfran gynyddol o’r cyhoedd yng Nghymru.

 

Leanne Wood: First, Plaid Cymru welcomes new, creative ways of financing housing and providing for this forgotten group. There is no doubt that the economic conditions, coupled with the changes that will be made to housing benefit rules, add up to difficult circumstances for many people. We all understand that we need an increase in the affordable housing stock. I am therefore a little disappointed at what appears to be a lack of ambition for this partnership: 150 homes, presumably spread over the four geographical areas represented by the partnership, will mean just 37.5 homes for each housing association. That is unlikely to touch the waiting lists. If all of these are to be two-bedroomed homes, they will not be suitable for larger families, or for the single people who will be hit hard by the changes to housing benefit. We would welcome any measures that would help those who are unable to otherwise obtain a home, and we understand that lack of money is the reason why this sort of scheme is not bigger, but it does need expansion, Minister, over the long term. Do you, therefore, support the use of bonds? What discussions have you had about other new ways of raising capital for the provision of affordable new homes? Finally, in response to Mark Isherwood’s question, you mentioned the challenge of land; do you have any plans to create a land bank?

 

Leanne Wood: Yn gyntaf, mae Plaid Cymru yn croesawu ffyrdd newydd, creadigol o ariannu tai a darparu ar gyfer y grŵp hwn sydd wedi ei anghofio. Nid oes amheuaeth bod yr amodau economaidd, ynghyd â’r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud i reolau budd-dal tai, yn creu amgylchiadau anodd i lawer o bobl. Yr ydym i gyd yn deall bod angen cynnydd yn y stoc tai fforddiadwy. Yr wyf, felly, braidd yn siomedig â’r diffyg uchelgais sydd i’w weld yma o ran y bartneriaeth hon: bydd 150 o gartrefi, a fydd, yn ôl pob tebyg, wedi eu lledaenu dros y pedair ardal ddaearyddol a gynrychiolir gan y bartneriaeth, yn golygu dim ond 37.5 o gartrefi ar gyfer pob cymdeithas dai. Mae hynny’n annhebygol o gael unrhyw effaith ar y rhestrau aros. Os bydd y rhain i gyd yn gartrefi gyda dwy ystafell wely, ni fyddant yn addas ar gyfer teuluoedd mwy na’r bobl sengl fydd yn cael eu bwrw’n galed gan y newidiadau i’r budd-dal tai. Byddem yn croesawu unrhyw gamau a fyddai’n helpu’r rhai nad ydynt yn gallu cael cartref fel arall, ac rydym yn deall mai diffyg arian yw’r rheswm pam nad yw’r math hwn o gynllun yn fwy, ond mae angen ei ehangu, Weinidog, yn y tymor hir. A ydych chi, felly, yn cefnogi’r defnydd o fondiau? Pa drafodaethau yr ydych chi wedi’u cael ynglŷn â ffyrdd newydd eraill o godi cyfalaf ar gyfer darparu cartrefi newydd fforddiadwy? Yn olaf, mewn ymateb i gwestiwn Mark Isherwood, soniasoch am y sialens o ran tir; a oes gennych unrhyw gynlluniau i greu banc tir?

 

Huw Lewis: I welcome your support for the Welsh housing partnership model. I would, of course, part company with you when you say that you detect a lack of ambition here. I would underline—I think that I made this clear during the statement on more than one occasion—that this is a very specific solution for the problems facing a specific part of the population. It is a group that I think we would all agree needs support and help, and a group that will, in all likelihood, grow markedly over the coming months and years. We are talking about two-bedroomed and three-bedroomed properties, so it is not all about two-bedroomed homes. This is very much a start, a beginning and a departure point. I am not reporting the end of the policy development process, or of our ambition, or the summit of our achievement. What is important about the partnership is that, first, it signals to the housing community that this sort of co-working has the backing of the Welsh Government; secondly, it signals that it is possible; and thirdly, it signals that we will seek to expand this kind of thinking and assist anyone who wishes to turn good ideas into good solutions during this Assembly term.

 

Huw Lewis: Yr wyf yn croesawu’r ffaith eich bod yn cefnogi model partneriaeth tai Cymru. Hoffwn, wrth gwrs, anghytuno â’r hyn a ddywedasoch o ran canfod diffyg uchelgais yma. Yr wyf yn pwysleisio—credaf fy mod wedi gwneud hyn yn glir yn ystod y datganiad ar fwy nag un achlysur—mai ateb penodol iawn yw hwn i’r problemau sy’n wynebu rhan benodol o’r boblogaeth. Mae’n grŵp yr wyf yn meddwl y byddem ni i gyd yn cytuno y mae angen cefnogaeth a chymorth arno, ac yn grŵp a fydd, yn ôl pob tebyg, yn tyfu yn sylweddol dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Yr ydym yn sôn am eiddo gyda dwy neu dair ystafell wely, felly nid dim ond cartrefi gyda dwy ystafell wely. Dyma ddechrau’r broses—dechreuad a man cychwyn. Nid wyf yn sôn am ddiwedd y broses o ddatblygu polisi, neu ein huchelgais, neu’r uchafbwynt o ran ein llwyddiant. Yr hyn sy’n bwysig am y bartneriaeth yw, yn gyntaf, ei bod yn dangos i’r gymuned tai bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r math hwn o gydweithio; yn ail, mae’n dangos ei bod yn bosibl; ac yn drydydd, mae’n dangos y byddwn yn ceisio ehangu’r math hwn o feddwl ac yn cynorthwyo unrhyw un sy’n dymuno troi syniadau da yn atebion da yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

 

You mentioned some specifics. On bonds, yes, I am open to a conversation. You also mentioned the L-word, and what really matters here is the flow of land and capital. We really have to get to grips with that over this Assembly term if we are to face up to the very real budgetary constraints that will impact upon us, and are doing so already. The raising of capital in innovative ways, and talking to partners who we have not necessarily courted before, is fine. The door is open on bonds and other innovative solutions. I know that there are multiple conversations going on within Government and between Government and partners about how we can broach some of those issues. Although some of these solutions will no doubt be new in a Welsh context, and some people will have to be inspired to take a leap of faith with them—the Government’s role will be critical in that—this simply boils down to those two factors. The solutions to the housing problems that face us are around the release of land and the flow of capital.

 

Soniasoch am rai manylion. Ar fondiau, ydw, yr wyf i’n agored i sgwrs. Soniasoch hefyd am air yn dechrau gydag ‘l’, a beth sydd wir yn bwysig yma yw llif y tir a chyfalaf. Mae’n rhaid inni wir fynd i’r afael â hynny dros dymor y Cynulliad hwn os ydym i wynebu’r cyfyngiadau cyllidebol go iawn a fydd yn effeithio arnom ni, ac rydym yn gwneud hynny eisoes. Mae codi cyfalaf mewn ffyrdd arloesol, a siarad â phartneriaid nad ydym o reidrwydd wedi’u denu o’r blaen, yn iawn. Mae’r drws ar agor ar fondiau ac atebion arloesol eraill. Rwy’n gwybod bod nifer o sgyrsiau yn digwydd yn y Llywodraeth a rhwng y Llywodraeth a phartneriaid ynghylch sut y gallwn ni godi rhai o’r materion hyn. Er bydd rhai o’r atebion hyn yn ddiau yn newydd mewn cyd-destun Cymreig, a bydd angen ysbrydoli rhai pobl i gymryd naid ffydd yn hyn o beth—bydd rôl y Llywodraeth yn hanfodol yn hyn i gyd—mae daw hyn oll i lawr at y ddau ffactor hynny. Mae’r atebion i’r problemau tai sy’n ein hwynebu o gwmpas rhyddhau tir a llif y cyfalaf.

 

Peter Black: I also welcome this statement and the partnership model that the Minister has outlined today. It is useful that not only do we have that sort of partnership in place and are attracting significant sums of private investment into new affordable housing, but also that we have another 150 new affordable homes. It is indeed useful that the Minister is able to keep that off the balance book, so as to maximise the use of his own capital. However, I share Leanne Wood’s disappointment at what appears to be a lack of ambition. I accept what the Minister has said about this being the start of a process, so I hope that we will have many more homes under this mechanism. However, it seems to me that the most innovative part of the funding mechanism is the fact that the Welsh Government is doing it; there is little that is innovative in the mechanism itself with regard to what has happened outside of Wales and even inside of Wales, led by councils and RSLs.

 

Peter Black: Yr wyf hefyd yn croesawu’r datganiad hwn a’r model partneriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i amlinellu heddiw. Mae’n ddefnyddiol nid yn unig bod gennym y math hwnnw o bartneriaeth yn ei le ac yn denu symiau sylweddol o fuddsoddiad preifat i mewn i dai fforddiadwy newydd, ond hefyd fod gennym 150 o dai fforddiadwy newydd. Mae hi wir yn ddefnyddiol bod y Gweinidog yn gallu cadw hynny oddi ar y fantolen, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’i gyfalaf ei hun. Fodd bynnag, yr wyf yn rhannu siom Leanne Wood o ran y diffyg uchelgais. Yr wyf yn derbyn yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, sef mai dechrau’r broses yw hyn, ac felly yr wyf yn gobeithio y bydd gennym lawer mwy o gartrefi dan y mecanwaith hwn. Fodd bynnag, ymddengys i mi mai rhan fwyaf arloesol y mecanwaith ariannu yw’r ffaith taw Llywodraeth Cymru sy’n ei wneud; nid oes fawr sy’n arloesol yn y mecanwaith ei hun o ran yr hyn sydd wedi digwydd y tu allan i Gymru a hyd yn oed o fewn Cymru, o dan arweiniad cynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

 

I welcome the focus on the intermediate housing market. It seems to me that, when your Government research has identified that you need 14,200 new homes each year—of which 5,100 are affordable—and that you are already 9,500 behind that target, we need to explore every possible avenue to try to increase the number of homes in Wales at affordable rents, intermediate rents and full-market rents, as well as homes to buy. We also need to explore other ways of helping people to buy homes and get onto the housing ladder. Given that research, do you intend to set up further partnerships to try to meet that target? Are your targets embracing the research with regard to what needs to be delivered in Wales? Has your exploration of the bond model, which you acknowledged in answers to other Members, made any progress, given my understanding that a number of registered social landlords feel that they are in a position to move down that route? Is the Welsh Government working with those RSLs to get bond financing in place, so that we can start to build on the success of this partnership, to try to achieve the huge numbers of new homes and affordable homes that Wales needs?

 

Yr wyf yn croesawu’r ffocws ar y farchnad dai ganolradd. Mae’n ymddangos i mi, pan fod ymchwil eich Llywodraeth wedi nodi bod arnoch angen 14,200 o gartrefi newydd bob blwyddyn—a 5,100 ohonynt yn fforddiadwy—a’ch bod eisoes 9,500 yn brin o’r targed hwnnw, mae angen i ni archwilio pob dull posibl i geisio cynyddu nifer y cartrefi yng Nghymru ar renti fforddiadwy, rhenti canolradd a rhenti llawn y farchnad, yn ogystal â chartrefi i’w prynu. Mae angen inni hefyd edrych ar ffyrdd eraill o helpu pobl i brynu tai a chael troed ar yr ysgol dai. O gofio’r ymchwil hwnnw, a ydych yn bwriadu sefydlu partneriaethau pellach i geisio cyrraedd y targed hwnnw? A yw’ch targedau’n ystyried yr ymchwil o ran yr hyn sydd angen ei ddarparu yng Nghymru? A yw eich archwiliad o’r model bond, y bu ichi gydnabod mewn atebion i Aelodau eraill, wedi gweld unrhyw gynnydd, oherwydd rwyf ar ddeall bod nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn teimlo eu bod mewn sefyllfa i symud i lawr y llwybr hwnnw? A yw Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r LCC hynny i sicrhau cyllid o fondiau, fel y gallwn ddechrau adeiladu ar lwyddiant y bartneriaeth hon, i geisio cyrraedd y nifer enfawr o gartrefi newydd a thai fforddiadwy y mae eu hangen yng Nghymru?

 

Huw Lewis: I thank Peter for his support, in principle, for the Welsh housing partnership and the innovative thinking that lies behind it. However, I express my disappointment at his disappointment of the overall scale of the beginning of the partnership. As I said to Leanne, this is the beginning—the starting point. I am reminded of the old story about the great scientist Michael Faraday, who invented the electric motor, being quizzed by a cynic as to the use of the motor. Faraday’s response was ‘Well, what use is a baby?’ In other words, it is the beginning. That was the point that Faraday was making, which has already gone over the heads of all Members here today. [Laughter.] There are far too many scientifically illiterate people in the Chamber. Michael Faraday—a man of true genius and working-class boy made good—look him up.

 

Huw Lewis: Diolch i Peter am ei gefnogaeth, mewn egwyddor, ar gyfer partneriaeth tai Cymru a’r syniadau arloesol sydd y tu ôl iddo. Fodd bynnag, yr wyf yn mynegi fy siom am ei siom yntau ynglŷn â graddfa gyffredinol dechrau’r bartneriaeth. Fel y dywedais wrth Leanne, dyma’r dechrau—y man cychwyn. Caf fy atgoffa o’r hen stori am y gwyddonydd mawr Michael Faraday, a ddyfeisiodd y modur trydan, yn cael ei holi gan sinig ynghylch y defnydd o’r modur. Ymateb Faraday oedd, ‘Wel, sut mae babi’n ddefnyddiol?’ Mewn geiriau eraill, dyma’r man cychwyn. Dyna oedd y pwynt yr oedd Faraday yn ei wneud, sydd eisoes wedi mynd dros bennau pob Aelod yma heddiw. [Chwerthin.] Mae llawer gormod o bobl sy’n wyddonol anllythrennog yn y Siambr. Michael Faraday—athrylith go iawn a bachgen dosbarth gweithiol a lwyddodd—darllenwch amdano.

 

What is signalled by the Welsh housing partnership is really rather profound, because it takes housing policy in Wales onto a different level. Different levels of expectations will also be generated by the fact that the housing partnership is now under way. We will be expected from now on to generate, through partnership working and trust, innovative financial models, with the Welsh Government taking a lead, although we recognise that registered social landlords and local government are just as valid as players on the field in brokering new forms of finance—using loans instead of grants, innovative financial flows, and, if necessary, the idea of bonds and so on, and using new forms of tenure, such as co-operative housing, which is currently absent from the Welsh housing landscape. However, I am determined that co-operative housing will become a settled feature of the Welsh housing landscape by the end of this Assembly.

 

Mae partneriaeth tai Cymru yn arwydd o rywbeth sy’n wirioneddol braff, oherwydd mae’n cymryd polisi tai yng Nghymru i lefel wahanol. Bydd gwahanol lefelau o ddisgwyliadau hefyd yn cael eu cynhyrchu gan y ffaith bod y bartneriaeth tai yn awr ar y gweill. Bydd disgwyl o hyn ymlaen ein bod yn cynhyrchu, drwy weithio mewn partneriaeth ac ymddiriedaeth, modelau ariannol arloesol, dan arweiniaeth Llywodraeth Cymru, er ein bod yn cydnabod bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a llywodraeth leol yr un mor gymwys i frocera mathau newydd o gyllid—defnyddio benthyciadau yn hytrach na grantiau, ffrydiau ariannol arloesol, ac, os oes angen, y syniad o fondiau ac yn y blaen, a defnyddio mathau newydd o ddeiliadaeth, megis tai cydweithredol, sydd ar hyn o bryd yn absennol o dirlun tai Cymru. Fodd bynnag, yr wyf yn benderfynol y bydd tai cydweithredol yn dod yn nodwedd sefydlog o dirlun tai Cymru erbyn diwedd y Cynulliad hwn.

 

 3.00 p.m.

 

 

All of these things coming together mark a departure, hence the need for the statement today. It is a departure from the ways of working that we saw in the past. That is not to say that our investment in social housing will not remain at the centre of our concerns; it will continue, it is budgeted for and all partners are clear about the lie of the land over the next two, three or four years. However, if we are to get anywhere near those researched needs that Peter Black referred to, we need to innovate and branch out.

 

Mae’r ffaith bod yr holl bethau hyn yn dod ynghyd yn dangos gwyriad, a dyna pam yr oedd angen datganiad heddiw. Mae’n gwyro oddi wrth y ffyrdd o weithio a welsom yn y gorffennol. Nid yw hynny’n golygu na fydd ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol yn parhau i fod wrth wraidd ein pryderon; bydd yn parhau, mae cyllidebu ar ei gyfer, ac mae’r holl bartneriaid yn glir ynghylch y darlun dros y ddwy, tair neu bedair blynedd nesaf. Fodd bynnag, os ydym am fynd i’r afael â’r anghenion a amlygwyd gan ymchwil y cyfeiriodd Peter Black atynt, mae angen i ni arloesi newid cyfeiriad.

 

Datganiad: Twf Swyddi Cymru
Statement: Jobs Growth Wales

 

The Minister for Education and Skills (Leighton Andrews): I am pleased to announce our detailed proposals for implementation of the Welsh jobs fund. The programme, which will be known as Jobs Growth Wales, demonstrates this Government’s commitment to addressing youth unemployment by getting young people into work quickly and supporting them to remain there. The programme will work alongside our targeted support for business through the Skills Growth Wales programme, growing jobs and skills for Wales. Jobs Growth Wales will create 4,000 jobs in its first year, targeting unemployed young people aged 16 to 24 and providing them with work experience for a six-month period. Participants will be paid at or above the national minimum wage for a minimum of 25 hours per week.

 

Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau (Leighton Andrews): Mae’n bleser cyhoeddi ein cynigion manwl ar gyfer gweithredu cronfa swyddi Cymru. Mae’r rhaglen, a fydd yn cael ei adnabod fel Twf Swyddi Cymru, yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc drwy gael pobl ifanc i mewn i waith yn gyflym a’u cynorthwyo i aros yno. Bydd y rhaglen yn gweithio ochr yn ochr â’n cymorth sydd wedi’i dargedu i fusnesau drwy raglen Sgiliau Twf Cymru, sy’n tyfu swyddi a sgiliau i Gymru. Bydd Twf Swyddi Cymru yn creu 4,000 o swyddi yn ei flwyddyn gyntaf, gan dargedu pobl ifanc ddi-waith 16 i 24 oed a rhoi profiad gwaith iddynt am gyfnod o chwe mis. Bydd y cyfranogwyr yn derbyn cyflog ar lefel yr isafswm cyflog cenedlaethol neu fwy am o leiaf 25 awr yr wythnos.

 

The programme will cater for those who are job ready but have had difficulty securing employment. It will also provide a more supportive environment, for those who need it, to access and make the most of this opportunity to help them progress to sustainable employment. It will provide the work experience valued so highly by employers, which so many young people of differing skills and abilities find to be the most significant barrier to securing that first step into employment. It will offer job-ready participants an enhanced package of support from day one of unemployment, with the focus on supporting the individual to remain in, or progress into, sustained employment, where appropriate through an apprenticeship.

 

Bydd y rhaglen yn darparu ar gyfer y rhai sy’n barod am swydd ond sydd wedi ei chael hi’n anodd sicrhau cyflogaeth. Bydd hefyd yn darparu amgylchedd mwy cefnogol, i’r rhai sydd ei angen, i gael mynediad at a manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i’w helpu i symud ymlaen at gyflogaeth gynaliadwy. Bydd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr sydd mor bwysig i gyflogwyr, a dyma’r rhwystr fwyaf i nifer o bobl ifanc gyda sgiliau a lefelau gallu gwahanol wrth iddynt geisio cymryd eu camau cyntaf ym myd cyflogaeth. Bydd yn cynnig pecyn uwch o gefnogaeth o’r diwrnod cyntaf o ddiweithdra i gyfranogwyr sy’n barod am swyddi, gyda ffocws ar gefnogi’r unigolyn i aros, neu symud ymlaen at gyflogaeth gynaliadwy, lle bo’n briodol drwy brentisiaeth.

 

Jobs Growth Wales has been developed to integrate and link fully with the Welsh Government’s existing employability and skills programmes, for example, as a progression route from training through our Steps to Employment and traineeships programmes. Progression from Jobs Growth Wales through the young recruits programme will be an option where employers are willing to recruit additional apprentices. Opportunities will be made available for all job-ready young people, including disabled people and those from ethnic minorities. We will also seek to ensure that young people have the opportunity to enter employment using both the English and Welsh languages.

 

Mae Twf Swyddi Cymru wedi cael ei ddatblygu i integreiddio a chysylltu’n llawn â rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau cyfredol Llywodraeth Cymru, er enghraifft, fel llwybr dilyniant o hyfforddiant drwy ein rhaglenni Camau at Waith a swyddi dan hyfforddiant. Bydd symud ymlaen o Twf Swyddi Cymru drwy’r rhaglen recriwtiaid ifanc yn opsiwn lle mae cyflogwyr yn barod i recriwtio prentisiaid ychwanegol. Bydd cyfleoedd ar gael i bob person ifanc sy’n barod am swydd, gan gynnwys pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i gael gwaith gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.

 

We have built on the best practices of the Future Jobs fund, which was run by the Department for Work and Pensions and contracted with public and voluntary sector organisations. The Future Jobs fund created 9,710 opportunities in Wales over the life of the programme, attracting up to £60 million of funding. We were deeply disappointed when the UK Government announced the closure of the programme. The significant difference in this, our Welsh response, is that we will target far more job opportunities in the private sector, significantly improving the potential for individuals to progress into sustained employment with those employers that have identified opportunities for business growth.

 

Rydym wedi adeiladu ar arferion gorau cronfa Swyddi’r Dyfodol, a gafodd ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac a oedd yn contractio â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol. Creodd cronfa Swyddi’r Dyfodol 9,710 o gyfleoedd yng Nghymru dros oes y rhaglen, gan ddenu hyd at £60 miliwn o gyllid. Roeddem yn siomedig iawn pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n cau’r rhaglen. Y gwahaniaeth arwyddocaol yn hyn, ein hymateb yng Nghymru, yw y byddwn yn targedu llawer mwy o gyfleoedd gwaith yn y sector preifat, gan wella’n sylweddol y potensial i unigolion symud ymlaen at gyflogaeth gynaliadwy gyda’r cyflogwyr hynny sydd wedi nodi cyfleoedd ar gyfer twf busnes.

 

We will target growth businesses being supported through the Skills Growth Wales programme, which we will extend and re-open to new applications later this year. We will work closely with anchor and regionally important companies to identify their recruitment needs and match those employment opportunities with young people seeking work. We will incorporate a focus on employment opportunities in the energy sector, supporting green jobs, which will contribute to the Welsh Government’s drive to deliver our low-carbon strategy.

 

Byddwn yn targedu busnesau twf i’w cefnogi drwy raglen Sgiliau Twf Cymru, a byddwn yn ymestyn ac yn ailagor hwn i geisiadau newydd yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn cydweithio’n agos â chwmnïau angori a chwmnïau sy’n bwysig i ranbarth arbennig i nodi eu hanghenion recriwtio a chwrdd â’r cyfleoedd cyflogaeth hynny gyda phobl ifanc sy’n chwilio am waith. Byddwn yn cynnwys ffocws ar gyfleoedd cyflogaeth yn y sector ynni, gan gefnogi swyddi gwyrdd, a fydd yn cyfrannu at ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflawni ein strategaeth garbon isel.

 

The third sector will continue to play a key role in assisting those young people requiring a more supported environment as they enter the labour market for the first time. We will deliver specific strands of support to help graduates find work opportunities, to support young people to enter self-employment and to assist microbusinesses to recruit their first employee. In doing so, we will build on, and enhance, existing and planned packages of business support delivered through the Department for Business, Enterprise, Technology and Science.

 

Bydd y trydydd sector yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gynorthwyo’r bobl ifanc hynny sydd angen awyrgylch mwy cefnogol wrth iddynt fynd i mewn i’r farchnad lafur am y tro cyntaf. Byddwn yn cyflwyno elfennau penodol o gymorth i helpu graddedigion i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith, i gefnogi pobl ifanc i fynd i mewn i hunangyflogaeth ac i gynorthwyo microfusnesau i recriwtio eu gweithwyr cyntaf. Wrth wneud hynny, byddwn yn adeiladu ar, a gwella pecynnau cymorth busnes presennol ac arfaethedig a ddarperir drwy’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

The programme will align fully with support available for individuals through the Department for Work and Pensions and Jobcentre Plus. We will contract with existing work-based learning providers to identify job opportunities in the private sector and to support young people to maximise the opportunities for progression to apprenticeships or alternative sustained employment. We will expand on the existing Wales Council for Voluntary Action’s intermediate labour market pilot scheme, which is already proving successful in helping many young people who require more intensive support to reap the benefits from work experience opportunities. In recognition of the potential to further expand this support, we will commence a procurement exercise for additional contracts across the third sector, which we will implement from September 2012.

 

Bydd y rhaglen yn cyd-fynd yn llwyr â’r cymorth sydd ar gael i unigolion drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith. Byddwn yn contractio gyda darparwyr dysgu yn seiliedig ar waith sydd eisoes yn bodoli i nodi cyfleoedd o ran swyddi yn y sector preifat ac i gefnogi pobl ifanc i wneud y gorau o’r cyfleoedd i symud ymlaen i brentisiaethau neu gyflogaeth gynaliadwy amgen. Byddwn yn ehangu ar gynllun peilot presennol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar gyfer y farchnad lafur drosiannol, sydd eisoes yn llwyddiannus wrth helpu llawer o bobl ifanc sydd angen cymorth mwy dwys i elwa ar gyfleoedd profiad gwaith. Er mwyn cydnabod y potensial i ehangu ymhellach y cymorth hwn, byddwn yn dechrau ymarfer caffael ar gyfer contractau ychwanegol ar draws y trydydd sector, a byddwn yn gweithredu hwn o fis Medi 2012.

 

To address the specific needs of graduates, we will add value to the existing Go Wales programme, extending work experience opportunities for unemployed graduates, many of whom identify a lack of credible work experience as their most significant barrier to employment. Jobs Growth Wales will commence fully in April 2012. We will deliver a small pilot scheme this autumn to test the approach in the private sector and to inform fully the wider programme implementation from next year.

 

I fynd i’r afael ag anghenion penodol graddedigion, byddwn yn ychwanegu gwerth at raglen bresennol Go Wales, ehangu cyfleoedd profiad gwaith i raddedigion di-waith, y mae llawer ohonynt yn nodi diffyg profiad gwaith credadwy fel y rhwystr mwyaf sylweddol i gyflogaeth. Bydd Twf Swyddi Cymru yn cychwyn yn llawn ym mis Ebrill 2012. Byddwn yn cyflwyno cynllun peilot bach yr hydref hwn er mwyn profi’r dull yn y sector preifat ac i fwydo i mewn i weithredu’r rhaglen ehangach o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

 

Nick Ramsay: I welcome the Minister’s statement on the jobs fund. We welcome any efforts to address youth unemployment. We all want to see young people getting into work quickly. You also mentioned sustainability in the jobs market, which we would all support. I have a few questions for the Minister. First, you say that the scheme will create 4,000 sustainable jobs in its first year of delivery. However, sometimes, delivery has not been the strong point of the Government. We have the new delivery unit now. Are you absolutely sure that 4,000 sustainable jobs will be created? The Minister mentioned the abolition of a similar jobs growth fund in England, and I am sure that he is aware that there were issues there to do with the number of young people not in education, employment or training, which was rising, and to do with whether the growth fund, after its years of operation, delivered the sort of success that we wanted to see.

 

Nick Ramsay: Yr wyf yn croesawu datganiad y Gweinidog ar y gronfa swyddi. Rydym yn croesawu unrhyw ymdrechion i fynd i’r afael â diweithdra ieuenctid. Yr ydym i gyd am weld pobl ifanc yn mynd i mewn i waith yn gyflym. Soniasoch hefyd am gynaliadwyedd yn y farchnad swyddi, a byddwn ni oll yn cefnogi hynny. Mae gennyf ychydig gwestiynau i’r Gweinidog. Yn gyntaf, yr ydych yn dweud y bydd y cynllun yn creu 4,000 o swyddi cynaliadwy yn ei flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, weithiau, nid cyflenwi yw cryfder y Llywodraeth. Mae gennym yr uned cyflenwi newydd yn awr. A ydych chi’n hollol sicr y bydd 4,000 o swyddi cynaliadwy yn cael eu creu? Soniodd y Gweinidog am ddiddymiad cronfa dwf swyddi tebyg yn Lloegr, ac yr wyf yn sicr ei fod yn ymwybodol bod yna broblemau yno yn ymwneud â nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a oedd yn codi, ac yn ymwneud â pha un a oedd y gronfa twf, ar ôl gweithredu am flynyddoedd, wedi darparu’r math o lwyddiant yr ydym am ei weld.

 

I welcome your focus on work experience. It is certainly a very important aspect of the jobs market now. Minister, anything you are doing to try to improve young people’s work experience is a good thing. On the subject of targets, what will your targets be and when will you assess them? Are we looking at two months, six months, a year or longer? Clearly, an assessment of the operation of this fund is important. You mentioned two pilot schemes. How have these been chosen? I understand what you say about the WCVA’s intermediate labour market programme, but you also mentioned a small pilot scheme in the autumn at the end of your statement. How are you going to decide on the allocation of that scheme and how are you going to judge success? You have spoken about success with the private sector. How are you interacting with the private sector so that you know exactly what the needs of the private sector are to ensure that the pilot scheme and the scheme in general are working?

 

Croesawaf eich pwyslais ar brofiad gwaith. Mae’n sicr yn agwedd bwysig iawn ar y farchnad waith yn awr. Weinidog, mae unrhyw beth yr ydych yn ei wneud i geisio gwella profiad gwaith pobl ifanc yn beth da. Ar bwnc targedau, beth fydd eich targedau a phryd y byddwch yn eu hasesu? A ydym yn edrych ar ddeufis, chwe mis, blwyddyn neu fwy? Mae’n amlwg bod asesiad o weithrediad y gronfa hon yn bwysig. Soniasoch am ddau gynllun peilot. Sut y dewiswyd y rhain? Yr wyf yn deall yr hyn a ddywedwch am raglen marchnad lafur drosiannol y CGGC, ond soniasoch hefyd am gynllun peilot bach yn yr hydref ar ddiwedd eich datganiad. Sut ydych yn mynd i benderfynu ar ddyraniad y cynllun a sut y byddwch yn asesu llwyddiant? Yr ydych wedi siarad am lwyddiant gyda’r sector preifat. Sut ydych yn rhyngweithio â’r sector preifat fel eich bod yn gwybod yn union beth yw anghenion y sector preifat er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot a’r cynllun yn gyffredinol yn gweithio?

 

You mentioned the third sector. Again, we all agree that it needs to be fully involved. It seems as though you have put a fair amount of thought into the way in which the private and third sectors will be involved in this growth fund. However, I come back to this question again: other than words, what are you doing in practice to ensure that the third sector is fully represented? Finally, you mentioned a procurement exercise for contracts across the third sector. I come back to the question of how you intend to judge this. What targets will you use and how will you ensure that this procurement exercise will deliver the sort of benefits that we hope that this jobs growth fund would deliver?

 

Soniasoch am y trydydd sector. Unwaith eto, yr ydym i gyd yn cytuno bod angen iddo chwarae rhan lawn. Ymddengys eich bod wedi rhoi cryn dipyn o feddwl i mewn i’r ffordd y bydd y sector preifat a’r trydydd sector yn cymryd rhan yn y gronfa twf hon. Fodd bynnag, dof yn ôl at y cwestiwn hwn eto: ar wahân i eiriau, beth ydych chi’n ei wneud yn ymarferol i sicrhau bod y trydydd sector yn cael ei gynrychioli’n llawn? Yn olaf, soniasoch am ymarfer caffael ar gyfer contractau ar draws y trydydd sector. Rwy’n dod yn ôl at y cwestiwn o sut yr ydych yn bwriadu asesu hyn. Pa dargedau y byddwch yn eu defnyddio a sut y byddwch yn sicrhau y bydd yr ymarfer caffael hwn yn darparu’r math o fudd-daliadau yr ydym yn gobeithio y bydd y gronfa dwf swyddi hon yn eu cyflawni?

 

Leighton Andrews: I am grateful to the opposition spokesperson for his welcome to our scheme. As I said in the statement, in the first full year of delivery, the scheme will deliver 4,000 jobs. The first full year of delivery will commence next April. As the Welsh Government, we have a proud record over recent years in the schemes that we have created to help people in employment, such as the ProAct scheme, which has subsequently grown into Skills Growth Wales. As I said in my statement, we regret the decision of the UK Government to close down the Future Jobs fund as one of its first decisions. However, we have learned from the experience of that programme in shaping our Jobs Growth Wales programme. Work experience is certainly important. With regard to the pilot scheme, I expect a number of schemes to be supported in different parts of Wales. We will be targeting small and medium-sized enterprises in the private sector, and we will also target large and regionally important companies at the same time. There will be opportunities for self-employment as well.

 

Leighton Andrews: Rwyf yn ddiolchgar i lefarydd yr wrthblaid am ei groeso i’n cynllun. Fel y dywedais yn y datganiad, yn y flwyddyn lawn gyntaf o gyflwyno, bydd y cynllun yn cyflwyno 4,000 o swyddi. Bydd y flwyddyn lawn gyntaf o gyflwyno yn dechrau fis Ebrill nesaf. Fel Llywodraeth Cymru, mae gennym record balch dros y blynyddoedd diwethaf o ran y cynlluniau yr ydym wedi’u creu i helpu pobl mewn gwaith, megis y cynllun ProAct, a dyfodd i mewn i gynllun Sgiliau Twf Cymru. Fel y dywedais yn fy natganiad, yr ydym yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i gau cronfa Swyddi’r Dyfodol fel un o’i benderfyniadau cyntaf. Fodd bynnag, rydym wedi dysgu o brofiad y rhaglen honno wrth lunio ein rhaglen Twf Swyddi Cymru. Mae profiad gwaith yn sicr yn bwysig. O ran y cynllun peilot, yr wyf yn disgwyl i nifer o gynlluniau gael eu cefnogi mewn gwahanol rannau o Gymru. Byddwn yn targedu busnesau bach a chanolig yn y sector preifat, a byddwn hefyd yn targedu cwmnïau mawr a chwmnïau sy’n bwysig i ranbarth arbennig ar yr un pryd. Bydd cyfleoedd ar gyfer hunangyflogaeth hefyd.

 

The work that we will put in place with regard to delivering the procurement for some of the support required will establish clear targets to be undertaken by those who win the tenders. We will make those clear at the appropriate time.

 

Bydd y gwaith y byddwn yn ei wneud mewn perthynas â chyflwyno’r caffael ar gyfer rhywfaint o’r cymorth y mae ei angen yn sefydlu targedau clir ar gyfer y rhai sy’n ennill y tendrau. Byddwn yn gwneud y rheiny’n glir ar yr adeg briodol.

 

In respect of the third sector, I have already met the WCVA to discuss in broad terms the approach that we are taking. We have given support to its intermediate labour market programme in the past, and we are looking to extend that. I have outlined other opportunities during the course of the statement as to how the third sector can participate.

 

O ran y trydydd sector, yr wyf eisoes wedi cwrdd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i drafod yn fras y ffordd y byddwn yn gweithredu. Rydym wedi cefnogi ei raglen marchnad lafur drosiannol yn y gorffennol, ac yr ydym yn ystyried ymestyn hynny. Rwyf wedi amlinellu cyfleoedd eraill yn ystod y datganiad ynghylch sut y gall y trydydd sector gymryd rhan.

 

Mick Antoniw: I welcome this statement, as well as the jobs growth fund and the £75 million investment in creating job opportunities for young people. My constituency of Pontypridd is particularly blighted by the scourge of youth unemployment, as you well know. With around 40 per cent of young people looking for work that is just not available to them, the cuts in public spending and the abolition of the Future Jobs fund by the UK Government, which you have referred to, have left a very real and tragic hole in our communities. The jobs growth fund creates some reasons for optimism, and we look forward to the progress of this programme.

 

Mick Antoniw: Croesawaf y datganiad hwn, yn ogystal â’r gronfa twf swyddi a’r buddsoddiad o £75 miliwn o ran creu cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc. Mae fy etholaeth, Pontypridd, yn cael ei difetha yn arbennig gan y pla o ddiweithdra ymhlith pobl ifanc, fel y gwyddoch yn dda. Gyda thua 40 y cant o bobl ifanc yn chwilio am waith nad yw ar gael iddynt, mae’r toriadau mewn gwariant cyhoeddus a diddymu cronfa Swyddi’r Dyfodol gan Lywodraeth y DU, yr ydych wedi cyfeirio atynt, wedi gadael bwlch real a thrasig iawn yn ein cymunedau. Mae’r gronfa twf swyddi yn creu rhai rhesymau dros fod yn obeithiol, ac edrychwn ymlaen at gynnydd y rhaglen hon.

 

The unemployment position, which is affecting young people in particular, has been exacerbated, and will be exacerbated further, by the welfare reforms. The centre for regional economic and social research at Sheffield Hallam University recently reported that some 45,000 existing claimants look set to be denied employment and support allowance, 30,000 of which are likely to be pushed out of the benefits system altogether. Therefore, this fund and this project are even more valuable, but we should not underestimate the impact of the challenges that face us. Apart from the impact of unemployment in my constituency and others, there will also be a growth in poverty in these communities, which will also have an impact.

 

Mae’r sefyllfa diweithdra, sydd yn effeithio ar bobl ifanc yn arbennig, wedi gwaethygu, a bydd yn gwaethygu ymhellach, o ganlyniad i’r diwygiadau lles. Adroddodd y ganolfan ar gyfer ymchwil economaidd a chymdeithasol rhanbarthol ym Mhrifysgol Sheffield Hallam yn ddiweddar ei bod yn ymddangos y bydd rhyw 45,000 o hawlwyr presennol yn colli’r lwfans cyflogaeth a chymorth, a 30,000 ohonynt yn debygol o gael eu gwthio allan o’r system fudd-daliadau yn gyfan gwbl. Felly, mae’r gronfa hon a’r prosiect hwn hyd yn oed yn fwy gwerthfawr, ond ni ddylem danbrisio effaith yr heriau sy’n ein hwynebu. Ar wahân i effaith diweithdra yn fy etholaeth i ac eraill, bydd hefyd gynnydd mewn tlodi yn y cymunedau hyn, a fydd hefyd yn cael effaith.

 

One thing that has concerned me for a long time with regard to how we develop apprenticeships and training is their integration with our economic development programme. We need to look carefully, for example, at the role that Cardiff Airport is playing. For too long, that airport has been seen as a second-rate holiday airport. With regard to our major anchor companies, which you referred to, I met workers at GE Aviation in Nantgarw recently. It perhaps demonstrates the dysfunctionality that sometimes exists, that they told me that they have to transport all their aircraft engines by road from London. If there was a flight from the United States to Cardiff Airport, they could be flying in 20 tonnes of freight a day. It seems to me that there are clear opportunities there. I am pleased by the connection between what you are saying and what the Minister for business has said about engagement with the anchor industries, and links and identification with them as to what their particular needs are and how that ties in with our needs. Another optimistic project that may present us with opportunities is the development of the idea of a south Wales metro, and the opportunities that arise there with regard to the transport side. I am keen on the fitting in of this project, whether in the public or private sector, with training opportunities, and the connection of that with the economic development plans of the Government.

 

Un peth sydd wedi fy mhryderu am gyfnod hir o ran sut yr ydym yn datblygu prentisiaethau a hyfforddiant yw eu hintegreiddio â’n rhaglen datblygu economaidd. Mae angen inni edrych yn ofalus, er enghraifft, ar y rôl y mae Maes Awyr Caerdydd yn ei chwarae. Mae’r maes awyr wedi cael ei weld fel maes awyr gwyliau eilradd am gyfnod llawer yn rhy hir. O ran ein prif gwmnïau angori, y cyfeiriasoch atynt, cyfarfûm â gweithwyr yn GE Aviation yn Nantgarw yn ddiweddar. Efallai ei fod yn dangos y camweithredu sy’n digwydd weithiau, ond dywedasant wrthyf fod yn rhaid iddynt gludo eu holl beiriannau awyrennau ar y ffordd fawr o Lundain. Petai ehediad o’r Unol Daleithiau i Faes Awyr Caerdydd, gallent hedfan 20 tunnell o nwyddau i mewn bob dydd. Mae’n ymddangos i mi bod cyfleoedd clir yno. Yr wyf yn falch gweld y cysylltiad rhwng yr hyn yr ydych yn ei ddweud a’r hyn y mae’r Gweinidog busnes wedi’i ddweud am ymgysylltu â’r diwydiannau angor, a chysylltu â hwy a gweld beth yw eu hanghenion penodol a sut y mae hynny’n cyd-fynd â’n hanghenion. Prosiect optimistaidd arall a allai darparu cyfleoedd pellach yw datblygiad o’r syniad o fetro ar gyfer de Cymru, a’r cyfleoedd sy’n codi yno o ran yr ochr cludiant. Yr wyf yn awyddus i’r prosiect hwn gael ei gynnwys, boed yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat, gyda chyfleoedd hyfforddi, a chysylltu hwnnw â chynlluniau datblygu economaidd y Llywodraeth.

 

Leighton Andrews: I am grateful to the Member for Pontypridd for his support for what we have outlined today. He is right to draw attention to the problems caused by the closure of the Future Jobs fund, and the problems facing his constituents and many of our constituents as a result of the welfare reforms and the cuts in public expenditure imposed by the UK Government, not least in our capital programmes, which will have a serious impact on the construction industry in Wales.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Aelod dros Bontypridd am ei gefnogaeth ar gyfer yr hyn yr ydym wedi’i amlinellu heddiw. Mae’n iawn i dynnu sylw at y problemau a achoswyd gan gau gronfa Swyddi’r Dyfodol, a’r problemau sy’n wynebu ei etholwyr ef a llawer o’n hetholwyr ni yn sgil y diwygiadau lles a’r toriadau i wariant cyhoeddus a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, yn arbennig yn ein rhaglenni cyfalaf, a fydd yn cael effaith ddifrifol ar y diwydiant adeiladu yng Nghymru.

 

I welcome his recognition of the work that is going on between my department and the department of the Minister for Business, Enterprise, Technology and Science in respect of ensuring a combined package of support for anchor companies. Our officials are working together in ensuring a common response to the needs of anchor companies and regionally important companies. He has drawn attention to what he sees as opportunities for further growth in Cardiff Airport, and I am sure that the Minister for transport will have heard the words of the Member for Pontypridd in that regard.

 

Yr wyf yn croesawu ei gydnabyddiaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud rhwng fy adran i ac adran y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth mewn perthynas â sicrhau pecyn cyfunol o gefnogaeth i gwmnïau angori. Mae ein swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau ymateb cyffredin i anghenion cwmnïau angori a chwmnïau sy’n bwysig yn rhanbarthol. Mae wedi tynnu sylw at yr hyn y mae’n ei weld fel cyfleoedd ar gyfer twf pellach o ran Maes Awyr Caerdydd, ac rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog trafnidiaeth wedi clywed geiriau’r Aelod dros Bontypridd yn hynny o beth.

 

3.15 p.m.

 

 

Through our programmes here, we have sought to address some of the consequences of the downturn since 2008. For example, our Pathways to Apprenticeships programme has been welcomed by employers, as it has been developed at a time when there have been fewer apprenticeship opportunities in the private sector, and a number of employers have been able to take advantage of our Pathways to Apprenticeships programme and to work alongside us to create opportunities for young people.

 

Drwy ein rhaglenni yma, rydym wedi ceisio mynd i’r afael â rhai o ganlyniadau’r dirywiad ers 2008. Er enghraifft, mae ein rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau wedi cael ei groesawu gan gyflogwyr, gan ei fod wedi cael ei ddatblygu ar adeg pan fu llai o gyfleoedd prentisiaeth yn y sector preifat, ac mae nifer o gyflogwyr wedi gallu manteisio ar ein rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau ac i weithio ochr yn ochr â ni i greu cyfleoedd i bobl ifanc.

 

Simon Thomas: Cytunaf â’r Gweinidog; mae Plaid Cymru yn rhannu ei siom bod cronfa Swyddi’r Dyfodol wedi dod i ben gan na chafodd gyfle i weithio. Yr ydym yn awr yn gweld y cynnydd mwyaf ers 20 mlynedd, o bosibl, yn nifer y bobl ifanc ddi-waith, felly mae gwir angen cynllun o’r fath yng Nghymru, ac ym Mhrydain. Nid oes amheuaeth: tra bo gennym un system nawdd ac un polisi macroeconomaidd, i bob pwrpas, byddai’n well i gronfa fel hon fod ar gael ar lefel Prydain-gyfan. Fodd bynnag, gan fod y Llywodraeth yn San Steffan wedi ei diddymu, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy. Felly, yr wyf yn croesawu’r datganiad heddiw.

 

Simon Thomas: I agree with the Minister; Plaid Cymru shares his disappointment that the Future Jobs fund has been wound up because it did not have a chance to make a difference. We are now seeing the greatest increase in youth unemployment for 20 years possibly, so there is a real need for such a scheme in Wales and throughout Britain. There is no doubt that while we have one benefits system and one macroeconomic policy to all extents and purposes, it would be better if such a fund were run at a UK level. However, as it has been withdrawn by the Westminster Government, the Welsh Government has had to step into the breach. Therefore, I welcome today’s statement.

 

Yr wyf yn meddwl tybed a fydd 4,000 o swyddi y flwyddyn yn ddigon i ateb y galw. Yn ystod yr ymgyrch ar gyfer etholiadau mis Mai, galwodd Blaid Cymru am greu 30,000 o brentisiaethau dros pum mlynedd. Nid wyf yn siŵr y bydd 4,000 yn ddigon, ond mae’n gychwyn. Fel y dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, mae hi’n fabi, ac yr wyf yn croesawu hynny.

 

I wonder whether 4,000 jobs a year will be enough to meet the need. During the campaign for the May elections, Plaid Cymru called for the creation of 30,000 apprenticeships over five years. I am not sure that 4,000 is an adequate number, but it is a start. It is a baby, as the Minister for Housing, Regeneration and Heritage said, and I welcome that.

 

Mae’n hynod bwysig bod cynllun o’r fath yn dangos ei fod yn creu swyddi tymor hir. Wedi’r cyfan, yr enw a roddir ar y cynllun gan y Llywodraeth yw Twf Swyddi Cymru. Mae’n bwysig felly ei fod yn dangos bod twf. Byddwn yn craffu ar lwyddiant y cynllun i sicrhau bod swyddi tymor hir yn cael eu creu, yn enwedig o ystyried bod toriadau go iawn yn y Gyfarwyddiaeth Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

It is very important that such a scheme demonstrates that it is creating long-term employment opportunities. After all, the Government has decided to call the scheme Jobs Growth Wales. It is therefore important that it shows signs of growth. We will scrutinise the success of the scheme to ensure that long-term employment is created, particularly in the context of the very real cuts in the Business, Enterprise, Technology and Science Directorate.

 

O ran y ffordd y bydd y cynllun yn cael ei redeg, yr ydym yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn yn y ddadl a gynhaliwyd bythefnos yn ôl fod yn rhaid i’r cynllun hwn gydlynu â’r cynllun adfywio’r economi. Yr wyf yn croesawu’r hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw ynglŷn â’r sector gwyrdd yn arbennig, a’r posibilrwydd o greu swyddi a lleoedd hyfforddi yn y sector hwn a’r cysylltiad a fydd â’r sector preifat. Mae’n hynod bwysig ein bod yn dysgu gwersi o gronfa Swyddi’r Dyfodol ac mae angen cydlynu hyn â’r sectorau sy’n gallu tyfu yng Nghymru—nid, efallai, oherwydd bod yr economi yn ffynnu, gan fod hynny yn annhebygol yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf, ond oherwydd bod buddsoddiad sylweddol, megis drwy’r Fargen Werdd, yn rhannau o’r economi a gallwn wedyn weld y buddsoddiad hwnnw yn creu cyfleoedd i alluogi pobl ifanc i ddod o hyd i swyddi a chael cyfleoedd i hyfforddi.

 

In terms of how this scheme will be run, we welcome the fact that the Government accepted in the debate that was held about a fortnight ago that this programme must cohere with the economic renewal programme. I welcome what the Minister said today about the green sector in particular, and the possibility of creating jobs and training places in that sector and the possible connection with the private sector. It is extremely important that we learn lessons from the Future Jobs fund and that we co-ordinate this scheme with the sectors that can grow in Wales, not as a result of a prospering economy, which is unlikely to be the case in the next two or three years, but because there is significant investment in parts of the economy, through the Green Deal, for example, and we could see that investment creating opportunities to enable young people to find jobs and training opportunities.

 

Hoffwn ofyn tri chwestiwn penodol i’r Gweinidog. Yr wyf yn cymryd bod y rhaglen hon yn cael ei hariannu drwy arian cyfatebol oddi wrth gronfa gymdeithasol Ewrop, ond hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y daeth o hyd i’r adnoddau yng nghyllideb ei adran ef. Yr ydym wedi gweld y gyllideb ddrafft, ac yr ydym wedi gweld bod gostyngiad sylweddol yng nghyllideb ei adran o ran cymorth ym maes gyrfaoedd. Mae toriad o £8 miliwn dros gyfnod yn y cymorth a ddarperir i bobl ifanc i’w helpu i ddewis gyrfaoedd, ond mae cynnydd yn hyn o beth. A yw’r Gweinidog wedi torri cymorth o ran gyrfaoedd er mwyn talu am y cynllun hwn?

 

I would like to ask three specific questions of the Minister. I take it that this programme is to be funded through ESF match funding, but I would like to hear from the Minister where he has found the resources within his own departmental budget. We have seen the draft budget, and we have seen a significant reduction in his department’s budget in terms of the careers service. There is a cut of £8 million over time in the assistance for young people in choosing careers, but we are seeing an increase here. Is the Minister cutting the assistance for careers to pay for this scheme?

 

Yn ail, soniodd y Gweinidog yn ei ddatganiad am yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith. Mae cydlyniant rhwng y sefydliadau hynny a Llywodraeth Cymru yn hollbwysig. Gan fod Llywodraeth San Steffan wedi troi ei chefn ar y fath ymyrraeth yn y farchnad swyddi, a yw’n hyderus y ceir cydweithredu parod rhwng y ddwy adran hyn drwy gyfnod y rhaglen? Mae’n bosibl y bydd eu blaenoriaethau yn newid ac, o ganlyniad, ni fyddant yn llwyr ymroddedig i gynlluniau Llywodraeth Cymru. Yr wyf yn gobeithio na fydd hyn yn wir, ond hoffwn wybod bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r perygl hwnnw.

 

Secondly, in his statement, the Minister mentioned the Department for Work and Pensions and Jobcentre Plus. There is co-ordination between those bodies and the Welsh Government is crucial. As the Westminster Government has turned its back on intervention in the jobs market, is he confident that he will see ready collaboration between the two departments for the duration of the programme? It is possible that their priorities will change and, consequently, they will not be fully committed to the Welsh Government’s scheme. I hope that that is not the case, but I would like to know that the Minister is aware of that risk.

 

Yn olaf, pa gyfleoedd ehangach o fewn y Llywodraeth y bydd y Gweinidog yn eu defnyddio—yn enwedig ym maes cytundebau cymdeithasol—i sicrhau bod cydlyniant rhwng yr arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar dai cymdeithasol a’r posibilrwydd o greu lleoedd hyfforddi a swyddi er mwyn sicrhau ein bod yn creu’r cylch buddiol o fuddsoddi ac elwa a buddsoddi, nid yn unig yn is-adeiledd y genedl, ond yn ein pobl ifanc a’u sgiliau.

 

Finally, what wider opportunities within the Government will the Minister use—especially with regard to social contracts—to ensure that there is co-ordination between public money that is spent on social housing and the possibility of creating training places and jobs to ensure that we create a virtuous circle of investment leading to benefits leading to investment, not only in the nation’s infrastructure, but in our young people and their skills.

 

Leighton Andrews: I thank the Member for Mid and West Wales for his support for the announcement that the Government has made today. I want to start by stressing that the 4,000 jobs that this programme will create will run alongside the training, job and apprenticeship opportunities that we provide through other programmes, such as Skills Growth Wales. I mentioned in the statement that we will extend and re-open that programme for further applications later this year. We also have the Pathways to Apprenticeships programme, which I mentioned, and the Young Recruits programme. Therefore, there are a number of schemes already in existence.

 

Leighton Andrews: Diolch i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ei gefnogaeth ar gyfer y cyhoeddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud heddiw. Yr wyf am ddechrau drwy bwysleisio bod y 4,000 o swyddi y bydd y rhaglen hon yn eu creu yn rhedeg ochr yn ochr â’r cyfleoedd hyfforddi, gwaith a phrentisiaeth a ddarparwn drwy raglenni eraill, fel Sgiliau Twf Cymru. Soniais yn y datganiad y byddwn yn ehangu ac yn ailagor y rhaglen honno ar gyfer ceisiadau pellach yn ddiweddarach eleni. Mae gennym hefyd y rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau, yr wyf wedi ei chrybwyll yn barod, a’r rhaglen Recriwtiaid Ifanc. Felly, mae nifer o gynlluniau eisoes yn bodoli.

 

The Member is right in saying that we have said that we want this to run alongside the economic renewal programme, and that we will have a focus on private sector jobs. I welcome his support for the work that we are doing on jobs in the green sector. He will be aware of the Arbed scheme, which is supported by the Minister for Environment and Sustainable Development and the Minister for Housing, Regeneration and Heritage. That scheme is being run very successfully in some of the strategic regeneration areas. We would certainly hope that there would be support for this programme from European funds. However, there has also been money found from across the Government, in line with our manifesto priorities and as was outlined in the draft budget by the Leader of the House.

 

Mae’r Aelod yn iawn i ddweud ein bod wedi dweud ein bod yn dymuno i hyn redeg ochr yn ochr â rhaglen adnewyddu’r economi, ac y bydd gennym ffocws ar swyddi yn y sector preifat. Yr wyf yn croesawu ei gefnogaeth am y gwaith yr ydym yn ei wneud ar swyddi yn y sector gwyrdd. Bydd yn ymwybodol o gynllun Arbed, a gefnogir gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth. Mae’r cynllun hwnnw yn cael ei redeg yn llwyddiannus iawn mewn rhai o’r ardaloedd adfywio strategol. Byddem yn sicr yn gobeithio y byddai cefnogaeth ar gyfer y rhaglen hon o gronfeydd Ewropeaidd. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i arian o bob rhan o’r Llywodraeth, yn unol â’n blaenoriaethau maniffesto ac fel amlinellwyd yn y gyllideb ddrafft gan Arweinydd y Tŷ.

 

In respect of working with the Department for Work and Pensions and Jobcentre Plus, we have a joint employment delivery board that operates between my department and the Department of Work and Pensions, and that enables us to co-ordinate the programmes. In respect of what the Member said about Careers Wales, I would remind him that the changes to the budget for Careers Wales were outlined in last year’s budget. Therefore, the money that has been found for this programme has been found since the May election and on a cross-governmental basis. In respect of the points that he raised on social contracts and procurement, there has been a long-standing commitment from the Welsh Government to drive the number of job and training opportunities that are created through social clauses in public sector contracts. We have done that, for example, through the Welsh housing quality standards programme. We have done it through the Can Do Toolkit, working with third-sector organisations and extending opportunities for Communities First partnerships. We have also done it through major transport programmes, such as the Porth and Rhondda Fach relief road. As a result of that programme, I believe that 45 local people had job opportunities and were trained to NVQ 2 standard. We therefore have a significant and ongoing commitment to ensuring that there are social clauses in public procurement contracts, and we work with our partners to try to drive up the number of opportunities.

 

O ran gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Byd Gwaith, mae gennym fwrdd cyflenwi rhaglenni cyflogaeth ar y cyd sy’n gweithredu rhwng fy adran i a’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac mae hynny’n ein galluogi i gydlynu’r rhaglenni. O ran yr hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â Gyrfa Cymru, byddwn yn ei atgoffa bod y newidiadau i’r gyllideb ar gyfer Gyrfa Cymru wedi eu hamlinellu yn y gyllideb y llynedd. Felly, mae’r arian sydd wedi cael ei ganfod ar gyfer y rhaglen hon wedi cael ei ganfod ers etholiad mis Mai ac ar sail traws-lywodraethol. O ran y pwyntiau a godwyd ganddo ar gontractau cymdeithasol a chaffael, cafwyd ymrwymiad hir-sefydlog gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y cyfleoedd swyddi a hyfforddiant sy’n cael eu creu drwy gymalau cymdeithasol mewn contractau sector cyhoeddus. Yr ydym wedi gwneud hynny, er enghraifft, drwy raglen safonau ansawdd tai Cymru. Rydym wedi gwneud hyn drwy’r Pecyn Cymorth Gallu Gwneud, gan weithio gyda sefydliadau trydydd sector ac ehangu cyfleoedd ar gyfer partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Rydym hefyd wedi gwneud hyn drwy raglenni trafnidiaeth mawr, megis ffordd liniaru Porth a’r Rhondda Fach. O ganlyniad i’r rhaglen honno, credaf fod 45 o bobl leol wedi cael cyfleoedd gwaith ac wedi cael eu hyfforddi i safon NVQ 2. Felly, mae gennym ymrwymiad sylweddol a pharhaus i sicrhau bod cymalau cymdeithasol mewn contractau caffael cyhoeddus, ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i geisio codi nifer y cyfleoedd.

 

Julie James: Minister, I, too, welcome today’s announcement. I very much welcome the commitment to tackling youth unemployment, which, as Mick Antoniw has said, is a scourge in many of our constituencies. It is certainly a major social problem in areas such as mine. We all have real sympathy for those among our constituents who are young adults who are desperate for some kind of direction in life and who are unable to gain entry into the normal kinds of employment training that we are talking about. I would particularly like to commend to the Minister a scheme that has operated in my constituency, Swansea West, for some time now. It is a shared-apprenticeship model, and I know that Jobs Growth Wales will be able to support it. It is a scheme that allows a number of small and medium-sized enterprises to come together in a supportive programme, whereby apprenticeships are shared by a number of small companies that would not be able to sustain an apprentice by themselves but are able to sustain one fifth of an apprentice, so to speak. The scheme enables the SMEs to benefit from the skills of the young people, and the young people to benefit from an apprenticeship where there would otherwise be none.

 

Julie James: Weinidog, yr wyf innau’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw. Yr wyf yn croesawu’n fawr yr ymrwymiad i fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, sydd, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn bla mewn llawer o’n hetholaethau. Mae’n sicr yn broblem gymdeithasol fawr mewn ardaloedd fel fy un i. Rydym i gyd yn cydymdeimlo â’r rhai ymysg ein hetholwyr sy’n oedolion ifanc sy’n daer am ryw fath o gyfeiriad mewn bywyd ac nad ydynt yn gallu cael mynediad at y mathau arferol o hyfforddiant cyflogaeth yr ydym yn sôn amdano. Yn benodol, hoffwn gymeradwyo i’r Gweinidog gynllun sydd wedi gweithredu yn fy etholaeth i, Gorllewin Abertawe, ers peth amser bellach. Mae’n fodel rhannu prentisiaeth, a gwn y gall Twf Swyddi Cymru ei gefnogi. Mae’n gynllun sy’n caniatáu nifer o fentrau bach a chanolig i ddod ynghyd mewn rhaglen gefnogol, lle mae prentisiaethau yn cael eu rhannu gan nifer o gwmnïau bach na fyddai’n gallu cynnal prentis ar eu pen eu hunain ond sy’n gallu cynnal un rhan o bump o’r prentis, fel petai. Mae’r cynllun yn galluogi’r busnesau bach a chanolig i elwa ar sgiliau’r bobl ifanc, a’r bobl ifanc i fanteisio ar brentisiaeth lle na fyddai un yn bodoli fel arall.

 

I also commend the integrated nature of these schemes. The Minister has spoken well today about the integrated nature of Jobs Growth Wales, which I very much welcome. This is about bringing together tailored individual pathways for young people who would otherwise experience real difficulty in staying inside these programmes for lack of the sort of sustained support that they have. This is particularly relevant to children who come out of the care system, on which we have a debate this afternoon. These children require support to stay in apprenticeship programmes of this sort, given that they experience, as we know, unwelcome levels of unemployment.

 

Yr wyf hefyd yn cymeradwyo natur integredig y cynlluniau hyn. Mae’r Gweinidog wedi siarad yn dda heddiw am natur integredig Twf Swyddi Cymru, ac yr wyf yn ei groesawu’n fawr. Mae hyn yn ymwneud â dod â llwybrau unigol wedi’u teilwra ynghyd ar gyfer pobl ifanc a fyddai fel arall yn wynebu anawsterau go iawn o ran aros o fewn y rhaglenni hyn oherwydd y diffyg cefnogaeth barhaus sydd yn nodweddiadol ohonynt. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i blant sy’n dod allan o’r system gofal—ac mae gennym ddadl ar y pwnc hwnnw y prynhawn yma. Mae’r plant hyn angen cefnogaeth i gwblhau rhaglenni prentisiaeth o’r math hwn, o ystyried eu bod yn profi, fel y gwyddom, lefelau digroeso o ddiweithdra.

 

The last point that I wanted to make was that I really welcome the initiative to do with micro-businesses and self-employment skills for young people. This is a growing part of the economy in Wales. I would like to illustrate this with the case of one of my constituents, whom I will not name for confidentiality reasons, though you will all see the point that I am making. In my constituency, there is an area of real deprivation; Townhill. Less than three miles away, there is a ward that has one of the lowest deprivation indices in Wales. Three miles is not walkable when you have a set of tools about your person. The young man in question had acquired some skills as a gardener and as a jobbing builder and so on, but he could not afford the £600 necessary to buy himself an old van to get down to the areas where people have the money to pay for the sorts of skills that he could provide. His family did not have the resources for that either; there was no fund available to help him to get going. Therefore, that young man is struggling to continue with something that he could have made into a viable business. I therefore welcome the sort of enterprise that we are encouraging here. I would like the Minister to look further at that kind of innovative programme so that we encourage entrepreneurship in Wales.

 

Y pwynt olaf yr oeddwn am ei wneud oedd fy mod yn wir yn croesawu’r fenter yn ymwneud â microfusnesau a sgiliau hunangyflogaeth ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn rhan gynyddol o’r economi yng Nghymru. Hoffwn ddangos hyn gydag achos un o’m hetholwyr, ond nid wyf am eu henwi am resymau cyfrinachedd, er y bydd pob un ohonoch yn gweld y pwynt yr wyf yn ei wneud. Yn fy etholaeth i, mae yna ardal o amddifadedd gwirioneddol; Townhill. Lai na thair milltir i ffwrdd, mae ward sydd ag un o’r mynegeion amddifadedd isaf yng Nghymru. Nid yw tair milltir yn gerddadwy pan yr ydych yn cario set o offer. Roedd y dyn ifanc dan sylw wedi magu rhai sgiliau fel garddwr ac fel adeiladwr ac yn y blaen, ond nid oedd yn gallu fforddio’r £600 a oedd ei hangen i brynu hen fan i fynd i’r ardaloedd lle mae gan bobl yr arian i dalu am y mathau o sgiliau y gallai eu darparu. Nid oedd gan ei deulu yr adnoddau ar gyfer hynny ychwaith; nid oedd unrhyw gronfa ar gael i’w helpu i ddechrau arni. Felly, mae’r dyn ifanc hwnnw yn cael trafferth i barhau gyda rhywbeth y gallai fod wedi gwneud yn fusnes hyfyw. Felly, yr wyf yn croesawu’r math o fenter yr ydym yn ei hannog yma. Hoffwn i’r Gweinidog edrych ymhellach ar y math hwnnw o raglen arloesol fel ein bod yn annog entrepreneuriaeth yng Nghymru.

 

Leighton Andrews: I thank Member for Swansea West for her support for the programme that we have outlined today. She is right to draw attention to the success of the shared apprenticeship model. It has been a great boon for many small and micro businesses in Wales, in that they have been able to partner with others to deliver that form of apprenticeship. It is right that we are seeking to integrate these programmes. There are linkages between the different programmes that we operate within the department, and there is the opportunity, in some cases, for progression from one to another. We are well aware that, for some young people, there is a real need for tailored individual pathways into employment; we have found that with schemes that we, as a Government, have supported, such as JobMatch and the city strategy pathfinder programme that was introduced by the previous UK Government.

 

Leighton Andrews: Yr wyf yn diolch i’r Aelod dros Orllewin Abertawe am ei chefnogaeth ar gyfer y rhaglen yr ydym wedi’i hamlinellu heddiw. Mae hi’n iawn i dynnu sylw at lwyddiant y model o rannu prentisiaethau. Mae wedi bod yn hwb mawr i lawer o fusnesau bach a micro yng Nghymru, gan eu bod wedi gallu gweithio ar y cyd ag eraill i gyflawni’r math hwnnw o brentisiaeth. Mae’n iawn ein bod yn ceisio integreiddio’r rhaglenni hyn. Mae cysylltiadau rhwng y gwahanol raglenni yr ydym yn eu gweithredu o fewn yr adran, ac mae cyfle, mewn rhai achosion, i symud ymlaen o un i’r llall. Rydym yn ymwybodol iawn, i rai pobl ifanc, bod angen gwirioneddol am lwybrau i gyflogaeth unigol wedi’u teilwra; rydym wedi canfod hynny gyda’r cynlluniau yr ydym ni, fel Llywodraeth, wedi eu cefnogi, megis JobMatch a’r rhaglen braenaru strategaeth dinas a gyflwynwyd gan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.

 

In respect of young people seeking to develop their self-employment, we have the youth entrepreneurship strategy that was launched earlier this year in co-operation between my department and the former department for economy. That is driving forward opportunities and an understanding of entrepreneurship across schools and colleges in Wales, and it is starting to encourage many young people to see it as a viable opportunity for themselves.

 

Parthed pobl ifanc sy’n ceisio datblygu eu hunangyflogaeth, mae gennym y strategaeth entrepreneuriaeth ieuenctid a lansiwyd yn gynharach eleni mewn cydweithrediad rhwng fy adran i a’r adran economi blaenorol. Mae hynny yn gyrru cyfleoedd a dealltwriaeth o entrepreneuriaeth ar draws ysgolion a cholegau yng Nghymru, ac mae’n dechrau annog llawer o bobl ifanc i’w weld fel cyfle hyfyw ar gyfer eu hunain.

 

Eluned Parrott: I, too, thank the Minister for his statement today, and I broadly welcome the statement and the aims that it puts forward. We all want to give hope and long-term opportunities to young people. I am sure that we will disagree about the best ways in which to do that, but broadly speaking, I welcome a number of the things that the Minister has put forward today.

 

Eluned Parrott: Yr wyf innau yn diolch i’r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, ac, ar y cyfan, croesawaf y datganiad a’r amcanion y mae’n eu rhoi gerbron. Rydym i gyd yn awyddus i roi gobaith a chyfleoedd tymor hir i bobl ifanc. Yr wyf yn sicr y byddwn yn anghytuno ynghylch y ffyrdd gorau o wneud hynny, ond yn gyffredinol, yr wyf yn croesawu nifer o’r pethau y mae’r Gweinidog wedi eu cyflwyno heddiw.

 

Implementation is one of the difficulties that we face. The pilot scheme that you propose is eminently sensible. I hope that you will bring the results of that back to us, Minister, so that we can see what lessons have been learnt from the pilot programme to take the programme forward in future. I am also particularly pleased—you will not be surprised to hear—that you will be targeting the private sector with this particular programme. I hope that your own Members will be able to support you on this, given the vociferous opposition to this proposal when we debated it just two weeks ago. This is something that we are very keen on; we are pleased to see that you have included it in your statement today.

 

Un o’r anawsterau sy’n ein hwynebu yw gweithredu. Mae’r cynllun peilot yr ydych yn ei gynnig yn amlwg yn synhwyrol. Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn dod â’r canlyniadau hynny yn ôl atom ni, Weinidog, fel y gallwn weld pa wersi a ddysgwyd o’r rhaglen beilot i fynd â’r rhaglen yn ei blaen yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn falch iawn—ac ni fyddwch yn synnu at hyn—y byddwch yn targedu’r sector preifat gyda’r rhaglen benodol hon. Yr wyf yn gobeithio y bydd eich Aelodau eich hun yn gallu eich cefnogi chi ar hyn, o ystyried y gwrthwynebiad croch i’r cynnig hwn pan y buom yn ei drafod ddim ond pythefnos yn ôl. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i’w weld; rydym yn falch o weld eich bod wedi ei gynnwys yn eich datganiad heddiw.

 

You have also stated that you are building on the best practice of the Future Jobs fund; I am glad to hear that. I hope that you will be able to tell us which elements of the Future Jobs fund you felt were good practice, how you assessed which elements were successful, and which features you will be dropping as a consequence of your assessment.

 

Yr ydych hefyd wedi datgan eich bod yn adeiladu ar arfer gorau cronfa Swyddi’r Dyfodol; yr wyf yn falch o glywed hynny. Yr wyf yn gobeithio y byddwch yn gallu dweud wrthym pa elfennau o gronfa Swyddi’r Dyfodol y teimlwch sy’n cynrychioli arfer da, sut yr ydych yn asesu’r elfennau a oedd yn llwyddiannus, a pha nodweddion y byddwch yn eu hepgor o ganlyniad i’ch asesiad.

 

I have a few other specific questions. You mentioned in your statement that you hope to create 4,000 opportunities in the first year of delivery. How many years of delivery are you expecting for this programme, and how many opportunities are you hoping to create in total? Also, can you define ‘job ready’? In terms of the application process for young people wanting to go forward with this programme, they will want to know whether the entry requirements will be different to those for the Future Jobs fund.

 

Mae gennyf ychydig gwestiynau penodol eraill. Soniasoch yn eich datganiad eich bod yn gobeithio creu 4,000 o gyfleoedd yn y flwyddyn gyntaf o ddarparu. Faint o flynyddoedd o ddarpariaeth ydych chi’n eu disgwyl ar gyfer y rhaglen hon, a faint o gyfleoedd ydych chi’n gobeithio eu creu? Hefyd, a allwch ddiffinio ‘yn barod am swydd’? O ran y broses ymgeisio ar gyfer pobl ifanc sydd am fynd ymlaen â’r rhaglen hon, bydd arnynt eisiau gwybod a fydd y gofynion mynediad yn wahanol i’r rhai ar gyfer cronfa Swyddi’r Dyfodol.

 

Julie James commended the integrated nature of the schemes that you put forward today. I, too, think that that is very suitable to the complicated nature of the problems that we face.

 

Canmolodd Julie James natur integredig y cynlluniau yr ydych wedi eu cyflwyno heddiw. Yr wyf i, hefyd, yn meddwl bod hynny’n addas iawn o ystyried natur gymhleth y problemau a wynebwn.

3.30 p.m.

 

However, this is a complex series of interlinked schemes, and that complexity can sometimes make it difficult to effectively monitor success. Therefore, how do you intend to monitor this programme, not only as an individual scheme, but within the whole range of programmes that the Government is putting forward for job creation in Wales?

 

Fodd bynnag, mae hwn yn gyfres gymhleth o gynlluniau cydgysylltiol, ac weithiau gall y cymhlethdod hwnnw ei gwneud yn anodd i fonitro llwyddiant yn effeithiol. Felly, sut ydych chi’n bwriadu monitro’r rhaglen hon, nid yn unig fel cynllun unigol, ond o fewn yr ystod gyfan o raglenni y mae’r Llywodraeth yn eu cyflwyno ar gyfer creu swyddi yng Nghymru?

 

My final question is to do with the use of European structural funding for all or part of this programme; I am afraid that I am not clear at the moment as to which it is to be. If you are using ESF funding, will the scheme be available across Wales, or will it be focused on convergence areas only? 

 

Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â’r defnydd o arian strwythurol Ewropeaidd ar gyfer y rhaglen gyfan neu ran o’r rhaglen hon; yr wyf yn ofni nad wyf yn glir ar hyn o bryd pa un y mae i fod. Os ydych yn defnyddio arian cronfa gymdeithasol Ewrop, a fydd y cynllun ar gael ar draws Cymru, neu a fydd yn cael ei ganolbwyntio ar ardaloedd cydgyfeirio yn unig? 

 

Leighton Andrews: I broadly thank the Member for South Wales Central for her support for the programme. We will build on the lessons that we believe have been learned from the Future Jobs fund. We will take the pilots that we plan to run with the private sector in the forthcoming months into account, and we fully expect to be scrutinised on the outcomes of those pilots as we move forward.

 

Leighton Andrews: Diolch yn fras i’r Aelod dros Ganol De Cymru am ei chefnogaeth i’r rhaglen. Byddwn yn adeiladu ar y gwersi yr ydym yn credu sydd wedi eu dysgu o gronfa Swyddi’r Dyfodol. Byddwn yn cymryd y cynlluniau peilot y bwriadwn eu cynnal gyda’r sector preifat yn y misoedd sydd i ddod i ystyriaeth, ac rydym yn disgwyl y bydd yna graffu arnom o ran canlyniadau’r cynlluniau peilot hynny wrth i ni symud ymlaen.

 

In respect of working with the private sector, I do not think that there was opposition from my colleagues in the recent debate to us working with the private sector; I think that what my colleagues were objecting to was the exclusivity of focus on the private sector that was suggested by her party, which is one of the parties responsible for the cancellation of the Future Jobs fund, an action that we regret.

 

O ran gweithio gyda’r sector preifat, nid wyf yn credu bod yna wrthwynebiad gan fy nghydweithwyr yn y ddadl ddiweddar o ran gweithio gyda’r sector preifat; yr wyf yn meddwl mai’r hyn yr oedd fy nghydweithwyr yn ei wrthwynebu oedd y ffocws cyfyngedig ar y sector preifat a awgrymwyd gan ei phlaid, sef un o’r partïon sy’n gyfrifol am ganslo cronfa Swyddi’r Dyfodol, gweithred sy’n edifar gennym.

 

The 4,000 job opportunities and apprenticeships that will be created year on year will be supported by not only European funding, but by funding that has been made available from central budget reserves, and it has been factored into future budget plans. That is covered in the draft budget, so we are not reliant on European funding only for this programme. We have made a commitment of £25 million a year up to 2015 to support this programme.   

 

Bydd y 4,000 o gyfleoedd gwaith a phrentisiaethau a fydd yn cael eu creu o flwyddyn i flwyddyn yn cael eu cefnogi nid yn unig gan arian Ewropeaidd, ond gan gyllid sydd wedi cael ei ryddhau o gronfeydd cyllideb ganolog wrth gefn, ac mae wedi cael ei gynnwys yn y cynlluniau cyllideb yn y dyfodol. Mae hynny’n cael ei gynnwys yn y gyllideb ddrafft, felly nid ydym yn dibynnu ar gyllid Ewropeaidd yn unig ar gyfer y rhaglen hon. Rydym wedi gwneud ymrwymiad o £25 miliwn y flwyddyn hyd at 2015 i gefnogi’r rhaglen hon.   

 

This is an innovative programme that is specific to Wales. It is a demonstration of the success of devolution and this Government’s commitment to our young people.

 

Mae hon yn rhaglen arloesol sy’n benodol i Gymru. Mae’n arwydd o lwyddiant datganoli ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i’n pobl ifanc.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Melding) i’r Gadair am 3.32 p.m.
The Deputy Presiding Officer (David Melding) took the Chair at 3.32 p.m.

 

Datganiad: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol
Statement: Chief Medical Officer’s Annual Report

 

The Minister for Health and Social Services (Lesley Griffiths): I am pleased to speak on the subject of the Chief Medical Officer for Wales’s 2010 annual report. The report provides an independent professional assessment of the health of the population and it recommends steps to secure good health for all.

 

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Lesley Griffiths): Yr wyf yn falch i siarad ar bwnc adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer 2010. Mae’r adroddiad yn rhoi asesiad proffesiynol annibynnol o iechyd y boblogaeth ac mae’n argymell camau i sicrhau iechyd da i bawb.

Dr Jewell notes that the health of the people of Wales is generally good and improving, with levels of life expectancy at birth increasing. There is a corresponding decrease in the rate of premature deaths from cancer and circulatory disease. It is also noted that there are low levels of deaths in the first week and year of life. In addition, levels of healthy life expectancy have increased, with the results for men being better than in Scotland and Northern Ireland.

 

Mae Dr Jewell yn nodi bod iechyd pobl Cymru yn gyffredinol dda ac yn gwella, gyda lefelau disgwyliad oes adeg geni yn cynyddu. Ceir gostyngiad cyfatebol yng nghyfradd y marwolaethau cynamserol o ganser a chlefyd cylchredol. Nodir hefyd bod yna lefelau isel o farwolaethau yn ystod wythnos gyntaf a blwyddyn gyntaf bywyd. Yn ogystal, mae lefelau disgwyliad oes iach wedi cynyddu, gyda’r canlyniadau ar gyfer dynion yn well na’r rheini yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

However, a prevailing theme through this report, and previous chief medical officer annual reports, is that parts of our society may be being left behind. The trends in life expectancy over the past 10 years show that while all areas have improved, the greatest health gain has been in the least deprived parts of Wales. This is a pattern largely repeated across the UK and the wider world. The gradient effect in health outcomes means that people’s lives are cut short and that adverse factors are at work even before birth. This is unfair, unjust and unacceptable.

 

Fodd bynnag, thema gyffredinol drwy’r adroddiad hwn, ac adroddiadau blynyddol blaenorol prif swyddogion meddygol, yw bod rhannau o’n cymdeithas o bosib yn cael eu gadael ar ôl. Mae’r tueddiadau mewn disgwyliad oes dros y 10 mlynedd diwethaf yn dangos, er bod pob ardal wedi gwella, fod y cynnydd mwyaf mewn iechyd wedi bod yn y rhannau lleiaf difreintiedig o Gymru. Mae hwn yn batrwm sy’n cael ei ailadrodd i raddau helaeth ar draws y DU a’r byd ehangach. Mae’r effaith graddiant mewn canlyniadau iechyd yn golygu bod bywydau pobl yn cael eu torri’n fyr a bod ffactorau anffafriol ar waith hyd yn oed cyn geni. Mae hyn yn annheg, anghyfiawn ac yn annerbyniol.

 

Evidence from a number of international organisations, including the World Health Organization’s commission on the social determinants of health, shows the need for all areas of Government to undertake actions that improve and protect the health of the population. Dr Jewell highlights the whole-Government approach set out in the ‘Our Healthy Future’ strategic framework that can be taken to reduce inequality and promote equity.

 

Mae tystiolaeth o nifer o sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys comisiwn Sefydliad Iechyd y Byd ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd, yn dangos yr angen i bob maes Llywodraeth i ymgymryd â gweithredoedd sy’n gwella ac yn diogelu iechyd y boblogaeth. Mae Dr Jewell yn amlygu’r ymagwedd Lywodraeth gyfan a amlinellir yn fframwaith strategol ‘Ein Dyfodol Iach’ y gellir ei chymryd i leihau anghydraddoldeb ac i hybu tegwch.

The ‘Fairer health outcomes for all’ action plan provides a number of areas where action will be taken to build health into all policies and promote health across the life course. Our Government commitment to abolish child poverty and to promote Flying Start is an example of such action. I have noted this advice and will continue to work with colleagues across Government to produce complementary policies to promote health and wellbeing as part of our sustainable future.

 

Mae cynllun gweithredu ‘Canlyniadau iechyd tecach i bawb’ yn cynnig nifer o feysydd lle bydd camau yn cael eu cymryd i roi iechyd ym mhob polisi ac i hyrwyddo iechyd ar draws cwrs bywyd. Mae’r ymrwymiad gan y Llywodraeth i ddileu tlodi plant ac i hyrwyddo Dechrau’n Deg yn enghraifft o weithredu o’r fath.  Rwyf wedi nodi’r cyngor hwn a byddaf yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth i gynhyrchu polisïau cyflenwol i hybu iechyd a lles fel rhan o’n dyfodol cynaliadwy.

 

It is not just a whole-of-Government approach that is required. We need to build a whole-of-society approach to engage all sectors, communities and individuals to make change happen. This means working with civic society and the third sector to learn from experience and spread ideas. As the report notes, the problems we have with the four leading health risks of excessive tobacco use, unhealthy diet, harmful use of alcohol and physical inactivity can only be dealt with if everyone is engaged. We need to ensure that we improve the levels of health literacy in the community, not just about medical terminology, but the determinants of health. Everyone has a stake in promoting the health of our country. One of the tools that we need to use to galvanise our action on health is good health information and intelligence. In this information age, we have more ways than ever to get the right information to the right people at the right time. To build and sustain the intelligence culture in health, we need to ensure that we all have access to good sources of information and that our policies are evidence-based.

 

Nid dim ond ymagwedd Lywodraeth gyfan sydd ei hangen. Mae angen i ni adeiladu  ymagwedd gymdeithas gyfan er mwyn i bob sector, cymuned ac unigolyn ddod yn rhan o’r gwaith o sicrhau newid. Mae hyn yn golygu gweithio gyda’r gymdeithas ddinesig a’r trydydd sector i ddysgu o brofiad ac i ledaenu syniadau. Fel mae’r adroddiad yn ei nodi, gall y problemau sydd gennym gyda’r pedair risg iechyd flaenllaw o ddefnydd gormodol o dybaco, deiet afiach, defnydd niweidiol o alcohol ac anweithgarwch corfforol ddim ond cael eu trin os yw pawb yn cymryd rhan. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwella lefelau llythrennedd iechyd yn y gymuned, nid yn unig o ran terminoleg feddygol, ond o ran penderfynyddion iechyd. Mae gan bawb ran mewn hybu iechyd ein gwlad. Un o’r arfau y mae angen i ni ei ddefnyddio i ysgogi ein gweithredu ar iechyd yw gwybodaeth iechyd dda. Yn yr oes wybodaeth hon, mae gennym fwy o ffyrdd nag erioed i gael y wybodaeth gywir i’r bobl gywir ar yr adeg gywir. I adeiladu a chynnal y diwylliant gwybodaeth ym maes iechyd, mae angen i ni sicrhau ein bod ni i gyd yn cael mynediad at ffynonellau da o wybodaeth a bod ein polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth.

 

As well as meeting high standards of information governance and accountability, we need to be innovative in the way that we report information. This requires presenting information in different ways for health professionals, policy makers and the public, while giving consistent messages. The chief medical officer commends the work of a number of organisations in leading this work, including the NHS Wales Informatics Service, the Public Health Wales Observatory and the local health boards. The better use of information and intelligence in health is a global challenge and we need to learn from the best.

 

Yn ogystal â bodloni safonau uchel o lywodraethiant gwybodaeth ac atebolrwydd, mae angen i ni fod yn arloesol yn y ffordd yr ydym yn cyhoeddi gwybodaeth. Mae hyn yn gofyn am gyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd gwahanol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, llunwyr polisi a’r cyhoedd, gan roi negeseuon cyson. Mae’r prif swyddog meddygol yn canmol gwaith nifer o sefydliadau wrth arwain y gwaith hwn, gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol. Mae’r defnydd gwell o wybodaeth ym maes iechyd yn her fyd-eang ac mae angen i ni ddysgu oddi wrth y gorau.

 

We need to encourage greater access to, and use of evidence in, policy design, service development and clinical decision making. Other developments in protecting and improving the health of the population include the new Public Health Institute for Wales based within Public Health Wales. The need for an institute was recognised nearly 100 years ago and I am pleased to see this centre gaining critical mass to deliver change with close links to the public health observatory. The work of the new institute in the two pathfinder areas of early years and sustainable communities is vital to reduce the impact of significant threats to the early years and the sustainable environmental health of the population. It is only by getting evidence into practice that we can make progress to having fairer health outcomes for all. Dr Jewell also recognises the work of people within the NHS and the wider Welsh health community in being vigilant and ready to face emerging health challenges.

 

Mae angen i ni annog mwy o fynediad i dystiolaeth, a defnydd ohoni, wrth ddylunio polisi, datblygu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau clinigol. Mae datblygiadau eraill wrth amddiffyn a gwella iechyd y boblogaeth yn cynnwys y Sefydliad Iechyd Cyhoeddus newydd ar gyfer Cymru, sydd wedi’i lleoli o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd yr angen am sefydliad ei gydnabod bron 100 mlynedd yn ôl ac rwy’n falch o weld y ganolfan hon yn ennill màs critigol i sicrhau newid gyda chysylltiadau agos ag arsyllfa iechyd y cyhoedd. Mae gwaith y sefydliad newydd yn nwy ardal fraenaru y blynyddoedd cynnar a chymunedau cynaliadwy yn hanfodol i leihau effaith bygythiadau sylweddol i’r blynyddoedd cynnar ac i iechyd amgylcheddol gynaliadwy y boblogaeth. Dim ond drwy roi tystiolaeth ar waith y gallwn wneud cynnydd i gael canlyniadau iechyd tecach i bawb. Mae Dr Jewell hefyd yn cydnabod gwaith pobl yn y GIG a’r gymuned iechyd ehangach yng Nghymru wrth fod yn wyliadwrus ac yn barod i wynebu heriau iechyd sy’n dod i’r amlwg.

 

Over the course of 2010, these challenges included problems with the water supply at the Urdd Eisteddfod on a temporary site in Ceredigion, an outbreak of legionnaire’s disease in the Heads of Valleys in south Wales, and investigating health concerns at the Hanson cement site in north Wales. All of these health challenges were managed with expertise and professionalism by staff from a number of organisations, including local authorities and Public Health Wales. Wales is particularly fortunate to have a committed, passionate and expert workforce at all levels.

 

Yn ystod 2010, roedd yr heriau hyn yn cynnwys problemau gyda’r cyflenwad dŵr yn Eisteddfod yr Urdd ar safle dros dro yng Ngheredigion, achos o glefyd y lleng filwyr ym Mlaenau’r Cymoedd yn ne Cymru, ac ymchwilio i bryderon iechyd ar safle sment Hanson yng ngogledd Cymru. Cafodd pob un o’r heriau iechyd hyn eu rheoli ag arbenigedd a phroffesiynoldeb gan staff o nifer o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Cymru yn arbennig o ffodus i gael gweithlu ymroddedig, angerddol ac arbenigol ar bob lefel.

 

Along with Dr Jewell, I would like to thank staff in the wider Welsh health community for their continued work. For the next year, we need to ensure that we renew our efforts to improve and protect the health of our population. In these times of economic uncertainty, the sustainability of our health system, and the health of the Welsh population, will only be secured if we work together for health. Within Government, we will look for opportunities to improve health at every turn, including our work on the ban on smoking in cars carrying children.

 

Ynghyd â Dr Jewell, hoffwn ddiolch i staff yn nghymuned iechyd ehangach Cymru am eu gwaith parhaus. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ymdrechu o’r newydd i wella a diogelu iechyd ein poblogaeth. Yn y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd, bydd cynaliadwyedd ein system iechyd, ac iechyd poblogaeth Cymru, dim ond yn cael eu sicrhau os ydym yn gweithio gyda’n gilydd ar gyfer iechyd. O fewn y Llywodraeth, byddwn yn edrych am gyfleoedd i wella iechyd bob cynnig, yn cynnwys ein gwaith ar y gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant.

 

I would like to commend the chief medical officer’s annual report to the Assembly and to the people of Wales. I intend to consider the findings and recommendations of the report to see how we can continue to work towards having fairer health outcomes for all.

 

Hoffwn ganmol adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol i’r Cynulliad ac i bobl Cymru. Rwy’n bwriadu ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad i weld sut y gallwn barhau i weithio tuag at gael canlyniadau iechyd tecach i bawb.

Darren Millar: I welcome the statement by the Minister today and the annual report by Tony Jewell, the chief medical officer. As the Minister is aware, the health of our nation is the top priority for the Welsh Conservatives, which is why we have made it very clear that the NHS in Wales would get more money under a Conservative Government than it currently gets.

 

Darren Millar: Yr wyf yn croesawu’r datganiad gan y Gweinidog heddiw a’r adroddiad blynyddol gan Tony Jewell, y prif swyddog meddygol. Fel y mae’r Gweinidog yn ymwybodol, iechyd ein cenedl yw’r flaenoriaeth uchaf ar gyfer y Ceidwadwyr Cymreig, a dyna pam yr ydym wedi dweud yn glir iawn y byddai’r GIG yng Nghymru yn cael mwy o arian dan Lywodraeth Geidwadol nag y mae ar hyn o bryd.

 

The report in itself was quite a mixed bag: there were some positive messages in the report and some concerns, to which Tony Jewell was quite right to draw our attention. It was encouraging to read, for example, that the health of the nation is generally improving, as is the health of some of us in this Chamber, although not for everyone. I was concerned to read about the stubbornly high percentage of Welsh adults who are still smoking and the one in five adults who are now obese in Wales, and to read that 70 per cent of Welsh adults do not get sufficient exercise. However, I welcome Dr Jewell’s recommendations and I am glad that he has drawn attention in his report to the good work being done by the Public Health Wales Observatory, and the Public Health Institute for Wales, the establishment of which we also welcome.

 

Roedd yr adroddiad ei hun yn dipyn o gymysgwch: cafwyd rhai negeseuon cadarnhaol yn yr adroddiad a rhai pryderon y mae Tony Jewell yn hollol iawn i dynnu ein sylw atynt. Roedd yn galonogol darllen, er enghraifft, fod iechyd y genedl yn gwella yn gyffredinol, fel y mae iechyd rhai ohonom yn y Siambr hon, er nad i bawb.  Yr oeddwn yn bryderus i ddarllen am y canran ystyfnig o uchel o oedolion yng Nghymru sy’n dal i ysmygu a’r un o bob pump o oedolion sydd bellach yn ordew yng Nghymru, ac i ddarllen nad yw 70 y cant o oedolion yng Nghymru yn cael digon o ymarfer corff. Fodd bynnag, croesawaf argymhellion Dr Jewell, ac yr wyf yn falch ei fod wedi tynnu sylw yn ei adroddiad at y gwaith da sy’n cael ei wneud gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru, yr ydym hefyd yn croesawu ei sefydlu.

 

I have a number of questions, as you would expect. In your statement, you referred to infant mortality rates during the first week and the first year of a child’s life. I note on page 96 of Dr Jewell’s report that there is significant variation in infant mortality rates in Wales, and that infant mortality is as much as three times higher in some north Wales authority areas than in some parts of west Wales. Given that north Wales appears to be the most poorly performing part of the country, what assurances can you give us that the ongoing reviews into maternity and children’s services will not result in anything that will put the lives of children in Wales at risk? Do you agree that we must maintain consultant-led maternity services at each of our district general hospitals across the country?

 

Mae gennyf nifer o gwestiynau, fel y byddech yn ei ddisgwyl. Yn eich datganiad, cyfeiriasoch at gyfraddau marwolaethau babanod yn ystod yr wythnos gyntaf a blwyddyn gyntaf o fywyd plentyn. Nodaf ar dudalen 96 o adroddiad Dr Jewell bod amrywiaeth sylweddol mewn cyfraddau marwolaethau babanod yng Nghymru, a bod y marwolaethau babanod yn gymaint â thair gwaith yn uwch mewn rhai awdurdodau yng gogledd Cymru nag mewn rhai rhannau o orllewin Cymru. O gofio mai’r gogledd sy’n ymddangos fel y rhan o’r wlad sy’n perfformio waethaf, pa sicrwydd y gallwch ei roi inni na fydd yr adolygiadau parhaus i wasanaethau mamolaeth a phlant yn arwain at unrhyw beth a fydd yn rhoi bywydau plant yng Nghymru mewn perygl? A ydych yn cytuno bod yn rhaid inni gynnal gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd ym mhob un o’n hysbytai cyffredinol dosbarth ar draws y wlad?

 

I am concerned about the timeliness of some of the evidence that Dr Jewell refers to. I notice in the evidence that he provides in his report on dentistry for children, for example, that the most recent evidence that is referred to is from 2003. Given that this is supposed to be a report for 2010, I find that rather concerning. It does conclude that there is a need for significant improvement in children’s dental and oral health, therefore, I wonder what assessment you have made of the money that is used for free toothbrushes in Wales and whether that is an appropriate use of resources, given the decline in oral health in children.

 

Yr wyf yn pryderu ynghylch prydlondeb rhywfaint o’r dystiolaeth y  mae Dr Jewell yn cyfeirio ati. Sylwaf yn y dystiolaeth y mae’n ei darparu yn ei adroddiad ar ddeintyddiaeth i blant, er enghraifft, fod y dystiolaeth ddiweddaraf y cyfeirir ati o 2003. O ystyried bod hyn i fod yn adroddiad ar gyfer 2010, yr wyf yn pryderu braidd ynglŷn â hynny. Mae’n dod i’r casgliad bod angen gwelliant sylweddol mewn iechyd deintyddol a iechyd y geg ymhlith plant, felly, tybed pa asesiad yr ydych wedi’i wneud o’r arian sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer brwsys dannedd am ddim yng Nghymru a pha un a yw hynny’n ddefnydd priodol o adnoddau, o ystyried y dirywiad mewn iechyd y geg ymhlith plant.

 

On the issue of smoking, I wonder whether you will review the effectiveness of Stop Smoking Wales as an organisation, particularly given that there is no annual report from that organisation available on the internet and that it only achieved 8 per cent of the target uptake for smokers awaiting elective surgery in 2010, which is just 325 people out of a total of 51,000 in the NHS. While I recognise that there has been a welcome reduction in the number of young people taking up smoking, I wonder how that chimes with the evidence that we recently received from ASH Wales in its reports, about the fact that 38 teenagers are introduced to smoking every day in this nation, which is a shameful statistic.

 

Ar fater ysmygu, tybed a fyddwch yn adolygu effeithiolrwydd Dim Smygu Cymru fel sefydliad, yn enwedig o ystyried nad oes unrhyw adroddiad blynyddol gan y corff hwnnw ar gael ar y rhyngrwyd ac y bu iddo ddim ond cyflawni 8 y cant o’r targed derbyn ar gyfer ysmygwyr a oedd yn aros am lawdriniaeth ddewisol yn 2010, sef dim ond 325 o bobl allan o gyfanswm o 51,000 yn y GIG. Er fy mod yn cydnabod y bu gostyngiad i’w groesawu yn nifer y bobl ifanc sy’n dechrau ysmygu, tybed sut mae hynny’n cyd-fynd â’r dystiolaeth a gawsom yn ddiweddar gan ASH Cymru yn ei adroddiadau, am y ffaith bod 38 o bobl yn eu harddegau yn cael eu cyflwyno i ysmygu bob diwrnod yn y wlad hon, sydd yn ystadegyn cywilyddus.

 

Finally, I will comment on alcohol and substance misuse. I am pleased to note that the report states that there has been a reduction in the number of 15 and 16-year-olds who are introducing themselves to drinking and smoking. However, we must not forget that alcohol is responsible for 54,000 admissions into hospitals in Wales every year and costs the NHS in excess of £70 million per annum. I wonder what role parenting might play and whether there is going to be any emphasis on parenting in your department in the future while trying to address this particular problem.

 

Yn olaf, rwyf am wneud sylwadau ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Yr wyf yn falch o nodi bod yr adroddiad yn dweud y bu gostyngiad yn nifer y bobl 15 a 16 oed sydd yn cyflwyno eu hunain i yfed ac ysmygu. Fodd bynnag, rhaid i ni beidio ag anghofio bod alcohol yn gyfrifol am 54,000 o dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru bob blwyddyn ac yn costio’r GIG mwy na £70 miliwn y flwyddyn. Tybed pa rôl y gall rhianta ei chwarae ac a fydd unrhyw bwyslais ar rianta a magu plant yn eich adran chi yn y dyfodol wrth geisio mynd i’r afael â’r broblem benodol hon.

Lesley Griffiths: I thank Darren Millar for his questions. I will start at the beginning. The health service is also a priority for me and for our Government. You say that you would put more money in, but you would do so at the cost of education. The only main expenditure group not to be reduced is the health budget. We have not cut it and you saw in last week’s announcement that there is an extra £288 million in the health budget. You are right that the report focuses on the positive outcomes, but it also refers to the variation across Wales. You mentioned the variation in infant mortality rates across the country. There is variation in a lot of health issues across the country and it is something that I want to address over the coming months. You mentioned maternity services in north Wales and you also used the word ‘appears’; you are quite right—you and I do not know, because we have not seen the plans. Until we do, we do not know what the Betsi Cadwaladr University Local Health Board is proposing.

 

Lesley Griffiths: Rwy’n diolch i Darren Millar am ei gwestiynau. Yr wyf am ddechrau yn y dechrau. Mae’r gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth i mi ac i’n Llywodraeth hefyd.  Yr ydych yn dweud y byddech yn rhoi mwy o arian i mewn, ond byddech yn gwneud hynny ar draul addysg. Yr unig brif grŵp gwariant i beidio â chael ei leihau yw’r gyllideb iechyd. Nid ydym wedi ei dorri ac fe welsoch yn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod yna £288 miliwn ychwanegol yn y gyllideb iechyd. Yr ydych yn iawn bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y canlyniadau cadarnhaol, ond mae hefyd yn cyfeirio at yr amrywiaeth ar draws Cymru. Soniasoch am yr amrywiad mewn cyfraddau marwolaethau babanod ar draws y wlad. Mae amrywiad mewn llawer o faterion iechyd ar draws y wlad ac mae’n rhywbeth yr wyf am fynd i’r afael ag e dros y misoedd nesaf. Soniasoch am wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru ac fe wnaethoch chi ddefnyddio’r gair  ‘ymddangos’; yr ydych yn llygad eich lle—nid wyf i a chithau yn gwybod, oherwydd nid ydym wedi gweld y cynlluniau. Hyd nes y byddwn wedi’u gweld, nid ydym yn gwybod yr hyn y mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei gynnig.

 

3.45 p.m.

 

You mentioned smoking, obesity and physical inactivity. Those three areas are not just for the health service; we all have a part to play on those. Individuals must take responsibility for those three things. In relation to smoking, I am speaking at the ASH Wales conference tomorrow. I am concerned about smoking, particularly during pregnancy. We know that one in four women smoke during pregnancy, which is very worrying. You mentioned Stop Smoking Wales specifically, and I am looking at all smoking programmes and schemes at the moment to see whether we need to target different areas and where those campaigns need to be.

 

Soniasoch am ysmygu, gordewdra ac anweithgarwch corfforol. Nid yw’r tri maes hynny ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn unig;  mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae yn y meysydd hynny. Mae’n rhaid i unigolion gymryd cyfrifoldeb am y tri pheth. Mewn perthynas ag ysmygu, yr wyf yn siarad yng nghynhadledd ASH Cymru yfory. Yr wyf yn pryderu am ysmygu, yn enwedig yn ystod beichiogrwydd. Rydym yn gwybod bod un o bob pedair menyw yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd, sy’n peri pryder mawr.  Soniasoch am Ddim Smygu Cymru yn benodol, ac yr wyf yn edrych ar y rhaglenni a chynlluniau ysmygu i gyd ar hyn o bryd i weld a oes angen i ni dargedu ardaloedd gwahanol a lle mae angen yr ymgyrchoedd hynny.

 

In relation to alcohol and substance misuse, I work closely with my colleague Carl Sargeant on those issues. One thing that we would like to look at is alcohol pricing. We would like the powers to do something on that, but they are currently held by the Westminster Government.

 

Mewn perthynas â chamddefnyddio alcohol a sylweddau, yr wyf yn gweithio’n agos gyda fy nghydweithiwr Carl Sargeant ar y materion hynny. Un peth y hoffem edrych arno yw pris alcohol. Hoffem gael y pwerau i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ond maent gan Lywodraeth San Steffan ar hyn o bryd.

 

David Rees: I also welcome your statement, Minister, and the report. I, too, wish to raise the issues of alcohol and drug abuse and their long-term impact. I am pleased to see the reduction in mortality rates from cancer and cardiac and respiratory diseases, although I am concerned that, within my county borough, they are above the norm for males. We need to look at the causes of and variations in this across Wales. Dr Jewell underlined another important point that we cannot forget, namely the long-term impact on the health service of issues such as alcohol, drug abuse and the possible impact of raising the pension age to 67 in years to come. Can you tell me what the Welsh Government will do to prioritise prevention and early intervention to reduce the long-term impacts and to make people’s lives healthier for longer?

 

David Rees: Yr wyf hefyd yn croesawu eich datganiad, Weinidog, a’r adroddiad. Yr wyf hefyd yn dymuno codi’r materion camddefnyddio alcohol a chyffuriau a’u heffaith yn y tymor hir. Yr wyf yn falch o weld y gostyngiad mewn cyfraddau marwolaethau o ganser a chlefydau cardiaidd ac anadlol, er fy mod yn pryderu eu bod, o fewn fy mwrdeistref sirol, yn uwch na’r norm ar gyfer dynion. Mae angen i ni edrych ar yr hyn sy’n achosi hyn, a’r amrywiadau ar draws Cymru. Tanlinellodd Dr Jewell bwynt pwysig arall na allwn ei anghofio, sef yr effaith hirdymor ar y gwasanaeth iechyd o faterion megis alcohol, camddefnyddio cyffuriau a’r effaith bosibl o godi’r oedran pensiwn i 67 yn y blynyddoedd i ddod. A allwch chi ddweud wrthyf beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i flaenoriaethu gwaith ataliol ac ymyrraeth gynnar i leihau’r effeithiau hirdymor ac i wneud bywydau pobl yn iachach am gyfnod hirach?

 

Lesley Griffiths: Thank you for that question, David. Health promotion and prevention work is important. That is one of the reasons why, as a Government, we are committed to bringing in health checks for over 50s. I was talking to some general practitioners last week, when I launched the influenza vaccination programme, and they said that that was the way forward. That would enable them to catch preventable things early on in people aged over 50 who do not routinely go to their GP. That is something that we can do.

 

Lesley Griffiths: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw, David. Mae hybu iechyd a gwaith atal yn bwysig. Dyna un o’r rhesymau pam, fel Llywodraeth, yr ydym wedi ymrwymo i ddod ag archwiliadau iechyd i bobl dros 50.  Roeddwn yn siarad â rhai ymarferwyr cyffredinol yr wythnos diwethaf, pan lansiais y rhaglen frechu ffliw, ac fe ddywedon nhw mai dyna oedd y ffordd ymlaen.  Byddai hynny’n eu galluogi i ddal pethau y gellir eu hatal yn gynnar mewn pobl dros 50 oed nad ydynt yn mynd yn rheolaidd at eu meddyg teulu. Mae hynny’n rhywbeth y gallwn ei wneud.

 

In relation to what you said about cancer, we debated cancer care last week in the Chamber and we will debate it again tomorrow—twice—so we can focus again on why, although we are seeing a higher incidence of cancer, we are seeing people surviving much longer and living much more normal lives following a diagnosis of cancer. It is because of our treatment and care.

 

Mewn perthynas â’r hyn a ddywedoch chi am ganser, cawsom ddadl ar ofal canser yr wythnos diwethaf yn y Siambr, a byddwn yn ei drafod eto yfory—dwywaith—er mwyn inni allu canolbwyntio unwaith eto ar pam, er ein bod yn gweld mwy o achosion o ganser, yr ydym yn gweld pobl yn goroesi llawer yn hirach ac yn byw bywydau llawer mwy normal yn dilyn diagnosis o ganser. Yr ateb i hynny yw ein triniaeth a gofal.

 

Elin Jones: Diolch i’r Gweinidog am ei datganiad ac am adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol ar gyfer 2010, sy’n gofnod pwysig o iechyd y genedl a ffordd o fyw pobl Cymru. Mae’r Gweinidog wedi cyfeirio at rai o’r ystadegau sy’n dangos cynnydd da yn rhai o’r meysydd pwysig o ran iechyd a chyflwr meddygol pobl Cymru; mae hynny’n dda i’w weld. Ond yr hyn sy’n drawiadol unwaith eto yw’r gwahaniaethau rhwng gwahanol ranbarthau yng Nghymru. Yn ôl rhai o’r ystadegau rhanbarthol hyn, yr wyf yn cynrychioli, yng Ngheredigion, un o’r ardaloedd lle mae pobl yn byw yn hwy, yn iachach ac yn fwy bywiog na’r cyfartaledd. Fel mae’n digwydd, nid wyf yn ymhyfrydu yn y ffaith bod Ceredigion ar frig y gynghrair ar nifer o’r ystadegau hyn, er fy mod yn aml yn ymhyfrydu yn y ffaith bod Ceredigion ar frig sawl cynghrair. Fodd bynnag, nid wyf eisiau gweld neb ar frig na gwaelod cynghrair yr ystadegau sydd yn dangos gwahaniaethau o ran cyflwr iechyd rhwng rhanbarthau yng Nghymru na phobl mewn gwahanol sefyllfaoedd economaidd-gymdeithasol. Yr wyf eisiau gweld y Llywodraeth, a ni fel Aelodau o bob plaid, yn gweithio i leihau’r gwahaniaethau rhanbarthol yng Nghymru, sy’n dangos, yn anffodus â chysondeb clir, bod gan rai ardaloedd ystadegau digon ffafriol ac eraill ystadegau cyson anffafriol o ran cyflwr iechyd pobl.

 

Elin Jones: I thank the Minister for her statement and for the chief medical officer’s annual report for 2010, which is an important record of the nation’s health and the lifestyle of the people of Wales. The Minister has referred to some of the statistics that show good progress being made in some important areas in terms of the health and medical condition of the people of Wales; that is good to see. However, what is striking, once again, is the variation between different regions in Wales. According to some of these regional statistics, I represent, in Ceredigion, one of the regions where people have longer, more healthy and active lives than the average. As it happens, I take no pride in the fact that Ceredigion is at the top of the league in many of these statistics, although I often take pride in the fact that Ceredigion is at the top of many leagues. However, I do not want to see anyone at the top or the bottom of the league of statistics showing variation in the health of Welsh regions or people living in different socioeconomic circumstances. I want to see the Government, and us as Members from all parties, working to reduce these regional variations in Wales, which show—with some consistency, unfortunately—that some areas have statistics that are fairly positive and others statistics that are unfavourable with regard to people’s health.

Mae gennyf ddau gwestiwn penodol i’r Gweinidog ar yr adroddiad hwn ac, yn gyntaf, ar y rhaglen lywodraethu. Dywedwch yn y rhaglen honno, o ran y polisi iechyd cyhoeddus, y byddwch yn asesu’r hyn y byddwch yn ei gyflawni drwy edrych ar y ganran o’r boblogaeth sy’n ordew, sy’n ysmygu ac yfed, sy’n ymgymryd â gweithgarwch corfforol ac yn y blaen. Fodd bynnag, nid oes gennych unrhyw dargedau pendant o ran gostyngiadau mewn gordewdra ac yn y niferoedd o bobl sy’n ysmygu ac yn yfed ac yn y blaen y byddwch chi, fel Llywodraeth, yn anelu atynt erbyn 2016. O ganlyniad, nid ydych yn gosod targedau pendant ar gyfer y prif swyddog meddygol i anelu atynt yn ei waith dros y blynyddoedd nesaf ychwaith. A oes gennych, fel Gweinidog, fwriad yn ystod y pedair blynedd nesaf i osod targedau penodol ar gyfer y pethau yr ydych yn eu nodi yn eich rhaglen lywodraethu?

 

I have two specific questions for the Minister on this report and, first, on the programme for government. In that programme, you state that, in terms of public health policy, you will assess your achievements by looking at the percentages of people who are obese, who smoke and drink, who participate in physical activity and so on. However, you have no specific target for reductions in obesity and in the number of people who smoke and drink and so on for you, as a Government, to aim for by 2016. As a result, you set no definite targets for the chief medical officer to aim for in his work over the next few years. Do you, as Minister, over the next four years intend to set specific targets for the things that you note in your programme for government?

Mae’r prif swyddog meddygol yn glir iawn yn ei gefnogaeth yn yr adroddiad hwn i weld llai o effeithio ar blant o ganlyniad i ysmygu, yn enwedig ysmygu mewn ceir, fel y cyfeiriasoch yn eich datganiad. Yr ydych yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn i wahardd ysmygu mewn ceir, ond, ar hyn o bryd, eich bwriad yw monitro gostyngiad yn y niferoedd sy’n ysmygu mewn ceir dros y tair blynedd nesaf. A yw’n bosibl i chi ddweud wrthym, felly, faint o ostyngiad yr ydych eisiau ei weld yn y niferoedd sy’n ysmygu mewn ceir er mwyn osgoi cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn?

 

The chief medical officer is very clear in his support in the report for children to be affected less by the impact of smoking, particularly smoking in cars, which you mentioned in your statement. You are considering introducing legislation in this area to ban smoking in cars, but your intention at the moment is to monitor the reduction in the numbers of people smoking in cars over the next three years. Would it be possible for you to tell us, therefore, how much of a reduction you would want to see in the numbers smoking in cars in order to avoid bringing forward legislation in this area?

Lesley Griffiths: I thank Elin Jones for her questions. You talk about the variation across Wales with regard to many of the statistics stated in the chief medical officer’s report. You are right; that situation is unfair and unjust, and it is something that we intend to address over the next year. You mentioned Ceredigion, and rural health obviously has a huge part to play in the health of our country. You also mentioned targets, and I can tell you that, within the programme for government, I am looking at how we measure the improvements in the areas that you mentioned.

 

Lesley Griffiths: Diolch i Elin Jones am ei chwestiynau. Yr ydych yn sôn am yr amrywiad ledled Cymru mewn perthynas â llawer o’r ystadegau a nodir yn adroddiad y prif swyddog meddygol. Rydych chi’n iawn; mae’r sefyllfa honno yn annheg ac yn anghyfiawn, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn bwriadu rhoi sylw iddo dros y flwyddyn nesaf.  Yr oeddech yn sôn am Geredigion, ac yn amlwg mae gan iechyd gwledig ran enfawr i’w chwarae yn iechyd ein gwlad. Soniasoch hefyd am dargedau, a gallaf ddweud wrthych fy mod yn edrych, o fewn y rhaglen lywodraethu, ar sut yr ydym yn mesur y gwelliannau yn y meysydd a grybwyllwyd gennych.

 

You specifically mentioned smoking in cars carrying children. As you are aware, the First Minister announced, along with me and Dr Tony Jewell, that we will have a three-year campaign to try to reduce smoking in cars before looking at whether we introduce legislation. Officials are looking at preparing legislation, given that it takes such a long time to do. We will monitor the media campaign—I do not have a figure in my head, but I want to see a large reduction, given the number of children who travel in cars in which people smoke. The level of toxins stay in cars for up to two hours, which can cause them damage. Therefore, we need to see a huge drop in the number of people smoking in cars. Officials will not be sitting on their hands as we go through this media campaign, because they will be preparing the legislation.

 

Yr oeddech yn sôn yn benodol am ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant. Fel y gwyddoch, cyhoeddodd y Prif Weinidog, yn ogystal â Dr Tony Jewell a minnau, y byddwn yn cynnal ymgyrch tair blynedd i geisio lleihau ysmygu mewn ceir cyn edrych ar gyflwyno deddfwriaeth. Mae swyddogion yn edrych ar baratoi deddfwriaeth, o ystyried ei bod yn cymryd cymaint o amser i’w wneud.  Byddwn yn monitro’r ymgyrch yn y cyfryngau—nid oes ffigur yn fy mhen, ond yr wyf am weld gostyngiad mawr, o ystyried nifer y plant sy’n teithio mewn ceir lle mae pobl yn ysmygu. Mae lefel y tocsinau yn aros mewn ceir am hyd at ddwy awr, a all achosi niwed iddynt. Felly, mae angen inni weld gostyngiad enfawr yn nifer y bobl sy’n ysmygu mewn ceir. Ni fydd swyddogion yn llaesu dwylo wrth inni fynd drwy’r ymgyrch cyfryngau, oherwydd byddant yn paratoi’r ddeddfwriaeth.

 

Jenny Rathbone: One of the really encouraging things in this report is the ongoing reduction in the number of teenage pregnancies. I strongly support your sexual health and wellbeing action plan, which emphasises the importance of developing a society that supports open discussion about relationships, sex and sexuality. Would you agree that one of the best ways in which we can protect children and young people from sexual abuse is to ensure that all children and young people have age-appropriate sex education from the very earliest years, so that they are fully aware that they should not be interfered with in any way unless they have informed consent? Do you think that our schools are responding to the importance of getting this information to children and young people, so that they know that they should not be put under pressure by their peers or by older people to enter into things that they do not want to do?

 

Jenny Rathbone:   Un o’r pethau calonogol iawn yn yr adroddiad hwn yw’r gostyngiad parhaus yn nifer y rheini sy’n beichiogi yn eu harddegau. Yr wyf yn cefnogi’n gryf eich cynllun gweithredu iechyd a lles rhywiol, sy’n nodi pwysigrwydd datblygu cymdeithas sy’n cefnogi trafodaeth agored am berthynas, rhyw a rhywioldeb. A fyddech yn cytuno mai un o’r ffyrdd gorau y gallwn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cam-drin rhywiol yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael addysg rhyw sy’n briodol i’w hoedran o’r blynyddoedd cynharaf, fel eu bod yn gwbl ymwybodol na ddylent gael eu hymyrryd mewn unrhyw ffordd heb gydsyniad ar sail gwybodaeth? A ydych yn credu bod ein hysgolion yn ymateb i’r pwysigrwydd o gyflwyno’r wybodaeth hon i blant a phobl ifanc, er mwyn iddynt wybod na ddylent gael eu rhoi o dan bwysau gan eu cyfoedion neu gan bobl hŷn i wneud pethau nad ydynt eisiau eu gwneud?

 

Lesley Griffiths: I thank the Member for Cardiff Central for welcoming the sexual health and wellbeing strategy. I have discussions with Leighton Andrews, the Minister for Education and Skills, in relation to sexual education in schools. It is important that parents work alongside teachers and that children are aware of what is acceptable and what is not. In relation to contraception, I read a revealing statistic today: every £1 spent on contraception saves £10 to the public purse. It is vital that we continue to see a reduction in teenage pregnancy.

 

Lesley Griffiths: Diolch i’r Aelod dros Ganol Caerdydd am groesawu’r strategaeth iechyd a lles rhywiol. Yr wyf yn cael trafodaethau gyda Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, mewn perthynas ag addysg rhyw mewn ysgolion.  Mae’n bwysig bod rhieni yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon, a bod plant yn ymwybodol o’r hyn sy’n dderbyniol a’r hyn nad yw’n dderbyniol. Mewn perthynas ag atal cenhedlu, darllenais ystadegyn dadlennol heddiw: mae pob £1 a werir ar atal cenhedlu yn arbed £10 i bwrs y wlad. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weld gostyngiad mewn beichiogrwydd yn yr arddegau.

 

Kirsty Williams: I begin by thanking the Minister for her statement this afternoon. I thank the chief medical officer, Dr Jewell, for his support and his ongoing work and advice to the Minister, and indeed to civic society in Wales as a whole. As many previous speakers have said, the report paints a mixed picture, but for me, the crux and the most important element of Dr Jewell’s report is his statement that we cannot rely on a continuing growth in life expectancy. Children being born now, or maybe in the next decade, will actually have a lower life expectancy than that of their parents. For all public policy-makers in Wales, that is the most important thing that we should take out of this report, because that is a stark fact indeed.

 

Kirsty Williams: Dechreuaf drwy ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma.  Diolchaf i’r prif swyddog meddygol, Dr Jewell, am ei gefnogaeth a’i waith parhaus ac am ei gyngor i’r Gweinidog, ac yn wir i’r gymdeithas ddinesig yng Nghymru gyfan.  Fel dywedodd llawer o siaradwyr blaenorol, mae’r adroddiad yn rhoi darlun cymysg, ond, i mi, craidd ac elfen bwysicaf adroddiad Dr Jewell yw ei ddatganiad na allwn ddibynnu ar dwf parhaus mewn disgwyliad oes. Mewn gwirionedd, bydd gan blant sy’n cael eu geni erbyn hyn, neu efallai yn ystod y degawd nesaf, ddisgwyliad oes is na’u rhieni. Ar gyfer pob lluniwr polisi cyhoeddus yng Nghymru, dyna’r peth pwysicaf y dylem ei gymryd o’r adroddiad hwn, oherwydd mae hynny wir yn ffaith lem.

 

I want to ask some specific questions about your statement, Minister. At the end of page 1, you say that you will continue to work with colleagues across Government to produce complementary policies, and this is a theme throughout Dr Jewell’s report—the fact that health is everybody’s business, and that improvement in public health cannot be delivered by the Minister for health alone. In fact, if you look at history, the greatest improvement in public health did not come out of any great scientific discovery or new healthcare intervention; it was actually the provision of clean water and a decent sewerage system that saw the biggest leap forward. That demonstrates that it is not the Minister for health’s responsibility alone. I have seen other areas of Government—sustainability, for instance—that are supposed to be every Minister’s responsibility, but when tested on that, it became clear that the Ministers who truly had sustainability at the centre of their thinking were few and far between. What mechanisms are you putting in place to ensure that what you say—that health will be at the core of your colleagues’ working—will actually happen? Do you have any plans to report back on the effectiveness of that cross-departmental working?

 

Yr wyf am ofyn rhai cwestiynau penodol am eich datganiad, Weinidog. Ar ddiwedd tudalen 1, yr ydych yn dweud y byddwch yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth i lunio polisïau ategol, ac mae hon yn thema drwy gydol adroddiad Dr Jewell—y ffaith bod iechyd yn fater i bawb ac na all y Gweinidog dros iechyd ar ei phen ei hun beri i iechyd y cyhoedd wella. Yn wir, os ydych yn edrych ar hanes, ni ddaeth y gwelliant mwyaf yn iechyd y cyhoedd o unrhyw ddarganfyddiad gwyddonol mawr neu ymyriad gofal iechyd newydd;  darparu dŵr glân a system garthffosiaeth dda a welodd y naid fwyaf ymlaen. Mae hynny’n dangos nad yw’r Gweinidog dros iechyd yn unig yn gyfrifol. Mae meysydd eraill yn y Llywodraeth—cynaliadwyedd, er enghraifft—i fod yn gyfrifoldeb gan bob Gweinidog, ond pan brofwyd hynny, daeth yn amlwg bod y Gweinidogion a oedd yn wirioneddol wedi rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gwaith yn brin. Pa fecanweithiau yr ydych yn eu rhoi ar waith i sicrhau y bydd yr hyn yr ydych yn ei ddweud—sef y bydd iechyd wrth wraidd gwaith eich cydweithwyr—yn digwydd mewn gwirionedd? A oes gennych unrhyw gynlluniau i adrodd yn ôl ar effeithiolrwydd y gweithio trawsadrannol hynny?

 

Secondly, you refer to a need to encourage greater access to the use of evidence in policy design. Could you explain to the Chamber how you intend to make that a reality? Rather than just saying that that is what you are going to do, could you say how you will achieve it? Could you also explain how you intend to encourage those who have responsibility for spending significant parts of the health service budget to move towards prioritising public health and health promotion expenditure? We all know—we are all guilty of it—that, when we think of the health service, we think along the lines of investment in acute services, but the message from Dr Jewell is quite clear: we need to see a shift of resources into preventative services and management of long-term illnesses in the community.

 

Yn ail, yr ydych yn cyfeirio at yr angen i annog mwy o fynediad at y defnydd o dystiolaeth wrth ddylunio polisi. A allech chi egluro i’r Siambr sut yr ydych yn bwriadu gwireddu hynny? Yn hytrach na dim ond dweud mai dyna’r hyn yr ydych yn mynd i’w wneud, a allech chi ddweud sut y byddwch yn ei wneud? A allech chi hefyd esbonio sut yr ydych yn bwriadu annog y rhai sydd â chyfrifoldeb am wario rhannau sylweddol o gyllideb y gwasanaeth iechyd i symud tuag at flaenoriaethu gwariant ar iechyd y cyhoedd a hybu iechyd? Rydym ni i gyd yn gwybod—yr ydym i gyd yn euog ohono—ein bod ni, pan fyddwn yn meddwl am y gwasanaeth iechyd, yn meddwl yng nghyd-destun buddsoddi mewn gwasanaethau acíwt, ond mae’r neges gan Dr Jewell yn eithaf clir: mae arnom angen symud adnoddau i mewn i wasanaethau ataliol a rheoli salwch hirdymor yn y gymuned.

 

4.00 p.m.

 

However, to do that you need to move resources around, so can you tell us how you intend to do that? In answer to a point raised by a previous speaker, you said that your key way of moving public health and early intervention forward was screening for the over 50s. You referred to the use of evidence in policy design. I have not seen the evidence for the screening of those aged 50 rather than those aged 55, 60 or 45, so could you outline it for us? If you are looking at evidence-based policy, as you said that you are in your statement, I would be grateful to see the evidence for universal screening at the age of 50.

 

Fodd bynnag, i wneud hynny mae angen ichi symud adnoddau o gwmpas, felly a allwch chi ddweud wrthym sut y bwriadwch wneud hynny? I ateb y pwynt a godwyd gan siaradwr blaenorol, dywedasoch mai’r ffordd allweddol gennych o symud iechyd cyhoeddus ac ymyriad cynnar ymlaen oedd sgrinio ar gyfer y rhai dros 50 oed. Cyfeiriasoch at y defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau. Nid wyf wedi gweld y dystiolaeth ar gyfer sgrinio’r rhai sy’n 50 oed yn hytrach na’r rhai sy’n 55, 60 neu’n 45, felly a allech chi ei hamlinellu inni? Os ydych yn edrych ar bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel y dywedasoch eich bod yn ei wneud yn eich datganiad, byddwn yn ddiolchgar i weld y dystiolaeth ar gyfer sgrinio cyffredinol yn 50 oed.

 

Much attention has been focused on drinking, smoking and lack of exercise, but few questions have been asked about access to drug rehabilitation. My understanding is that for every 24,000 referrals that GPs make for those who are looking to get off illicit drugs, there are only 12,000 funded places available in treatment programmes. Can you explain what you intend to do about that?

 

Mae llawer o sylw wedi’i ganolbwyntio ar yfed, ysmygu a diffyg ymarfer corff, ond ychydig iawn o gwestiynau sydd wedi’u gofyn ynghylch mynediad at wasanaethau adsefydlu cyffuriau. Fy nealltwriaeth i yw: ar gyfer pob 24,000 atgyfeiriad y mae meddygon teulu yn eu gwneud ar gyfer y rhai sydd am roi’r gorau i gyffuriau anghyfreithlon, dim ond 12,000 o leoedd wedi’u hariannu sydd ar gael mewn rhaglenni triniaeth. A allwch chi esbonio beth yr ydych yn bwriadu ei wneud am hynny?

 

Finally, Dr Jewell states that he requires the Government to take bold action to address his concerns. There is precious little that is bold and precious little action outlined in your statement. Can you tell us what your bold and active response to the chief medical officer’s report will be?

 

Yn olaf, dywed Dr Jewell ei fod yn mynnu i’r Llywodraeth gymryd camau beiddgar i fynd i’r afael â’i bryderon. Ychydig iawn sy’n feiddgar ac ychydig iawn o weithredu a amlinellir yn eich datganiad. A allwch chi ddweud wrthym beth fydd eich ymateb beiddgar a gweithgar i adroddiad y prif swyddog meddygol?

 

Lesley Griffiths: I thank the Member for Brecon and Radnorshire for all of those questions. You are quite right that the picture is mixed. As I said, the variation across Wales is unfair, unjust and unacceptable, and we have to address it. We have to address health inequalities and ‘Our Healthy Future’ provides the strategic framework to improve and protect the health of the population in the short to medium-term, so that strategy offers a way forward. You mentioned collaboration across Government departments. I work closely with Carl Sargeant on alcohol and drug misuse issues. This is also about schemes such as Flying Start, early intervention with our children, and education. You talked about prevention and health promotion, and I want every health consultation to be about health promotion. When someone goes to see their general practitioner or community pharmacist about an issue, that visit should be turned into a consultation about prevention and health promotion; lifestyle choices can then be made.

 

Lesley Griffiths: Diolchaf i’r Aelod dros Frycheiniog a sir Faesyfed am bob un o’r cwestiynau hynny. Yr ydych yn hollol iawn bod y darlun yn un cymysg. Fel y dywedais, mae’r amrywiad ar draws Cymru yn annheg, yn anghyfiawn ac yn annerbyniol, a rhaid inni ymdrin ag ef. Rhaid inni ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd ac mae ‘Ein Dyfodol Iach’ yn darparu’r fframwaith strategol i wella a diogelu iechyd y boblogaeth yn y tymor byr i’r tymor canolig, felly mae’r strategaeth honno’n cynnig ffordd ymlaen. Soniasoch am gydweithio ar draws adrannau’r Llywodraeth. Yr wyf yn gweithio’n agos gyda Carl Sargeant ar faterion camddefnyddio alcohol a chyffuriau. Mae hyn hefyd ynghylch cynlluniau megis Dechrau’n Deg, ymyrraeth gynnar â’n plant, ac addysg. Soniasoch am atal a hybu iechyd, ac yr wyf am i bob ymgynghoriad iechyd ymwneud â hybu iechyd. Pan fydd rhywun yn mynd i weld eu meddyg teulu neu fferyllydd cymunedol ynghylch rhyw fater, dylai’r ymweliad hwnnw gael ei droi’n ymgynghoriad ynghylch atal a hybu iechyd; gellir gwneud dewisiadau ffordd o fyw wedyn.

 

You raised the issue of screening of the over 50s when I appeared before the Health and Social Care Committee. You asked why screening was not to be for those aged over 40. I asked the same question when I met the GP committee, I think. The response was that you are unlikely to have a heart attack at the age of 40, but that is not so at the age of 50; that may be a generalisation, but the committee said that that is based on evidence, and so that is the answer that I will give to you. On access to drug rehabilitation, I have not seen the figures that you cited, but that needs to be looked at, because the issue has been raised with me in relation to health in prisons.

 

Codasoch y mater o sgrinio dros 50 oed pan ymddangosais gerbron y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gofynasoch pam nad oedd sgrinio ar gyfer y rhai dros 40 oed. Gofynnais yr un cwestiwn pan gyfarfûm â’r pwyllgor meddygon teulu, mi gredaf. Yr ymateb oedd eich bod yn annhebygol o gael trawiad ar y galon yn 40 oed, ond nad oedd hynny’n wir yn 50 oed; efallai bod hynny’n cyffredinoli, ond dywedodd y pwyllgor fod hynny’n seiliedig ar dystiolaeth, ac felly dyna’r ateb a roddaf i chi. O ran mynediad at wasanaethau adsefydlu cyffuriau, nid wyf wedi gweld y ffigurau a ddyfynnwyd gennych, ond mae angen edrych ar hynny, oherwydd mae’r mater wedi’i godi â mi mewn perthynas ag iechyd mewn carchardai.

 

The Deputy Presiding Officer: Finally, I call Christine Chapman.

 

Y Dirprwy Lywydd: Yn olaf, galwaf ar Christine Chapman.

Christine Chapman: Thank you for your statement, Minister. The picture contained in the annual report is generally positive, showing that the health of people in Wales continues to improve and that life expectancy is increasing. However, there are still areas for improvement. Like other Members, I am concerned about the links between poverty and ill health. I would be keen to see what is being done to address these concerns in future reports. We need to drill down to see what is happening and what improvements are being made, and we need to keep our attention focused on these issues.

 

Christine Chapman: Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Mae’r darlun a geir yn yr adroddiad blynyddol yn gyffredinol yn un cadarnhaol, sy’n dangos bod iechyd pobl yng Nghymru yn parhau i wella a bod disgwyliad oes yn cynyddu. Fodd bynnag, ceir meysydd ar gyfer gwella o hyd. Fel Aelodau eraill, yr wyf yn bryderus ynghylch y cysylltiadau rhwng tlodi ac afiechyd. Buaswn i’n awyddus i weld beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn adroddiadau’r dyfodol. Mae angen inni dreiddio’n ddyfnach i weld yr hyn sy’n digwydd a pha welliannau a wneir, ac mae angen inni ganolbwyntio ein sylw ar y materion hyn.

 

On the alcohol issue, although the report said that fewer schoolchildren were trying alcohol, very worryingly, it suggested that there is a deep-rooted culture of alcohol abuse in Wales, with increasing drink-related deaths and hospital admissions. The report calls for greater central intervention to discourage and educate. Could you say something about that? I am talking in particular about the culture of alcohol abuse. Wales had a great victory on Saturday in the rugby, and it was interesting to note that the Welsh team had apparently abstained from alcohol during their training. The irony is that many people in Wales probably drank to excess in celebrating that win. So, we really need to look at this.

 

Ar fater alcohol, er i’r adroddiad ddweud bod llai o blant ysgol yn profi alcohol, yn bryderus iawn awgrymodd bod diwylliant dwfn o gamddefnyddio alcohol yng Nghymru, gyda mwy o farwolaethau a derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag yfed. Mae’r adroddiad yn galw am fwy o ymyrraeth ganolog i atal ac addysgu. A allech chi ddweud rhywbeth am hynny? Yr wyf yn sôn yn benodol am y diwylliant o gamddefnyddio alcohol. Cafwyd buddugoliaeth fawr gan Gymru ddydd Sadwrn yn y rygbi, ac yr oedd yn ddiddorol nodi bod tîm Cymru, mae’n debyg, wedi ymatal rhag yfed alcohol yn ystod eu hyfforddiant. Yr eironi yw bod llawer o bobl yng Nghymru wedi yfed yn ormodol wrth ddathlu’r fuddugoliaeth honno. Felly, mae gwir angen inni edrych ar hyn.

 

The second point I want to make is on something that other Members have mentioned. For information, the Children and Young People Committee, which I chair, is currently looking into the issue of children’s oral health in Wales. The findings of the chief medical officer are certainly a useful contribution to this inquiry. You will know that these statistics are pretty bad. They are unacceptable. So, although I do not wish to pre-empt the outcome of my committee’s inquiry, I would welcome a few words on that as well.

 

Mae’r ail bwynt yr wyf am ei wneud yn ymwneud â rhywbeth y soniodd Aelodau eraill yn ei gylch. Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yr wyf yn gadeirydd arno, ar hyn o bryd yn ymchwilio i iechyd y geg plant yng Nghymru. Mae canfyddiadau’r prif swyddog meddygol yn sicr yn gyfraniad defnyddiol i’r ymchwiliad hwn. Byddwch yn ymwybodol bod yr ystadegau hyn yn eithaf gwael. Maent yn annerbyniol. Felly, er nad wyf am achub y blaen ar ganlyniad ymchwiliad fy mhwyllgor, buaswn yn croesawu ychydig o eiriau ar hynny yn ogystal.

 

Lesley Griffiths: I would like to thank the Member for Cynon Valley. I did not think it would be the Member for Cynon Valley who raised the issue of the rugby in the Chamber this afternoon. I had a bet on who it would be, but I did not think it would be you, Chris. That was a very interesting point—I did not know that about the Wales rugby team; I probably assumed it.

 

Lesley Griffiths: Diolchaf i’r Aelod dros Gwm Cynon. Nid oeddwn yn credu mai’r Aelod dros Gwm Cynon fyddai’n codi mater y rygbi yn y Siambr y prynhawn yma. Cefais fet ar bwy y byddai, ond nid oeddwn yn meddwl mai chi fyddai’n gwneud, Chris. Yr oedd hwnnw’n bwynt diddorol iawn—nid oeddwn yn gwybod hynny am dîm rygbi Cymru; roeddwn yn ei dybio, mae’n debyg.

 

You are right that the report shows a welcoming start of a change in the culture of drinking among young people. I know that Carl Sargeant is working on alcohol strategies to encourage that change even further. You mention oral health. I am giving evidence to your committee on 3 November. We have Designed to Smile, which has been rolled out across Wales, and 60,000 children are now involved in that scheme. I will be looking at some evaluation of the scheme to ensure that we are reaching the children we need to reach. It started off in our most deprived areas, that is, in Communities First areas. Caia Park in my constituency was one of the first pilot areas. It is an issue of concern. I think it is the case that 50 per cent of children have fantastic teeth. Obviously, we have concerns about the other 50 per cent. It is important that our scheme is targeting the right children.

 

Yr ydych yn iawn bod yr adroddiad yn dangos dechrau croesawgar o newid yn y diwylliant yfed ymysg pobl ifanc. Gwn fod Carl Sargeant yn gweithio ar strategaethau alcohol i annog y newid hwnnw hyd yn oed ymhellach. Yr ydych yn sôn am iechyd y geg. Yr wyf yn rhoi tystiolaeth i’ch pwyllgor ar 3 Tachwedd. Mae gennym y Cynllun Gwên, sydd wedi’i gyflwyno ledled Cymru, ac mae 60,000 o blant bellach yn cymryd rhan yn y cynllun hwnnw. Byddaf yn edrych ar ryw werthusiad o’r cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y plant y mae arnom angen eu cyrraedd. Dechreuodd yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, hynny yw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Parc Caia yn fy etholaeth i oedd un o’r ardaloedd peilot cyntaf. Mae’n fater o bryder. Credaf ei bod yn wir bod 50 y cant o blant â dannedd gwych. Yn amlwg, mae gennym bryderon am y 50 y cant arall. Mae’n bwysig bod ein cynllun yn targedu’r plant cywir.

 

The Deputy Presiding Officer: To extend the sporting metaphor, I blew the whistle too early. I have an additional request to ask a question from Andrew R.T. Davies.

 

Y Dirprwy Lywydd: I ymestyn y metaffor o fyd chwaraeon, chwythais y chwiban yn rhy gynnar. Mae gennyf gais ychwanegol i ofyn cwestiwn gan Andrew R.T. Davies.

 

Andrew R.T. Davies: Minister, thank you for your statement. When I was health spokesperson, I met quite a few community pharmacists as well as optometrists across Wales. In response to various questions from around the Chamber today, you have touched on how, in particular, with regard to community pharmacists, you want a consultation process in the context of public health. In relation to the findings in the chief medical officer’s report, the educational aspect is vital if we are to improve public health. What will you do specifically in conjunction with the local health boards to assist community pharmacists to be greater participants in the role of educating the public and in the context of public health? Optometrists in particular have historically had a very difficult relationship with local health boards when it comes to the commissioning of services. Ultimately, every high street optometrist and every community pharmacist could be an ambassador for public health.

 

Andrew R.T. Davies: Weinidog, diolch ichi am eich datganiad. Pan oeddwn yn llefarydd iechyd, cyfarfûm â thipyn o fferyllwyr cymunedol yn ogystal ag optometryddion ar draws Cymru. Mewn ymateb i gwestiynau amrywiol a gafwyd o gwmpas y Siambr heddiw, yr ydych wedi cyfeirio at y ffaith, yn benodol, o ran fferyllwyr cymunedol, yr ydych am weld proses ymgynghori yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd. O ran y canfyddiadau yn adroddiad y prif swyddog meddygol, mae’r agwedd addysgol yn hanfodol os ydym i wella iechyd y cyhoedd. Beth a wnewch yn benodol ar y cyd â byrddau iechyd lleol i helpu fferyllwyr cymunedol i fod yn fwy o gyfranogwyr yn y rôl o addysgu’r cyhoedd ac yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd? Mae optometryddion yn arbennig yn hanesyddol wedi cael perthynas anodd iawn â’r byrddau iechyd lleol pan ddaw i gomisiynu gwasanaethau. Yn y pen draw, gallai pob optometrydd a phob fferyllydd cymunedol ar y stryd fawr fod yn llysgennad ar gyfer iechyd y cyhoedd.

Lesley Griffiths: I thank the leader of the opposition for the question. You are quite right about Community Pharmacy Wales. It is very willing to participate in health promotion and preventive measures. Last week, I met Community Pharmacy Wales and a few pharmacists. They are very keen on this. They have shown that they are very keen through schemes such as the one to test people for diabetes that ran for a few weeks in July. With regard to optometrists, I am surprised that you say that they have difficulties. I worked in ophthalmology myself for 10 years. With regard to the role of ophthalmologists and optometrists, the eye sometimes shows disease in other parts of the body very early on, so it is absolutely vital that they realise the role they can play in health promotion. I think that they do realise that. So, I encourage local health boards to have discussions with them if there are specific issues. If you know of any specific issues, write to me and I will look into them.

 

Lesley Griffiths: Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiwn. Yr ydych yn llygad eich lle ynghylch Fferylliaeth Gymunedol Cymru. Mae’n barod iawn i gymryd rhan mewn mesurau ataliol a mesurau hybu iechyd. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Fferylliaeth Gymunedol Cymru ac ychydig o fferyllwyr. Maent yn frwd iawn dros hyn. Maent wedi dangos eu bod yn frwd iawn drwy gynlluniau fel yr un i brofi pobl ar gyfer diabetes a gafwyd am ychydig wythnosau yng Ngorffennaf. O ran optometryddion, yr wyf yn synnu eich bod yn dweud bod ganddynt anawsterau. Bûm yn gweithio ym maes offthalmoleg am 10 mlynedd. O ran rôl offthalmolegwyr ac optometryddion, mae’r llygad weithiau’n dangos afiechyd mewn rhannau eraill o’r corff yn gynnar iawn, felly mae’n hanfodol eu bod yn sylweddoli’r rôl y gallant ei chwarae i hybu iechyd. Credaf eu bod yn sylweddoli hynny. Felly, yr wyf yn annog byrddau iechyd lleol i gynnal trafodaethau â hwy os oes materion penodol. Os ydych yn gwybod am unrhyw faterion penodol, ysgrifennwch ataf a byddaf yn ymchwilio iddynt.

 

Cyfrifoldeb Rhianta Corfforaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
Corporate Parenting Responsibilities for Looked After Children

 

The Deputy Presiding Officer: I have selected amendments 1 and 2 in the name of William Graham, amendment 3 in the name of Jocelyn Davies, and amendments 4, 5 and 6 in the name of Peter Black.

 

Y Dirprwy Lywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliannau 1 a 2 yn enw William Graham, gwelliant 3 yn enw Jocelyn Davies, a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Peter Black.

Cynnig NDM4819 Jane Hutt

 

Motion NDM4819 Jane Hutt

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

To propose that the National Assembly for Wales:

 

1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yn her barhaus; a

 

1.) Notes the on-going challenge in improving outcomes for Looked After Children; and

 

2) Yn cydnabod pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.

 

2.) Recognises the importance of corporate parenting to the improvement of the life chances of looked after children.

The Deputy Minister for Children and Social Services (Gwenda Thomas): I move the motion.

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Cynigiaf y cynnig.

As we are corporate parents ourselves, I felt that it was important that we debate the challenge of improving the life chances of looked-after children. On the eve of Sir Ronald Waterhouse’s memorial service, it is apt that we pay tribute to his work, which has been the catalyst to transform and drive improvements to children’s services in Wales over the last decade.

 

Gan ein bod yn rhieni corfforaethol ein hunain, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig ein bod yn trafod yr her o wella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal. Ar noswyl gwasanaeth coffa Syr Ronald Waterhouse, mae’n briodol inni dalu teyrnged i’w waith, sydd wedi bod yn gatalydd i drawsnewid ac ysgogi gwelliannau i wasanaethau plant yng Nghymru dros y degawd diwethaf.

As elected councillors and Members of the Assembly, it is our great privilege to serve our communities, and I believe that our first priority is to those who are most in need. Looked-after children are among those in greatest need and they demand our serious and careful attention. Looked-after children will have already faced enormous challenges in their lives. The highly skilled help and support available to them from social workers, foster carers, teachers, health professionals and others will make a huge difference, but even that is not enough on its own. They also need those of us who hold political office to take our obligations seriously and to find ways in which we, too, can make a difference.

 

Fel cynghorwyr etholedig ac Aelodau’r Cynulliad, mae’n fraint fawr inni allu gwasanaethu ein cymunedau, a chredaf mai’r rheini sydd fwyaf mewn angen yw ein blaenoriaeth gyntaf. Mae plant sy’n derbyn gofal ymhlith y rhai mwyaf anghenus ac maent yn mynnu sylw difrifol a gofalus gennym. Bydd plant sy’n derbyn gofal eisoes wedi wynebu heriau enfawr yn eu bywydau. Mae’r cymorth medrus sydd ar gael iddynt gan weithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill yn gwneud gwahaniaeth enfawr, ond nid yw hynny’n ddigon ar ei ben ei hun. Mae hefyd arnynt angen i’r rheini ohonom sy’n dal swydd wleidyddol i gymryd ein dyletswydd o ddifrif a dod o hyd i ffyrdd sy’n ein galluogi ni, hefyd, i wneud gwahaniaeth.

 

The Welsh Government and, indeed, the whole Assembly, has been prepared to put in place progressive reforms. We started from a very low base 10 years ago and, overall, solid progress has been made. We have improved child protection practice, strengthened the voice of children and young people, and raised practice standards. Considerable energy and commitment has been devoted to putting in place the legal and policy framework, resource and support programmes to transform services. For example, the implementation of our key policy ‘Towards a Stable Life and a Brighter Future’ and targeted education programmes, such as raising attainment and individual standards in education in Wales and school effectiveness grants, have improved outcomes in reducing the number of placement moves from 14 per cent to 9 per cent. In addition, 83 per cent of looked-after children have regular health assessments, 90 per cent are registered with a GP within 10 days of being looked after, and 56 per cent have one or more GCSEs, compared with 43 per cent in 2007. There are designated persons to promote and co-ordinate their education, health and wellbeing. Priority is given to school admissions for looked-after children, and 90 per cent of care leavers are in receipt of local authority services and have a pathway plan.

 

Mae Llywodraeth Cymru ac, yn wir, y Cynulliad cyfan, wedi bod yn barod i ddechrau diwygiadau blaengar. Dechreuasom o sylfaen isel iawn 10 mlynedd yn ôl, ac yn gyffredinol gwnaed cynnydd solet. Rydym wedi gwella ymarfer amddiffyn plant, cryfhau llais plant a phobl ifanc, ac wedi codi safonau ymarfer. Neilltuwyd cryn egni ac ymrwymiad er mwyn sefydlu’r fframwaith cyfreithiol a pholisi, yr adnoddau a’r rhaglenni cymorth i drawsnewid gwasanaethau. Er enghraifft, mae gweithrediad ein polisi allweddol ‘Tuag at Fywyd Sefydlog a Dyfodol Gwell’ a’r rhaglenni addysg wedi’u targedu, megis codi cyrhaeddiad a safonau unigol mewn addysg yng Nghymru a grantiau effeithiolrwydd ysgol, wedi gwella canlyniadau o ran lleihau nifer y symudiadau lleoliad o 14 y cant i 9 y cant. Yn ogystal, mae 83 y cant o blant sy’n derbyn gofal yn cael asesiadau iechyd rheolaidd, mae 90 y cant wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu o fewn 10 diwrnod ar ôl dod yn blant sy’n derbyn gofal, ac mae gan 56 y cant un TGAU neu fwy, o gymharu â 43 y cant yn 2007. Ceir personau dynodedig i hyrwyddo a chydgysylltu eu haddysg, eu hiechyd a’u lles. Rhoddir blaenoriaeth i dderbyniadau ysgol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, ac mae 90 y cant o’r rhai sy’n gadael gofal yn derbyn gwasanaethau awdurdod lleol ac yn cael cynllun llwybr.

 

However, local implementation remains variable. That is a key feature of the concern of the Children’s Commissioner for Wales about services for children. The commissioner is taking his corporate parent role seriously. His office’s recent work with care leavers is welcome, and I look forward to his report in 2012 on the review of advocacy services. I believe that looked-after children are well served in terms of their being able to make representations about their care and I therefore reject amendment 2, but commit to consider the report outlining the commissioner’s findings. It is important that we equip young people who have been looked after to make the transition to adulthood. Education is critical here, and our £2,000 bursary, which will be available from this academic year, will support care leavers to go into higher education. Like all young people, care leavers have choices and, at 18, many choose to leave. To address this, we will provide an open-door policy for care leavers to reconnect to care, to pursue education or training up to the age of 25.

 

Fodd bynnag, mae gweithredu lleol yn dal i amrywio. Mae hynny’n nodwedd allweddol o bryder Comisiynydd Plant Cymru am wasanaethau ar gyfer plant. Mae’r comisiynydd yn cymryd ei rôl fel rhiant corfforaethol o ddifrif. Croesewir gwaith diweddar ei swyddfa ar y rhai sy’n gadael gofal, ac edrychaf ymlaen at ei adroddiad yn 2012 ar yr adolygiad o wasanaethau eiriolaeth. Credaf fod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu gwasanaethu’n dda o ran eu gallu i wneud sylwadau am eu gofal, ac yr wyf felly yn gwrthod gwelliant 2, ond yn ymrwymo i ystyried yr adroddiad sy’n amlinellu canfyddiadau’r comisiynydd. Mae’n bwysig ein bod yn arfogi pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal wrth iddynt drosglwyddo i fod yn oedolion. Mae addysg yn hollbwysig yma, a bydd ein bwrsari o £2,000, a fydd ar gael o’r flwyddyn academaidd hon, yn cefnogi’r rhai sy’n gadael gofal i drosglwyddo i addysg uwch. Fel pob person ifanc, mae gan y rhai sy’n gadael gofal ddewisiadau, ac, yn 18 oed, mae llawer yn dewis gadael. I fynd i’r afael â hyn, byddwn yn darparu polisi drws agored ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal i ailgysylltu â gofal, i fynd ar drywydd addysg neu hyfforddiant hyd at 25.

 

Nick Ramsay: I am very sorry to hear that you will not support amendment 2, which we tabled for good reason. You mentioned higher education; do you agree that it is very sad that, I think, only 1 per cent of looked-after children enter higher education, which does not compare favourably at all with the 45 per cent or so of children in the general population who go on to higher education. Would you accept that greater action is required from the Welsh Government to address that situation?

Nick Ramsay: Mae’n flin iawn gennyf glywed na fyddwch yn cefnogi gwelliant 2, a gyflwynwyd gennym â phob rheswm. Bu ichi sôn am addysg uwch; a ydych yn cytuno ei bod yn drist iawn, mi gredaf, mai 1 y cant yn unig o blant sy’n derbyn gofal sy’n mynd i addysg uwch, rhywbeth nad yw’n cymharu ffafriol o gwbl â’r 45 y cant neu fwy o blant yn y boblogaeth gyffredinol sy’n mynd ymlaen i addysg uwch. A fyddech yn derbyn bod angen mwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â’r sefyllfa honno?

 

4.15 p.m.

 

Gwenda Thomas: Yes, I accept that. I know that you are familiar with ‘Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’. You also know that we are committed to setting national standards and a compliance unit. I know that you will want to refer to that in seeking a formal answer to your question. To repeat: to address the issue of 18-year-olds choosing to leave, we will provide an open-door policy for care leavers to reconnect to care, to pursue education or training up to the age of 25. I therefore reject amendments 3, 4 and 5.

 

Gwenda Thomas: Ydw, rwy’n derbyn hynny. Gwn eich bod yn gyfarwydd â ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu’. Byddwch hefyd yn gwybod ein bod wedi ymrwymo i osod safonau cenedlaethol ac uned cydymffurfio. Gwn y byddwch eisiau cyfeirio at hynny wrth geisio ateb ffurfiol i’ch cwestiwn. I ailadrodd: i fynd i’r afael â’r mater o bobl 18 mlwydd oed yn dewis gadael, byddwn yn darparu polisi drws agored ar gyfer rhai sy’n gadael gofal i ailgysylltu i ofalu, i ddilyn addysg neu hyfforddiant hyd at 25 oed. Felly, yr wyf yn gwrthod gwelliannau 3, 4 a 5.

 

Improving the life chances of looked-after children is at the heart of my vision for sustainable social services for Wales, and a key priority in the programme for government is to ensure a fairer society in which every person is able to make the most of their abilities and to contribute. To drive forward and realise these improvements requires a more mature approach to a stronger national framework for child protection, support for families and the commissioning of specialist placements for the relatively small number who will need to be placed in this kind of setting. Advancing and monitoring the improvements of looked-after children will be overseen by a national standards and compliance unit, which I have already mentioned. I respectfully reject amendment 1, though I applaud William Graham’s sentiments. I also reject amendment 6, but we will ensure that the points raised by Peter Black—that some young people require services beyond the age of 18, irrespective of whether they remain in education—will receive the urgent attention of the national standards and compliance unit.

 

Mae gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal wrth wraidd fy ngweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy i Gymru, a blaenoriaeth allweddol yn y rhaglen lywodraethu yw sicrhau cymdeithas decach lle mae pob person yn gallu gwneud y gorau o’u galluoedd a chyfrannu. Mae ysgogi a chyflawni’r gwelliannau hyn yn gofyn am ymagwedd fwy aeddfed tuag at fframwaith cenedlaethol gryfach ar gyfer amddiffyn plant, cymorth i deuluoedd a chomisiynu lleoliadau arbenigol ar gyfer y nifer gymharol fach y bydd angen iddynt gael eu rhoi yn y math hwn o leoliad. Caiff hyrwyddo a monitro gwelliannau plant sy’n derbyn gofal ei oruchwylio gan uned safonau cenedlaethol a chydymffurfiaeth, yr wyf eisoes wedi sôn amdani. Yr wyf, yn barchus, yn gwrthod gwelliant 1, er fy mod yn canmol teimladau William Graham. Yr wyf hefyd yn gwrthod gwelliant 6, ond byddwn yn sicrhau bod y pwyntiau a godwyd gan Peter Black—bod rhai pobl ifanc angen gwasanaethau y tu hwnt i 18 oed, pa un ai ydynt yn parhau mewn addysg a’i peidio—yn cael sylw brys yr uned safonau a chydymffurfio cenedlaethol.

 

We know that children are best cared for by their families. In turbulent times, it is imperative that we act earlier to support children to remain within their families, and we are doing this through our integrated family support services and our Families First programme. Looked-after children tell us how much they value the support of the social workers and the independent reviewing officers. They would, of course, like more of their time. Central to our reforms are empowerment and the proportionate regulation of social workers’ practice. This is to enable social workers to have a balance between care management and direct work with children, families and other vulnerable service users.

 

Rydym yn gwybod ei bod yn well i blant dderbyn gofal gan eu teuluoedd. Mewn cyfnodau cythryblus, mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu yn gynt i gefnogi plant i aros o fewn eu teuluoedd, ac yr ydym yn gwneud hyn drwy ein gwasanaethau cymorth i deuluoedd integredig a’n rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mae plant sy’n derbyn gofal yn dweud wrthym faint y maent yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gweithwyr cymdeithasol a’r swyddogion adolygu annibynnol. Byddent, wrth gwrs, am gael mwy o’u hamser. Yn ganolog i’n diwygiadau mae grymuso a rheoleiddio cymesur o waith gweithwyr cymdeithasol. Mae hyn er mwyn galluogi gweithwyr cymdeithasol i gael cydbwysedd rhwng rheoli gofal a gwaith uniongyrchol gyda phlant, teuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth eraill sy’n agored i niwed.

 

I am personally driving forward social services reforms. Last week, I chaired the inaugural meeting of a partnership forum—I welcome the cross-party nature of its membership, comprising elected members from five political groups. The forum will offer practical leadership, challenge and creativity to ensure improved outcomes for looked-after children and other users of care services. I also commend the independent family justice review panel, which will report to me later this month. The interim report illustrated the complex and crowded area of professionals and processes that dominate public law care proceedings for children.

 

Yr wyf yn bersonol yn arwain diwygiadau gwasanaethau cymdeithasol. Yr wythnos diwethaf, bûm yn cadeirio cyfarfod cyntaf y fforwm partneriaeth—rwy’n croesawu natur drawsbleidiol ei aelodaeth, yn cynnwys aelodau etholedig o bum grŵp gwleidyddol. Bydd y fforwm yn cynnig arweiniad ymarferol, herio a chreadigrwydd i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a defnyddwyr eraill gwasanaethau gofal. Rwyf hefyd yn canmol y panel adolygu cyfiawnder teuluol annibynnol, a fydd yn adrodd i mi yn ddiweddarach y mis hwn. Mae’r adroddiad interim yn dangos maes cymhleth ac orlawn gweithwyr proffesiynol a phrosesau sy’n dominyddu achosion gofal cyfraith gyhoeddus i blant.

 

Delivering on the vision of sustainable social services will take time. Time is critical, of course, in a child’s life. Therefore, there is a moral and political imperative for us, individually and collectively, to grow and foster the support of others to improve the life chances of looked-after children. Collective corporate parenting should share the common purpose of transforming public services to deliver better outcomes for looked-after children. At every opportunity, we should reassert for locally elected members their corporate parenting duties. We can take a lead here, too. We can make it clear to elected members, parents and looked-after children and young people that we are taking our responsibilities seriously.

 

Bydd cyflawni ar y weledigaeth o wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn cymryd amser. Mae amser yn hanfodol, wrth gwrs, mewn bywyd plentyn. Felly, mae rheidrwydd moesol a gwleidyddol i ni, yn unigol ac ar y cyd, i dyfu a meithrin cefnogaeth pobl eraill er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal. Dylai rhianta corfforaethol ar y cyd rhannu’r nod cyffredin o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer plant y gofalir amdanynt. Ar bob cyfle, dylem ailddatgan dyletswyddau rhianta corfforaethol aelodau etholedig lleol. Gallwn gymryd yr awenau yma, hefyd. Gallwn wneud yn glir i aelodau etholedig, rhieni a phlant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif.

 

Gwelliant 1 William Graham

Amendment 1 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod y Wladwriaeth, yn rhy aml, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau bywyd plant unwaith y byddant mewn gofal.

 

Calls on the Welsh Government to take urgent action to address findings by the Centre for Social Justice that ‘once children are in care the State too often seems to lower their life outcomes, not raise them’.

 

Gwelliant 2 William Graham

Amendment 2 William Graham

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r diffygion mewn darparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru.

Calls on the Welsh Government to take urgent action to address failings in the provision of advocacy for looked after children, as outlined in the Children’s Commissioner for Wales 2010/11 Annual Report.

 

Mark Isherwood: I move amendments 1 and 2 in the name of William Graham.

 

Mark Isherwood: Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw William Graham.

 

It is worrying that, in each Assembly, the same issues come around again. We need to ensure that our most vulnerable children are given the support and opportunities that they need to succeed in life after care, but rising numbers of children in care put increasing pressure on this.

 

Mae’n peri pryder bod yr un materion, ym mhob Cynulliad, yn codi unwaith eto. Mae angen i ni sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed yn cael y cymorth a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd ar ôl gofal, ond mae’r nifer cynyddol o blant mewn gofal yn rhoi pwysau cynyddol ar hyn.

 

As of 31 March this year, 5,419 children in Wales were looked after, which is up 5 per cent on the previous year, and 20 per cent on the last five years. Looked-after children have much poorer psycho-social outcomes when compared with their peers. A 2004 study found that the prevalence of mental disorders among children and young people aged five to 17 and looked after by local authorities in Wales was 49 per cent. Forty-two per cent had clinically significant conduct disorders, 10 per cent had emotional disorders—anxiety and depression—and 12 per cent were rated as being hyperactive. Another study found that there is a particularly high percentage of psychiatric disorders among those living in residential care and with many changes of placement. On a UK basis, figures from 2005 show that up to 41 per cent of children who end up in custody will have some history of being in care.

 

Ar 31 Mawrth eleni, roedd 5,419 o blant yng Nghymru yn derbyn gofal, sydd i fyny 5 y cant ers y flwyddyn flaenorol, a 20 y cant ar y pum mlynedd diwethaf. Mae gan blant sy’n derbyn gofal ganlyniadau seico-gymdeithasol llawer gwaeth o gymharu â’u cyfoedion. Canfu astudiaeth yn 2004 mai lefel yr achosion o anhwylderau meddwl ymhlith plant a phobl ifanc pump oed i 17 oed sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru oedd 49 y cant. Roedd gan 42 y cant anhwylderau ymddygiad clinigol sylweddol, roedd gan 10 y cant anhwylderau emosiynol—pryder ac iselder—ac roedd 12 y cant wedi eu graddio fel gorfywiog. Canfu astudiaeth arall fod yna ganran arbennig o uchel o anhwylderau seiciatrig ymysg y rhai sy’n byw mewn gofal preswyl a chyda llawer o newidiadau lleoliad. Ar sail y DU, mae ffigurau o 2005 yn dangos y bydd gan hyd at 41 y cant o blant sydd yn y ddalfa yn y pen draw rywfaint o hanes o fod mewn gofal.

 

The 2009 House of Commons Children, Schools and Families Committee report found that the state is failing in its duty to act as a parent to children in care by not adequately protecting them from sexual exploitation, homelessness and falling into crime. The report said that children in care aged 10 and over are more than twice as likely to be cautioned or convicted of an offence, and it blamed Government for the disproportionate criminalisation of young people in care. It also revealed evidence of organised, targeted exploitation of girls in residential homes and hostels, and warned that the vulnerability of young people leaving care is a matter of great concern.

 

Canfu adroddiad 2009 Pwyllgor Plant, Teuluoedd ac Ysgolion Tŷ’r Cyffredin fod y wladwriaeth yn methu yn ei ddyletswydd i weithredu fel rhiant i blant mewn gofal drwy beidio â’u hamddiffyn yn ddigonol rhag ecsbloetio rhywiol, digartrefedd a dechrau troseddu. Dywedodd yr adroddiad fod plant mewn gofal sy’n 10 oed a hŷn yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael eu rhybuddio neu eu collfarnu o drosedd, a rhoddodd y bai ar y Llywodraeth am droseddoli anghymesur pobl ifanc mewn gofal. Mae hefyd yn dangos tystiolaeth o ecsbloetio wedi’i drefnu a’i dargedu at ferched mewn cartrefi preswyl a hostelau, ac yn rhybuddio bod sefyllfa fregus pobl ifanc sy’n gadael gofal yn fater o bryder mawr.

 

We will support amendments 3, 4 and 6, but we will abstain on amendment 5 only because we are supporting amendment 3, not because we are opposed to it.

 

Byddwn yn cefnogi gwelliannau 3, 4 a 6, ond byddwn yn ymatal ar welliant 5 dim ond oherwydd ein bod yn cefnogi gwelliant 3, nid am ein bod yn gwrthwynebu iddo.

The Centre for Social Justice has earned respect from people of all parties. Its ‘Couldn’t Care Less’ report stated that

 

Mae’r  Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ennill parch gan bobl o bob plaid. Datganodd ei adroddiad ‘Couldn’t Care Less’:

 

‘Despite over a decade of reforming legislation and initiatives, the treatment of many children in care and those leaving the care system deserves to be a source of national shame. These children too often go on to experience lives characterised by unemployment, homelessness, mental illness and addiction.’

 

Er gwaethaf dros ddegawd o ddiwygio deddfwriaeth a mentrau, mae’r triniaeth llawer o blant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael y system ofal yn haeddu bod yn ffynhonnell o gywilydd cenedlaethol. Mae’r plant hyn yn rhy aml yn mynd ymlaen i brofi bywydau sydd wedi’u nodweddu gan ddiweithdra, digartrefedd, salwch meddwl a dibyniaeth.

 

We are picking up these enormous costs through the criminal justice system and the health service, and these are set to rise. The Children’s Commissioner for Wales annual report for 2010-11, published last week, says that 

 

Yr ydym yn cronni costau enfawr drwy’r system cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth iechyd, a disgwylir i’r rhain godi. Mae adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2010-11, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dweud bod 

 

‘the provision of advocacy for looked after children, care leavers and children in need is inconsistent across Wales.’

 

darparu eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y rhai sy’n gadael gofal a phlant mewn angen yn anghyson ar draws Cymru.

 

He added that

 

Ychwanegodd mai:

‘Lessons from Sir Waterhouse’s report, Lost in Care, the Carlile review, Too serious a thing, and our own Telling Concerns are that advocacy is an essential element of safeguarding—enabling children and young people to speak up when they perceive that something is wrong. If this is to happen for all children and young people in care, we would expect that all of them would be actively encouraged to have an advocate with whom they can build up a trusting relationship.’

 

Y gwersi o adroddiad Syr Waterhouse, ‘Lost in Care’, adolygiad Carlile, ‘Too Serious a

Thing’ a ‘Telling Concerns’ a luniwyd gennym ni yw bod eiriolaeth yn elfen hanfodol o ddiogelu—yn galluogi plant a phobl ifanc i siarad pan maent yn canfod bod rhywbeth o’i le. Os yw hyn i ddigwydd i bob plentyn a pherson ifanc mewn gofal, byddem yn disgwyl y byddai pob un ohonynt yn cael eu hannog i gael eiriolwr y gallant adeiladu perthynas o ymddiriedaeth ag ef neu hi.’

The report also shows that other countries seem to be much more responsive to the needs of the children that they have taken into care, often with better results.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod gwledydd eraill yn ymddangos yn llawer mwy ymatebol i anghenion y plant y maent yn gofalu amdanynt, yn aml gyda gwell canlyniadau.

 

The National Society for the Prevention of Cruelty to Children is right to emphasise that care can provide greater stability and better outcomes for some maltreated children, and the importance of comparing outcomes for looked-after children with a similar population. However, this does not mean that we do not also need to change the way that we look at children in care, and how we live up to our responsibilities.

 

Mae’r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn iawn i bwysleisio bod gofal yn gallu darparu mwy o sefydlogrwydd a gwell canlyniadau i rai plant sydd wedi cael eu cam-drin, a phwysigrwydd cymharu canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gyda phoblogaeth debyg. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad oes angen i ni hefyd newid y ffordd yr ydym yn edrych ar blant mewn gofal, a sut yr ydym yn gwireddu’n cyfrifoldebau.

 

With the number of children in care finding permanent new families sinking to its lowest level for a decade, we must embrace the Prime Minister’s pledge to tackle the adoption crisis. We must also address serious allegations that key evidence and testimony was withheld from the north Wales child abuse Waterhouse tribunal. What is needed is the political courage to initiate an urgent process of change in improving outcomes for looked-after children.

 

Gyda nifer y plant mewn gofal sy’n dod o hyd i deuluoedd parhaol newydd yn disgyn i’w lefel isaf ers degawd, mae’n rhaid i ni groesawu addewid y Prif Weinidog i fynd i’r afael â’r argyfwng mabwysiadu. Mae’n rhaid i ni hefyd fynd i’r afael â honiadau difrifol fod tystiolaeth allweddol wedi’i ddal yn ôl oddi wrth dribiwnlys Waterhouse ar gam-drin plant yn y gogledd. Yr hyn sydd ei angen yw’r dewrder gwleidyddol i gychwyn proses brys o newid o ran gwella canlyniadau ar gyfer plant y gofelir amdanynt.

 

Gwelliant 3 Jocelyn Davies

Amendment 3 Jocelyn Davies

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cyflwyno Bwrsariaeth Cenedlaethol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn cefnogi plant sy’n derbyn gofal sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch.

 

Calls on the Welsh Government to explore the feasibility of introducing a National Bursary, requiring local authorities to support looked after children who go into Higher Education.

Lindsay Whittle: I move amendment 3 in the name of Jocelyn Davies.

 

Lindsay Whittle: Cynigiaf welliant 3 yn enw Jocelyn Davies.

Deputy Minister, we do not take any issue with your two-part motion, but we do believe that emphasis needs to be placed on the important issue of local authorities continuing to take on their responsibilities after looked-after children have left care. The fact that these young people are often moved from one place to another, sometimes out of county and sometimes even across the border, usually results in much poorer prospects for them in going on to higher education and then on to professional training. They have far grimmer prospects than many other youngsters in the community. We have heard that the number of looked-after children in Wales is increasing. There could be a tendency among some local authorities to cut back on supporting vulnerable children and young people, rather than helping to finance their transition from care to independent living.

 

Ddirprwy Weinidog, nid ydym yn gwrthwynebu eich cynnig dwy-ran, ond rydym yn credu bod angen rhoi pwyslais ar y mater pwysig o awdurdodau lleol yn parhau i ymgymryd â’u cyfrifoldebau ar ôl i blant sy’n derbyn gofal adael gofal. Mae’r ffaith bod y bobl ifanc hyn yn aml yn cael eu symud o un lle i’r llall, weithiau y tu allan i’r sir ac weithiau hyd yn oed dros y ffin, fel arfer yn arwain at ragolygon llawer gwaeth ar eu cyfer wrth fynd ymlaen at addysg uwch ac yna ymlaen i hyfforddiant proffesiynol. Mae ganddynt ragolygon llawer mwy llwm na llawer o bobl ifanc eraill yn y gymuned. Yr ydym wedi clywed bod nifer y plant yng Nghymru sy’n derbyn gofal yn cynyddu. Gallai fod tueddiad ymhlith rhai awdurdodau lleol i dorri yn ôl ar gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, yn hytrach na helpu i ariannu eu symud o ofal i fyw’n annibynnol.

 

I am a little puzzled, Deputy Minister, because we believe that exploring the feasibility of a national bursary is worthwhile. I do not understand why you have rejected amendment 3. You mentioned in your speech that £2,000 was available; anyone who has had a young person go to university would know that that is not a huge amount. We need a clear commitment from the Welsh Government and Welsh local government that we will continue to act as corporate parents, even after children and young people have left foster care or residential care. These children and young people have a right to expect the same higher education opportunities as any other child or young person. My daughter went to the University of Bath for three years, to the University of Exeter for a year and to Harvard University in Boston for a year. How many young people leaving care would be able to afford to do that? I can ensure you that it was extremely difficult financially for our family. Feasibility is important, and that is why we need to discover the cost. That is the main reason we cannot support the Lib Dems’ amendments 5 and 6, however well they are worded, because we feel that we need costings before we can reallocate any finances. Decent parents never give up on a child, and looked-after children deserve that right too.

 

Yr wyf wedi drysu ychydig, Ddirprwy Weinidog, am ein bod yn credu bod archwilio dichonoldeb bwrsariaeth cenedlaethol yn werth chweil. Nid wyf yn deall pam yr ydych wedi gwrthod gwelliant 3. Soniasoch yn eich araith fod £2,000 ar gael; byddai unrhyw un sydd wedi gweld person ifanc yn mynd i’r brifysgol yn gwybod nad yw hynny’ n llawer iawn. Mae arnom angen ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru y byddwn yn parhau i weithredu fel rhieni corfforaethol, hyd yn oed ar ôl i blant a phobl ifanc adael gofal maeth neu ofal preswyl. Mae gan y plant a’r bobl ifanc hyn yr hawl i ddisgwyl yr un cyfleoedd addysg uwch ag unrhyw blentyn neu berson ifanc arall. Aeth fy merch i Brifysgol Caerfaddon am dair blynedd, i Brifysgol Exeter am flwyddyn ac i Brifysgol Harvard yn Boston am flwyddyn. Faint o bobl ifanc sy’n gadael gofal a fyddai’n gallu fforddio gwneud hynny? Gallaf eich sicrhau ei bod yn eithriadol o anodd yn ariannol ar gyfer ein teulu ni. Mae dichonoldeb yn bwysig, a dyna pam mae angen darganfod y gost. Dyna’r prif reswm na allwn gefnogi gwelliannau 5 a 6 y Democratiaid Rhyddfrydol, pa bynnag mor dda y maent wedi eu geirio, gan ein bod yn teimlo bod angen costiadau cyn y gallwn ailddyrannu unrhyw arian. Nid yw rhieni dechau yn rhoi’r gorau i ofalu am eu plant, ac mae plant sy’n derbyn gofal yn haeddu’r hawl honno hefyd.

 

Gwelliant 4 Peter Black

Amendment 4 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn gresynu mai dim ond 1 plentyn o bob 10 sy’n gadael gofal sy’n cael 5 TGAU gradd A* i C.

 

Notes with regret that just 1 in 10 children leaving care attains 5 A* to C grade GCSEs.

 

Gwelliant 5 Peter Black

Amendment 5 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau byw a ffïoedd dysgu llawn plant oedd yn derbyn gofal sy’n fyfyrwyr mewn prifysgol.

 

Calls on the Welsh government to pay the living costs and full tuition fees for looked after children attending university.

 

Gwelliant 6 Peter Black

Amendment 6 Peter Black

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Add as new point at end of motion:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y ddyletswydd gofal i 21 oed, pa un a yw’r plentyn yn aros mewn addysg ai peidio, er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.

 

Calls on the Welsh Government to extend duty of care to age 21, regardless of whether or not a child stays in education, in order to improve the life chances of looked after children.

Aled Roberts: I move amendments 4, 5 and 6 in the name of Peter Black.

 

Aled Roberts: Cynigiaf welliannau 4, 5 a 6 yn enw Peter Black.

We have no problem in supporting the motion as outlined. However, we also support the amendments tabled in the name of William Graham and in the name of Jocelyn Davies. While we recognise the improvements that have taken place over the last 10 years, we feel that there is a lack of aspiration with regard to our commitment, as corporate parents. It is a commitment that is underlined to as local authority members, but, at the moment, although the aspirations are there, the reality of the situation is that there is a complete lack of delivery.

 

Nid oes gennym unrhyw broblem o ran cefnogi’r cynnig fel y’i hamlinellwyd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cefnogi’r gwelliannau a gyflwynwyd yn enw William Graham a Jocelyn Davies. Er ein bod yn cydnabod y gwelliannau sydd wedi digwydd dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym yn teimlo bod diffyg dyhead o ran ein hymrwymiad, fel rhieni corfforaethol. Mae’n ymrwymiad sy’n cael ei danlinellu hefyd fel aelodau awdurdodau lleol, ond, ar hyn o bryd, er bod y dyheadau yno, realiti’r sefyllfa yw bod yna ddiffyg llwyr o ran darpariaeth.

 

Mark Isherwood mentioned the depressing statistics for the increase in looked-after children. Unless we make some progress against the current trends, the number of children involved will increase significantly as the percentages go up. The NSPCC has provided us with real evidence of the difficulties in which children in care find themselves. One of the most harrowing experiences for me was with Wrexham County Borough Council, when I participated in the authority’s response to the Waterhouse inquiry, which you mentioned in your opening remarks. Although there have been improvements, the statistics before us provide damning evidence that the improvement is not sustained and that it is insufficient. Therapeutic services in Wales are scarce, and without them, many children and young people will not have the support that they need to recover from the traumatic experiences that saw them placed in care in the first place.

 

Soniodd Mark Isherwood am yr ystadegau digalon o ran y cynnydd mewn plant sy’n derbyn gofal. Oni bai ein bod yn gwneud rhywfaint o gynnydd yn erbyn y tueddiadau cyfredol, bydd nifer y plant dan sylw yn cynyddu’n sylweddol wrth i’r canrannau gynyddu. Mae’r NSPCC wedi rhoi tystiolaeth go iawn o’r anawsterau y mae plant mewn gofal yn eu profi. Un o’r profiadau mwyaf dirdynnol i mi oedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, pan gymerais ran yn ymateb yr awdurdod i ymchwiliad Waterhouse, y soniasoch amdani yn eich sylwadau agoriadol. Er y bu gwelliannau, mae’r ystadegau ger ein bron yn darparu tystiolaeth ddamniol nad yw’r gwelliant yn cael ei gynnal a’i fod yn annigonol. Mae gwasanaethau therapiwtig yng Nghymru yn brin, a hebddynt, ni fydd llawer o blant a phobl ifanc yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i wella o’u profiadau trawmatig a’u rhoddodd mewn gofal yn y lle cyntaf.

 

4.30 p.m.

 

It is also the case that young people, unless those problems are addressed, are particularly vulnerable and will have a real, continued difficulty to adjust in later life. Therefore, they not only suffer as children, but they are the ones who will form problems in the system later on. There is an urgent need to look again at what we are doing.

Mae hefyd yn wir fod pobl ifanc, oni bai bod y problemau hynny yn cael sylw, yn arbennig o agored i niwed a byddant yn wynebu anawsterau go iawn i addasu yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, maent nid yn unig yn dioddef fel plant, ond nhw yw’r rhai fydd yn arwain at broblemau yn y system yn nes ymlaen. Mae angen brys i edrych eto ar yr hyn yr ydym yn ei wneud.

 

That is why we believe—I am saddened that you will not support the amendments this afternoon—that we need to raise our aspirations as a country. For example, at the moment, the Government assesses the number of children who attain five A* to C grades in the general population, yet the only real target as far as children in care are concerned is for a percentage to attain one GCSE pass. It is a case in which our aspirations are not sufficient. It is not easy; I realise that this matter has challenged Governments for many years, but unless we raise our aspirations, we will be here in the fifth, sixth and seventh Assemblies, discussing the same issues.

Dyna pam yr ydym yn credu—yr wyf yn drist na fyddwch yn cefnogi’r gwelliannau hyn y prynhawn yma—bod angen i ni godi ein dyheadau fel gwlad. Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn asesu nifer y plant sy’n cyrraedd pum gradd A* i C yn y boblogaeth gyffredinol, ac eto yr unig darged go iawn cyn belled ag y mae plant mewn gofal yn y cwestiwn yw i ganran ohonynt ennill un TGAU. Mae’n achos lle nad yw ein dyheadau yn ddigonol. Nid yw’n hawdd; yr wyf yn sylweddoli bod y mater hwn wedi herio llywodraethau ers blynyddoedd lawer, ond oni bai ein bod yn codi ein dyheadau, byddwn yma yn y pumed, chweched a’r seithfed Cynulliad yn dal i drafod yr un materion.

 

Our amendment 5 calls on the Government to improve the chances of looked-after children who go to university. It is not all bad news. I can remember sitting on a corporate parenting panel in Wrexham where we heard evidence from a young man who had been in a foster placement since the age of 10. He was one of the lucky ones who had gone on to university and had retained the support of his foster parents who, financially and in other ways, supported him through his time at university. It is right that we acknowledge that there are successes in the system, but I would submit that there is not a sufficient number of successes.

Mae ein gwelliant 5 yn galw ar y Llywodraeth i wella cyfleoedd plant sy’n derbyn gofal sy’n mynd i’r brifysgol. Nid yw’n newyddion drwg i gyd. Gallaf gofio eistedd ar banel rhianta corfforaethol yn Wrecsam lle y clywsom dystiolaeth gan ddyn ifanc a oedd wedi bod mewn lleoliad maeth ers 10 oed. Yr oedd yn un o’r rhai lwcus oedd wedi mynd ymlaen i’r brifysgol ac wedi cadw’r gefnogaeth o’i rieni maeth a oedd, yn ariannol ac mewn ffyrdd eraill, wedi ei gefnogi drwy ei amser yn y brifysgol. Mae’n iawn ein bod yn cydnabod bod yna lwyddiannau yn y system, ond byddwn yn dadlau nad oes nifer digonol o lwyddiannau.

 

It is also the case that local authorities, at the moment, can exercise wide discretion with regard to the level of support that they give to youngsters going on to higher education. There are occasions when authorities, such as those in north-east Wales, have provided support. However, as times get harder, there is a danger that that discretion will be exercised negatively.

Mae hefyd yn wir fod awdurdodau lleol, ar hyn o bryd, yn gallu arfer disgresiwn eang o ran lefel y gefnogaeth y maent yn ei roi i bobl ifanc sy’n mynd ymlaen i addysg uwch. Mae enghreifftiau lle mae awdurdodau, megis y rhai yng ngogledd-ddwyrain Cymru, wedi darparu cefnogaeth. Fodd bynnag, wrth i bethau fynd yn anoddach, mae perygl y bydd y disgresiwn hwnnw’n arwain at benderfyniadau negyddol.

 

It is not just a case of financial support, however. The reality is that there is a need for emotional support and there are instances of this in Wales, such as in Cardiff University, which has a support officer in place for children who have left care or who are leaving care. It is that kind of emotional support that the vast majority of youngsters turn to their parents for, but the parents will not be there in cases such as this. Therefore, there is a need for you to look at that as well.

Fodd bynnag, nid dim ond achos o gymorth ariannol ydyw. Y realiti yw bod yna angen am gefnogaeth emosiynol ac mae enghreifftiau o hwn yng Nghymru, megis ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae swyddog cymorth ar gyfer plant sydd wedi gadael gofal neu sy’n gadael gofal. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl ifanc yn troi at eu rhieni am y math yna o gefnogaeth emosiynol, ond ni fydd y rhieni yno mewn achosion fel hyn. Felly, mae angen i chi edrych ar hynny hefyd.

 

Finally, amendment 6 recognises the fact that children go beyond the age of 18, and we want to see the duty of care extended. We will give you every support that we can as a group for the work that you are carrying out, but we need to raise our aspirations.

Yn olaf, mae gwelliant 6 yn cydnabod y ffaith bod plant yn mynd y tu hwnt i 18 oed, ac yr ydym am weld y ddyletswydd gofal yn ehangu. Byddwn yn rhoi pob cymorth y gallwn fel grŵp o ran y gwaith yr ydych yn ei wneud, ond mae angen codi ein dyheadau.

 

Jenny Rathbone: All children are all our responsibility; that is one of the hallmarks of civilised society. Therefore, I welcome this debate to emphasise the important role that councillors, social workers and senior officers have in ensuring that vulnerable children are properly looked after. There are specific concerns that need to be addressed in Cardiff. It is not a party political matter, but it is of considerable concern that there are huge delays at the moment in Cardiff in the initial assessment of children who have been referred where there are causes for concern. There are also considerable delays before the interview by a social worker takes place where those initial concerns have been affirmed.

Jenny Rathbone: Mae gennym gyfrifoldeb dros bob plentyn; dyna un o nodweddion cymdeithas waraidd. Felly, croesawaf y ddadl hon i bwysleisio rôl bwysig cynghorwyr, gweithwyr cymdeithasol ac uwch swyddogion o ran sicrhau bod plant sy’n agored i niwed yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Mae pryderon penodol y mae angen rhoi sylw iddynt yng Nghaerdydd. Nid yw’n fater pleidiol, ond mae’n bryder sylweddol bod yna oedi mawr ar hyn o bryd yng Nghaerdydd cyn cael asesiad cychwynnol ar gyfer plant sydd wedi cael atgyfeiriad lle mae achosion o bryder. Mae yna hefyd oedi sylweddol cyn i’r cyfweliad gan weithiwr cymdeithasol ddigwydd lle mae’r pryderon cychwynnol hynny wedi cael eu cadarnhau.

 

In terms of the corporate parenting role that councillors must have as part of their leadership role in the community, my particular concern arises from conversations that I have had with young people who were the subject of 15 different placements. Despite coming into care at a young age, they were never considered for adoption, or so they tell me. We need to look carefully at why more children are not considered for adoption when it becomes clear that their parents will not be able to look after them.

O ran y rôl rhianta corfforaethol y mae’n rhaid i gynghorwyr ei gael fel rhan o’u rôl o fod yn arweinwyr o fewn y gymuned, mae fy mhryder penodol yn deillio o sgyrsiau a gefais gyda phobl ifanc a oedd wedi byw mewn 15 o leoliadau gwahanol. Er gwaetha’r ffaith eu bod yn ifanc pan aethant i mewn i’r system gofal, ni chawsant eu hystyried ar gyfer mabwysiadu, neu dyna a ddywedasant wrthyf. Mae angen i ni ystyried yn ofalus pam nad oes mwy o blant yn cael eu hystyried ar gyfer mabwysiadu pan ei fod yn glir na fydd eu rhieni yn gallu edrych ar eu hôl.

 

It is obviously good news that the number of children adopted in Wales has increased by 10 per cent to 252 last year. That is in contrast with the falling figures in England. However, if we look at the figures more closely, fewer than five of those children were adopted as babies. This is because the average time taken to go through the adoption process is two and a half years and, in the case of a baby, that is a lifetime. Only one in 10 of the children adopted in Wales were adopted by their former foster carer. Imagine what it would be like for a baby to have to say goodbye to the foster carer who, as far as they were concerned, was their parent. They would not have known anybody else.

Mae’n amlwg yn newyddion da bod nifer y plant a fabwysiadwyd yng Nghymru wedi cynyddu 10 y cant i 252 y llynedd. Mae hynny mewn gwrthgyferbyniad â’r ffigurau yn Lloegr, sy’n disgyn. Fodd bynnag, os edrychwn ar y ffigurau yn agosach, cafodd llai na phump o’r plant hynny eu mabwysiadu fel babanod. Y rheswm am hwn yw ei fod yn cymryd dwy flynedd a hanner ar gyfartaledd i fynd drwy’r broses fabwysiadu ac, mewn achos baban, mae hynny’n oes. Cafodd dim ond un o bob 10 o’r plant a fabwysiadwyd yng Nghymru eu mabwysiadu gan eu cyn gofalwr maeth. Dychmygwch sut beth fyddai i fabi orfod dweud hwyl fawr i’r gofalwr maeth a oedd, cyn belled ag y maent yn y cwestiwn, yn rhiant iddynt. Ni fyddent wedi adnabod unrhyw un arall.

 

I would draw your attention to something that has been done through Coram, which is a highly respected organisation for children, namely a process called concurrent planning. One local authority in the UK has managed to reduce the average adoption time to four months, once the decision has been made that the child is to be adopted. I would suggest that that is because they have a really strong partnership with Coram over concurrent planning. This means that, where there is cause for concern that a family may not be able to look after a child, that child is paired from birth with a foster family that is deemed suitable to adopt. It means that when the final decision is made that the birth family cannot look after the child and take on that responsibility, there is a seamless transition for the child while the necessary legal procedures are gone through. The child remains with the foster parents, who then become the adoptive parents. I would really commend this process, which is not happening at all in Wales, and which it would not be beyond the bounds of possibility for us to implement. It has been shown to work elsewhere and therefore would be in the best interests of very young children.

Hoffwn dynnu eich sylw at rywbeth sydd wedi cael ei wneud drwy Coram, sy’n sefydliad uchel ei barch ar gyfer plant, sef proses a elwir yn gynllunio cydamserol. Mae un awdurdod lleol yn y DU wedi llwyddo i leihau cyfartaledd yr amser a gymerir i fabwysiadu plentyn i bedwar mis, unwaith y bydd y penderfyniad wedi ei wneud y dylai’r plentyn gael ei fabwysiadu. Byddwn yn awgrymu bod hynny oherwydd ei bartneriaeth gref iawn gyda Coram dros gynllunio cydamserol. Golygir hyn, lle mae achos i bryderu na fydd teulu yn gallu gofalu am blentyn, bod y plentyn yn cael ei baru o enedigaeth gyda theulu maeth sy’n addas i fabwysiadu. Golygir hynny, pan fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud na all y teulu biolegol ofalu am y plentyn a chymryd y cyfrifoldeb hwnnw, mae cyfnod pontio di-dor ar gyfer y plentyn tra bod y gweithdrefnau cyfreithiol angenrheidiol yn cael eu cwblhau. Mae’r plentyn yn aros gyda’r rhieni maeth, sydd wedyn yn dod yn rhieni drwy fabwysiadu. Byddwn yn wir yn cymeradwyo’r broses hon, nad yw’n digwydd o gwbl yng Nghymru, er y byddai’n gwbl bosibl i ni ei weithredu. Mae tystiolaeth bod hwn wedi gweithio mewn mannau eraill, ac felly byddai er budd plant ifanc iawn.

 

Nick Ramsay: I find myself in the worrying position of agreeing with everything that Jenny Rathbone said; Jeff Cuthbert said that it would happen sooner or later. She made some very good points and I am pleased that the UK coalition Government has also stressed the importance of ensuring that more children are adopted. I will not go over the ground that Jenny Rathbone covered, very movingly, on the importance of getting the adoption procedure right with regard to the fostering element.

Nick Ramsay: Yr wyf yn canfod fy hun mewn sefyllfa sy’n peri pryder, gan fy mod yn cytuno â phopeth a ddywedodd Jenny Rathbone; dywedodd Jeff Cuthbert y byddai’n digwydd yn hwyr neu’n hwyrach. Gwnaeth rai pwyntiau da iawn ac yr wyf yn falch bod Llywodraeth glymblaid y DU hefyd wedi pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod mwy o blant yn cael eu mabwysiadu. Nid wyf am fynd dros yr hyn a drafodwyd, yn deimladwy iawn, gan Jenny Rathbone ar bwysigrwydd cael y weithdrefn mabwysiadu yn iawn o ran yr elfen maethu.

 

I am pleased that the Government has brought forward this debate today, as opened by the Deputy Minister. I am slightly baffled as to why so many of the amendments are being rejected. I support the motion as it stands and will be voting for it, but I think that the amendments would add to the motion, with the exception, as Mark Isherwood said at the start, of amendment 5, which we will not be supporting, purely because we think that there is a conflict with amendment 3 on the review of the national bursary element for corporate parenting, which we wish to support. We think that that covers amendment 5.

Yr wyf yn falch bod y Llywodraeth wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, fel y’i hagorwyd gan y Dirprwy Weinidog. Yr wyf yn drysu braidd ynghylch pam y mae cymaint o’r gwelliannau yn cael eu gwrthod. Cefnogaf y cynnig fel y mae, a byddaf yn pleidleisio o’i blaid, ond credaf y byddai’r gwelliannau yn ychwanegu at y cynnig, ac eithrio, fel y dywedodd Mark Isherwood ar y dechrau, gwelliant 5, na fyddwn yn ei gefnogi, dim ond oherwydd ein bod yn credu bod yna wrthdaro gyda gwelliant 3 ar yr adolygiad o’r elfen bwrsari cenedlaethol ar gyfer rhianta corfforaethol, yr ydym yn dymuno ei gefnogi. Rydym yn credu bod hynny’n ymdrin â gwelliant 5.

 

A number of Assembly Members have been involved with local authorities, as I have in the past. We are probably more aware than most of the important role played by local authorities in corporate parenting. I know that we all have a role to play here, to an extent, but it is the local authorities that deliver corporate parenting and I do not think that local authorities have any responsibility greater than that of looking after children. I could go into numerous statistics, many of which have been mentioned, but you will be pleased to know that I will not do so, because behind each statistic there is a human being and, in this debate, the statistics probably distract, to a certain extent. We need an individual approach to each person that we are talking about. Things have moved on a lot from years gone by when there was much more of an institutionalised approach to looked-after children and corporate parenting—thank goodness, those days are gone. We now have a much greater awareness of the individual needs of different children; we are aware that each child will develop differently and will have different needs.

Mae nifer o Aelodau Cynulliad wedi ymwneud ag awdurdodau lleol, fel yr wyf wedi yn y gorffennol. Mae’n debyg ein bod yn fwy ymwybodol na’r rhan fwyaf o’r rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol o ran rhianta corfforaethol. Gwn fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae yma, i raddau, ond yr awdurdodau lleol sy’n darparu rhianta corfforaethol ac nid wyf yn credu bod gan awdurdodau lleol unrhyw gyfrifoldeb sy’n fwy pwysig na gofalu am blant. Gallwn adrodd nifer o ystadegau, y mae llawer ohonynt wedi eu crybwyll yn barod, ond byddwch yn falch o wybod nad wyf am wneud hynny, oherwydd bod person y tu ôl i bob ystadegyn ac, yn y ddadl hon, mae’n debygol y byddai’r ystadegau’n tynnu ein sylw, i raddau. Mae arnom angen ddull unigol i bob person yr ydym yn sôn amdano. Mae pethau wedi symud ymlaen llawer o gymharu â’r gorffennol pan yr oedd agwedd llawer mwy sefydliadol i blant sy’n derbyn gofal a rhianta corfforaethol—diolch byth, mae’r dyddiau hynny ar ben. Erbyn hyn, rydym yn llawer mwy ymwybodol o anghenion unigol gwahanol blant; rydym yn ymwybodol y bydd pob plentyn yn datblygu yn wahanol a bydd ganddynt anghenion gwahanol.

 

An aspect that I mentioned to the Deputy Minister in my intervention is that only 1 per cent of looked-after children are going on to higher education. There is clearly something wrong there. There are also things wrong in other areas that need to be addressed. We need tailored intervention; we need an individualised approach. We must accept that, according to the statistics, more than half of the children who go into care are there as a result of some form of neglect. Therefore, a huge number of children are in care because of neglect. Clearly, they will benefit from a personalised approach to their problems and a personalised solution that will stand them in good stead for future.

Un agwedd a godais gyda’r Dirprwy Weinidog wrth i fi ymyrryd oedd mai dim ond 1 y cant o blant sy’n derbyn gofal sy’n mynd ymlaen at addysg uwch. Mae’n amlwg bod rhywbeth o’i le yno. Mae yna hefyd bethau o chwith mewn meysydd eraill y mae angen rhoi sylw iddynt. Mae arnom angen ymyrraeth wedi’i deilwra; mae arnom angen ddull unigol. Rhaid inni dderbyn, yn ôl yr ystadegau, bod mwy na hanner y plant sy’n mynd i mewn i ofal yno o ganlyniad i ryw fath o esgeulustod. Felly, mae nifer fawr o blant mewn gofal oherwydd esgeulustod. Yn amlwg, byddant yn elwa ar ymagwedd bersonol tuag at eu problemau ac ateb personol a fydd yn eu paratoi’n dda ar gyfer y dyfodol.

 

I am pleased that the Welsh Government has brought forward this debate. In supporting the bulk of the amendments and the motion, we have to accept that—while there is a lot of good practice in many local authorities, as Aled Roberts described earlier—half of the local authorities, on the basis of the evidence that we have here, are not meeting Estyn’s standards. You could say that they are only missing them by a small amount, but that is clearly not good enough. I hope that this debate will go some way towards addressing that problem and help us to understand why some local authorities are not meeting the standards for corporate parents as well as they should.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r ddadl hon. Wrth gefnogi’r rhan fwyaf o’r gwelliannau a’r cynnig, mae’n rhaid i ni dderbyn—er bod llawer o arferion da mewn llawer o awdurdodau lleol, fel y disgrifiwyd gan Aled Roberts yn gynharach—nad yw hanner yr awdurdodau lleol, ar sail y dystiolaeth sydd gennym yma, yn bodloni safonau Estyn. Gallech ddweud eu bod bron â chyrraedd y safonau, ond yn amlwg, nid yw hynny’n ddigon da. Gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at fynd i’r afael â’r broblem honno ac yn ein helpu i ddeall pam nad yw rhai awdurdodau lleol yn bodloni’r safonau ar gyfer rhieni corfforaethol gystal ag y dylent.

 

I mentioned earlier that Assembly Members who have been involved with local authorities, and all Members who have spoken, are well aware of the needs in relation to corporate parenting. However, that is probably not the case across the board. We often talk about good practice and we need to ensure that councillors across the board are aware of the importance of their role as corporate parents, and their role in ensuring that their local authority is meeting the aspirations set out by the Minister. Our amendments, and all the other amendments—bar the fifth one—support those aspirations.

Soniais yn gynharach fod Aelodau Cynulliad sydd wedi bod yn gysylltiedig ag awdurdodau lleol, a phob Aelod sydd wedi siarad, yn ymwybodol iawn o anghenion o ran rhianta corfforaethol. Fodd bynnag, nid yw hynny’n debygol o fod yn wir yn gyffredinol. Byddwn yn aml yn siarad am arferion da ac mae angen i ni sicrhau bod pob cynghorydd yn ymwybodol o bwysigrwydd eu rôl fel rhieni corfforaethol, a’u rôl o ran sicrhau bod eu hawdurdod lleol yn bodloni’r dyheadau a bennwyd gan y Gweinidog. Mae ein gwelliannau, a’r holl welliannau eraill—heblaw’r pumed—yn cefnogi’r dyheadau hynny.

 

Deputy Minister, by supporting these amendments and by changing the position that you set out earlier, you would send a clear message to local authorities on the importance of corporate parenting. We would all get a little closer to the ultimate goal that we want to achieve, which is for us not to be here in the fourth, fifth, sixth or fiftieth Assembly—well, we will not be here in the fiftieth Assembly, but future Assembly Members will be—constantly going over the same ground. We want to achieve progress.

Ddirprwy Weinidog, drwy gefnogi’r gwelliannau hyn a thrwy newid y sefyllfa y soniasoch amdano yn gynharach, byddech yn anfon neges glir i awdurdodau lleol ar bwysigrwydd rhianta corfforaethol. Byddem i gyd ychydig yn agosach at y nod yr ydym am ei gyflawni, sef sicrhau nad ydym yma yn y pedwerydd, pumed, chweched neu hanner canfed Cynulliad—wel, ni fyddwn yma yn yr hanner canfed Cynulliad, ond bydd Aelodau Cynulliad y dyfodol—yn mynd dros yr un tir. Yr ydym am gael cynnydd.

 

Julie Morgan: I congratulate the Deputy Minister for children on what has been achieved in Wales. There have been a lot of steps forward, but we all know that there is a long way to go. The reason why there is a long way to go is because looked-after children are the most vulnerable, damaged children in our society. Many of them come into care and are looked after when they are older. Many have been through traumatic experiences; therefore, it is not surprising that some of the outcomes are so poor. However, it is good to hear a commitment to trying to improve those outcomes here today.

Julie Morgan: Yr wyf yn llongyfarch y Dirprwy Weinidog dros blant ar yr hyn a gyflawnwyd yng Nghymru. Cafwyd nifer o gamau ymlaen, ond rydym i gyd yn gwybod bod yna dipyn o ffordd i fynd. Y rheswm pam bod tipyn o ffordd i fynd yw oherwydd mai plant sy’n derbyn gofal yw’r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac wedi dioddef. Mae llawer ohonynt yn dod i mewn i ofal ac yn derbyn gofal pan fyddant yn hŷn. Mae llawer wedi bod trwy brofiadau trawmatig; felly, nid yw’n syndod bod rhai o’r canlyniadau mor wael. Fodd bynnag, mae’n dda clywed ymrwymiad i geisio gwella’r canlyniadau hynny yma heddiw.

 

I am pleased that the Government welcomes the children’s commissioner’s review of advocacy services in Wales. I want to use this debate to highlight the issue of private children’s homes and residential schools in Wales, as they have no requirement for a visiting advocacy service. That is an issue of great concern. It is an issue of concern for Tros Gynnal, the advocacy service based in Cardiff. The large rise in the number of children in care has already been mentioned: over the past 10 years, the number has risen by 44 per cent. The Care and Social Services Inspectorate Wales notes that there are 2,213 children and young people living away from home in residential homes, residential special schools, boarding schools and education colleges. Many of those children are placed a long way away from their homes. The CSSIW report shows a trend for smaller residential homes to be taken over by large companies, which results in disruption. There is also a downward trend in the qualifications of the people who manage the small residential homes.

Yr wyf yn falch fod y Llywodraeth yn croesawu adolygiad y comisiynydd plant o wasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. Rwyf am ddefnyddio’r ddadl hon i dynnu sylw at y mater o gartrefi preifat i blant ac ysgolion preswyl yng Nghymru, gan nad oes unrhyw ofyniad o ran ymweliad gan wasanaeth eiriolaeth. Mae hwnnw’n fater o bryder mawr. Mae’n fater o bryder i Tros Gynnal, y gwasanaeth eiriolaeth a leolir yng Nghaerdydd. Mae’r cynnydd mawr yn y nifer o blant mewn gofal eisoes wedi ei grybwyll: dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r nifer wedi cynyddu gan 44 y cant. Mae Arolygiaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru yn nodi bod 2,213 o blant a phobl ifanc yn byw oddi cartref mewn cartrefi preswyl, ysgolion preswyl arbennig, ysgolion preswyl a cholegau addysg. Mae llawer o’r plant hynny yn cael eu lleoli yn bell i ffwrdd o’u cartrefi. Mae’r adroddiad AGGCC yn dangos bod cartrefi preswyl llai yn tueddu i gael eu cymryd drosodd gan gwmnïau mawr, sy’n arwain at ansefydlogrwydd. Mae yna hefyd duedd ar i lawr o ran cymwysterau’r bobl sy’n rheoli’r cartrefi preswyl bach.

4.45 p.m.

 

I want to emphasise in this debate that this is a hole that should be filled by the Government. The children’s commissioner will probably address this issue in his review, but it should certainly be a requirement of registration and inspection that there is an independent visiting advocacy service. It should also be a requirement of contract with local authorities, and local safeguarding boards should also be aware of the children who live in private residential homes in their area. These children often live in rural areas and come from long distances away, so it is important that they have someone to tell if something is going wrong in the setting.

 

Rwyf am bwysleisio yn y ddadl bod hwn yn dwll y dylid ei lenwi gan y Llywodraeth. Mae’n debyg y bydd y comisiynydd plant yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn ei adolygiad, ond dylai yn sicr fod yn un o ofynion cofrestru ac arolygu bod yna wasanaeth eiriolaeth ymweld annibynnol. Dylai hefyd fod yn un o ofynion contract gydag awdurdodau lleol, a dylai byrddau diogelu lleol hefyd fod yn ymwybodol o’r plant sy’n byw mewn cartrefi preswyl preifat yn eu hardal. Mae’r plant hyn yn aml yn byw mewn ardaloedd gwledig ac yn dod o bellteroedd maith i ffwrdd, felly mae’n bwysig bod ganddynt rywun i ddweud wrthynt os oes rhywbeth yn mynd o’i le yn y lleoliad.

 

I hope that the Government takes this issue on board. It was one of the main recommendations of the Waterhouse inquiry, which has been mentioned many times today. That was a landmark inquiry, and we should follow up on the recommendation that independent advocacy services should go into these residential settings.

 

Gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Yr oedd yn un o brif argymhellion ymchwiliad Waterhouse, sydd wedi cael ei grybwyll sawl gwaith heddiw. Dyna oedd ymchwiliad o bwys, a dylem ddilyn i fyny ar argymhelliad y dylai gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ymweld â’r lleoliadau preswyl hyn.

Joyce Watson: It was only a fortnight ago that we were debating the report on children’s services in Pembrokeshire, which was a devastating eye-opener. It is to the credit of the Deputy Minister that that report was commissioned. Our responsibility now is to put right what has gone wrong, and the title given to this debate this afternoon should set some alarm bells ringing—corporate parenting responsibilities for looked-after children. When something is everyone’s responsibility, all too often in practice it becomes no-one’s responsibility.

 

Joyce Watson: Dim ond bythefnos yn ôl yr oeddem yn trafod yr adroddiad ar wasanaethau plant yn sir Benfro, a oedd yn agoriad llygad ysgytwol. Mae’n glod i’r Dirprwy Weinidog fod yr adroddiad hwnnw wedi ei gomisiynu. Ein cyfrifoldeb ni yn awr yw unioni beth sydd wedi mynd o’i le, a dylai’r teitl a roddir i’r ddadl y prynhawn yma seinio rhybudd—cyfrifoldebau corfforaethol rhianta ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Pan fydd rhywbeth yn gyfrifoldeb i bawb, yn rhy aml yn ymarferol mae’n dod yn gyfrifoldeb i neb.

The fundamental principle must be that the child is the focus; the child needs to be at the very centre of all our concerns. Everyone in local authority needs to be involved; it is not just the responsibility of lead members or directors of children’s services. The adults who the children and young people see every day—people like the carers, teachers and after-school activity leaders—must equally be involved in the decisions that are made about children. They deserve to have their professionalism respected, and by giving them respect, we are taking an important step in respecting the children and young people. I bring that to the table today, because what happened in Pembrokeshire, which the report highlights, was that people were not engaged; the people who I have just mentioned were not supported and, in turn, they could not support the children.

 

Mae’n rhaid i’r egwyddor sylfaenol osod y plentyn yn ganolbwynt; rhaid i’r plentyn fod wrth wraidd ein holl waith. Mae angen i bawb mewn awdurdod lleol fod yn rhan; nid dim ond cyfrifoldeb aelodau arweiniol neu gyfarwyddwyr gwasanaethau plant ydyw. Rhaid i’r oedolion y mae’r plant a phobl ifanc yn eu gweld bob dydd—pobl fel gofalwyr, athrawon ac arweinwyr gweithgareddau ar ôl ysgol—hefyd fod yn rhan o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am blant. Maent yn haeddu cael eu parchu am eu proffesiynoldeb, a thrwy roi parch iddyn nhw, rydym yn cymryd cam pwysig i barchu plant a phobl ifanc. Rwy’n codi’r pwynt hwnnw heddiw oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yn sir Benfro, fel y nodir yn yr adroddiad, oedd nad oedd pobl yn cymryd rhan; ni chefnogwyd y bobl yr wyf newydd eu crybwyll ac, o ganlyniad, nid oeddent yn gallu cefnogi’r plant.

 

I fully understand that this debate is about looked-after children and corporate parenting. However, it is also the case that if adults who are in a position of caring for children, in whatever setting, do not feel empowered and able to raise the alarm or look after those children in a way that they would choose, it would be worthwhile for us in the Assembly to look at widening the definition of what we mean by a looked-after child. Do we simply mean a child who is in care or should we mean a child who, at a particular point in time, is being cared for by others? Rhetoric will not get anything done. What we need is a strategy, and I thank the Deputy Minister for saying that she has a strategy and that it is outlined. However, there is a programme currently in place for training counsellors. I was a councillor in Pembrokeshire for 13 years, and, over the years, the council has found it difficult to engage councillors on the issue of corporate parenting. We must, therefore, not only introduce statutory training for all councillors so that they realise their responsibilities, and those of the local authority and its officers, but I would also ask that the Minister for Local Government and Communities, Carl Sargeant, considers adding guidance to local government on this issue in the forthcoming local government Bill.

 

Yr wyf yn deall bod y ddadl hon ynghylch plant sy’n derbyn gofal a rhianta corfforaethol. Fodd bynnag, mae hefyd yn wir os nad yw oedolion sydd mewn sefyllfa o ofalu am blant, ym mha bynnag leoliad, yn teimlo wedi’u grymuso ac yn gallu galw am help neu ofalu am y plant hynny mewn ffordd y byddent yn ei dewis, byddai’n werth chweil i ni yn y Cynulliad edrych ar ehangu’r diffiniad o’r hyn a olygir gan blentyn sy’n derbyn gofal. A ydym yn syml yn golygu plentyn sydd mewn gofal neu a ddylem olygu plentyn sydd, ar bwynt penodol mewn amser, yn derbyn gofal gan eraill? Ni fydd rhethreg yn cyflawni dim. Yr hyn yr ydym ei angen yw strategaeth, ac yr wyf yn diolch i’r Dirprwy Weinidog am ddweud bod ganddi strategaeth a’i bod yn cael ei hamlinellu. Fodd bynnag, mae rhaglen ar hyn o bryd ar waith er mwyn hyfforddi cynghorwyr. Roeddwn i’n gynghorydd yn sir Benfro am 13 mlynedd, a, dros y blynyddoedd, mae’r cyngor wedi ei chael yn anodd ymgysylltu cynghorwyr ar fater rhianta corfforaethol. Mae’n rhaid i ni, felly, nid yn unig gyflwyno hyfforddiant statudol ar gyfer pob cynghorydd fel eu bod yn sylweddoli eu cyfrifoldebau, a rhai’r awdurdod lleol a’i swyddogion, ond byddwn hefyd yn gofyn bod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, yn ystyried ychwanegu canllawiau i lywodraeth leol ar y mater hwn yn y Bil llywodraeth leol sydd ar y gweill.

 

What we are aiming to do here is nothing less than ridding local government of a culture of complacency. What we want is a culture of concern and a culture of responsibility, which is why, even though the Plaid Cymru and Liberal Democrat amendments have merit, they are not appropriate to a motion that is concerned with changing a mindset, with a new philosophy of service that needs to pervade all of our dealings. Of course, educational attainment is an indicator of success, but it is not the only one. That is why the motion’s reference to the improvement of life chances is better, because it is wider and not limited to educational attainment alone. I and many others believe passionately that advocacy is central to a strategy of improving the lot of looked-after children, yet rhetoric gets nothing done. The fact is that all local authorities must have systems in place to ensure that looked-after children can access an independent advocate when one is needed. Unfortunately, saying it does not make it happen, and rhetoric must become reality. In 2012, the Children’s Commissioner for Wales, Keith Towler, will report on the provision of advocacy for looked-after children. When that report comes out, I am sure that we will take the appropriate action. We need to start changing the culture today; there can hardly be a greater a challenge.

 

Yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud yma yw dim llai na chael gwared ar ddiwylliant o fod yn hunanfodlon o lywodraeth leol. Yr hyn yr ydym ei eisiau yw diwylliant o ofal a diwylliant o gyfrifoldeb, a dyna pam, er bod gan ddiwygiadau Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol rinweddau da, nad ydynt yn briodol i gynnig sy’n ymwneud â newid meddylfryd, gydag athroniaeth newydd o wasanaeth sydd angen treiddio drwy ein holl drafodion. Wrth gwrs, mae cyrhaeddiad addysgol yn arwydd o lwyddiant, ond nid dyma’r unig un. Dyna pam mae cyfeiriad y cynnig at wella cyfleoedd bywyd yn well, oherwydd ei fod yn ehangach ac nid yw’n gyfyngedig i gyrhaeddiad addysgol yn unig. Yr wyf fi a nifer eraill yn credu’n angerddol fod eiriolaeth yn ganolog i strategaeth o wella tynged plant sy’n derbyn gofal, ac eto nid yw rhethreg yn cyflawni dim. Y ffaith yw bod rhaid i bob awdurdod lleol gael systemau ar waith i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn gallu cael mynediad at eiriolwr annibynnol pan fydd ei angen. Yn anffodus, nid yw dweud hynny’n gwneud iddo ddigwydd, ac mae’n rhaid i rethreg ddod yn realiti. Yn 2012, bydd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, yn adrodd ar ddarparu eiriolaeth ar gyfer plant y gofelir amdanynt. Pan ddaw’r adroddiad hwnnw allan, yr wyf yn sicr y byddwn yn cymryd y camau priodol. Mae angen i ni ddechrau newid y diwylliant heddiw; gall prin fod mwy o her.

 

The Deputy Minister for Children and Social Services (Gwenda Thomas): I do not have the time to comment in detail on all contributions, but I will reflect on the Record of today’s debate. Mark Isherwood, you mentioned a lot of figures, which is a good thing. I have had a look at the paper that you referred to, and who is to say that a child in care does not need to be there? That is a serious issue, and one that focuses the mind. On looked-after children in the youth justice system, in March of this year, there were 95 Welsh young people in custody, compared with 164 in 2006-07. However, it is estimated that between 25 and 30 per cent of those receiving custodial sentences are looked-after children, which amounts to between 24 and 29 children, each of whom should be of concern to us.

 

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Nid oes gennyf yr amser i wneud sylwadau manwl ar bob cyfraniad, ond byddaf yn myfyrio ar y Cofnod o drafodaeth heddiw. Mark Isherwood, yr oeddech yn sôn am lawer o ffigurau, sy’n beth da. Rwyf wedi cael golwg ar y papur y cyfeiriasoch ato, a phwy sydd i ddweud nad oes angen i blentyn mewn gofal fod yno? Mae hynny’n fater difrifol ac yn un sy’n canolbwyntio’r meddwl. O ran plant sy’n derbyn gofal a’r system cyfiawnder ieuenctid, ym mis Mawrth eleni, roedd 95 o bobl ifanc o Gymru yn y ddalfa, o’i gymharu â 164 yn 2006-07. Fodd bynnag, amcangyfrifir bod rhwng 25 a 30 y cant o’r rhai sy’n derbyn dedfrydau o garchar yn blant y gofelir amdanynt, sef rhwng 24 a 29 o blant, a dylai pob un ohonynt fod yn destun pryder i ni.

 

Lindsay Whittle and Jenny Rathbone talked about local authority performance, and I take their message on board. Jenny also talked about adoption, and she will know that we are committed to a national adoption agency as part of ‘Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action’. Do we need 23 agencies? Is having that many an impediment to more effective permanent placement of children? Aled Roberts talked about the importance of effective delivery, and I think that he was referring to early intervention. Early intervention is crucial, as is support for families. There are excellent examples of integrated family support teams being effective in Wrexham—I am sure that he is aware of them—along with Flying Start and Families First.

 

Siaradodd Lindsay Whittle a Jenny Rathbone am berfformiad yr awdurdodau lleol, ac yr wyf yn derbyn eu neges. Siaradodd Jenny hefyd am fabwysiadu, a bydd yn gwybod ein bod wedi ymrwymo i asiantaeth fabwysiadu genedlaethol fel rhan o ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer Gweithredu’. A oes angen 23 o asiantaethau? A yw cael cynifer â hynny yn rhwystr i leoli plant yn barhaol yn fwy effeithiol? Soniodd Aled Roberts am bwysigrwydd cyflawni effeithiol, ac yr wyf yn meddwl taw cyfeirio at ymyrraeth gynnar yr oedd. Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol, yn yr un modd â chymorth i deuluoedd. Mae enghreifftiau rhagorol o dimau integredig cymorth i deuluoedd yn gweithio’n effeithiol yn Wrecsam—yr wyf yn sicr ei fod yn ymwybodol ohonynt—ar y cyd â Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf.

 

Nick Ramsay’s comments on improvements made in the last decade are welcome. He shared with us his realisation of the challenge that lies ahead for us. Julie Morgan took that contribution further by saying that there is a long way to go and much more to do. She mentioned advocacy and residential settings, and I am delighted that we have been able to move forward with the registration of managers of children’s homes, which has been a positive move.

 

Croesewir sylwadau Nick Ramsay ar welliannau a wnaed yn ystod y degawd diwethaf. Rhannodd gyda ni ei ddealltwriaeth o’r her sydd o’n blaenau i ni. Cymerodd Julie Morgan y cyfraniad hwnnw ymhellach gan ddweud fod yna ffordd bell i fynd a llawer mwy i’w wneud. Soniodd am eiriolaeth a lleoliadau preswyl, ac yr wyf wrth fy modd ein bod wedi gallu symud ymlaen gyda chofrestru rheolwyr cartrefi plant, sydd wedi bod yn gam cadarnhaol.

Joyce Watson sent a very strong message about corporate parenting, whistleblowing and advocacy. If we were to pitch our expectations and hopes for looked-after children at the same level as those that we have for our own children—I think that that is what Lindsay Whittle was saying—the life chances of looked-after children would be improved immeasurably. My suggestion is that we do just that. We must declare our commitment to protecting, nurturing and providing for looked-after children to the same standards that we set for our own families. We have to be realistic about the nature of the challenge. Looked-after children and young people will have already experienced considerable trauma and disadvantage before they arrive at the door of social services departments. That simply means that we have to work even harder to meet our obligations to look after these children and young people. I know that I can rely on the support of every Member here to help to transform the experience and life chances of looked-after children.

Anfonodd Joyce Watson neges gref iawn am rianta corfforaethol, chwythu’r chwiban ac eiriolaeth. Pe baem yn sôn am ein disgwyliadau a’n gobeithion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ar yr un lefel â’r rhai sydd gennym ar gyfer ein plant ein hunain—credaf mai dyna yr oedd Lindsay Whittle yn ei ddweud—byddai cyfleoedd bywyd plant y gofelir amdanynt yn cael eu gwella’n anfesuradwy. Fy awgrym i yw ein bod yn gwneud hynny. Mae’n rhaid i ni ddatgan ein hymrwymiad i ddiogelu, meithrin a darparu ar gyfer plant y gofelir amdanynt i’r un safonau a osodwn ar gyfer ein teuluoedd ein hunain. Mae’n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â natur yr her. Bydd plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal eisoes wedi profi cryn drawma ac anfantais cyn iddynt gyrraedd drws adrannau gwasanaethau cymdeithasol. Mae hynny’n syml yn golygu bod yn rhaid inni weithio’n galetach fyth i gyflawni ein rhwymedigaethau i ofalu am y plant a phobl ifanc hyn. Rwy’n gwybod y gallaf ddibynnu ar gefnogaeth pob Aelod yma i helpu i drawsnewid profiad a chyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.

 

I welcome your constructive challenge, but I want you to join me in accepting our share of responsibility as corporate parents. That duty is shared with local authority members and others, but let us, in this Chamber, provide the kind of strong leadership that is needed to continue the considerable progress that we have made in meeting the challenges of improving outcomes for looked-after children. Let us build on Sir Ronald’s legacy to ensure that we truly deliver and improve the life chances of our looked-after children.

 

Yr wyf yn croesawu eich her adeiladol, ond rwyf am i chi ymuno â mi i dderbyn ein cyfran o’r cyfrifoldeb fel rhieni corfforaethol. Mae’r ddyletswydd yn cael ei rhannu gydag aelodau awdurdodau lleol ac eraill, ond gadewch i ni, yn y Siambr hon, ddarparu’r math o arweiniad cryf sydd ei angen i barhau â’r cynnydd sylweddol a wnaed gennym o ran cwrdd â’r heriau o wella canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Gadewch i ni adeiladu ar waddol Syr Ronald er mwyn sicrhau ein bod yn wirioneddol gyflawni a gwella cyfleoedd bywyd ein plant sy’n derbyn gofal.

 

The Deputy Presiding Officer: The proposal is to agree amendment 1. Is there any objection? I see that there is. Therefore, voting on this item will be deferred until voting time. Do three Members want the bell to be rung? I see that no-one does, so we will proceed to voting time.

Dirprwy Lywydd: Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw wrthwynebiad? Gwelaf fod yna wrthwynebiad. Felly, caiff y bleidlais ar yr eitem hon ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio. A oes tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu? Gwelaf nad oes, felly fe wnawn ni symud ymlaen i’r cyfnod pleidleisio.

 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Voting deferred until voting time.

 

Cyfnod Pleidleisio
Voting Time

 

Gwelliant 1 i NDM4819: O blaid 24, Ymatal 0, Yn erbyn 28.
Amendment 1 to NDM4819: For 24, Abstain 0, Against 28.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Paul
Davies, Suzy
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gruffydd, Llyr Huws
Isherwood, Mark
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 2 i NDM4819: O blaid 25, Ymatal 0, Yn erbyn 28.
Amendment 2 to NDM4819: For 25, Abstain 0, Against 28.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Paul
Davies, Suzy
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gruffydd, Llyr Huws
Isherwood, Mark
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 3 i NDM4819: O blaid 25, Ymatal 0, Yn erbyn 28.
Amendment 3 to NDM4819: For 25, Abstain 0, Against 28.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Paul
Davies, Suzy
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gruffydd, Llyr Huws
Isherwood, Mark
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 4 i NDM4819: O blaid 25, Ymatal 0, Yn erbyn 28.
Amendment 4 to NDM4819: For 25, Abstain 0, Against 28.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Paul
Davies, Suzy
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gruffydd, Llyr Huws
Isherwood, Mark
Jones, Alun Ffred
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Thomas, Simon
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Watson, Joyce

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Gwelliant 5 i NDM4819: O blaid 5, Ymatal 11, Yn erbyn 37.
Amendment 5 to NDM4819: For 5, Abstain 11, Against 37.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

Black, Peter
Parrott, Eluned
Powell, William
Roberts, Aled
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Ymataliodd yr Aelodau canlynol:
The following Members abstained:

Asghar, Mohammad
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Ramsay, Nick
Sandbach, Antoinette

 

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 


Gwelliant 6 i NDM4819: O blaid 16, Ymatal 0, Yn erbyn 37.
Amendment 6 to NDM4819: For 16, Abstain 0, Against 37.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
The following Members voted against:

 

Asghar, Mohammad
Black, Peter
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Paul
Davies, Suzy
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Isherwood, Mark
Millar, Darren
Parrott, Eluned
Powell, William
Ramsay, Nick
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Williams, Kirsty

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
James, Julie
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Price, Gwyn R.
Rathbone, Jenny
Rees, David
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Wood, Leanne

Gwrthodwyd y gwelliant.
Amendment not agreed.

 

 

Cynnig NDM4819: O blaid 53, Ymatal 0, Yn erbyn 0.
Motion NDM4819: For 53, Abstain 0, Against 0.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid:
The following Members voted for:

 

 

Andrews, Leighton
Antoniw, Mick
Asghar, Mohammad
Black, Peter
Chapman, Christine
Cuthbert, Jeff
Davies, Alun
Davies, Andrew R.T.
Davies, Byron
Davies, Jocelyn
Davies, Keith
Davies, Paul
Davies, Suzy
Drakeford, Mark
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord
Evans, Rebecca
Finch-Saunders, Janet
George, Russell
Gething, Vaughan
Gregory, Janice
Griffiths, John
Griffiths, Lesley
Gruffydd, Llyr Huws
Hart, Edwina
Hedges, Mike
Hutt, Jane
Isherwood, Mark
James, Julie
Jones, Alun Ffred
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Elin
Jones, Ieuan Wyn
Lewis, Huw
Mewies, Sandy
Millar, Darren
Morgan, Julie
Neagle, Lynne
Parrott, Eluned
Powell, William
Price, Gwyn R.
Ramsay, Nick
Rathbone, Jenny
Rees, David
Roberts, Aled
Sandbach, Antoinette
Sargeant, Carl
Thomas, Gwenda
Thomas, Simon
Watson, Joyce
Whittle, Lindsay
Williams, Kirsty
Wood, Leanne

 

Derbyniwyd y cynnig.
Motion agreed.

 

 

Y Dirprwy Lywydd: Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.

The Deputy Presiding Officer: That concludes our proceedings for today.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.58 p.m.
The meeting ended at 4.58 p.m.

 

Aelodau a’u Pleidiau
Members and their Parties

 

Andrews, Leighton (Llafur – Labour)
Antoniw, Mick (Llafur – Labour)
Asghar, Mohammad (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Black, Peter (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Burns, Angela (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Butler, Rosemary (Llafur – Labour)
Chapman, Christine (Llafur – Labour)
Cuthbert, Jeff (Llafur – Labour)
Davies, Alun (Llafur – Labour)
Davies, Andrew R.T. (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Byron (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Jocelyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Davies, Keith (Llafur – Labour)
Davies, Paul (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Davies, Suzy (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Drakeford, Mark (Llafur – Labour)
Elis-Thomas, Yr Arglwydd/Lord (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Evans, Rebecca (Llafur – Labour)
Finch-Saunders, Janet (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
George, Russell (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gething, Vaughan (Llafur – Labour)
Graham, William (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Gregory, Janice (Llafur – Labour)
Griffiths, John (Llafur – Labour)
Griffiths, Lesley (Llafur – Labour)
Gruffydd, Llyr Huws (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Hart, Edwina (Llafur – Labour)
Hedges, Mike (Llafur – Labour)
Hutt, Jane (Llafur – Labour)
Isherwood, Mark (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
James, Julie (Llafur – Labour)
Jenkins, Bethan (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Alun Ffred (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ann (Llafur – Labour)
Jones, Carwyn (Llafur – Labour)
Jones, Elin (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Jones, Ieuan Wyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Lewis, Huw (Llafur – Labour)
Melding, David (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Mewies, Sandy (Llafur – Labour)
Millar, Darren (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Morgan, Julie (Llafur – Labour)
Neagle, Lynne (Llafur – Labour)

Parrott, Eluned (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Powell, William (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Price, Gwyn R. (Llafur – Labour)
Ramsay, Nick (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Rathbone, Jenny (Llafur – Labour)
Rees, David (Llafur – Labour)

Roberts, Aled (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Sandbach, Antoinette (Ceidwadwyr Cymreig – Welsh Conservatives)
Sargeant, Carl (Llafur – Labour)
Skates, Kenneth (Llafur – Labour)
Thomas, Gwenda (Llafur – Labour)
Thomas, Rhodri Glyn (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Thomas, Simon (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Watson, Joyce (Llafur – Labour)
Whittle, Lindsay (Plaid Cymru – The Party of Wales)
Williams, Kirsty
(Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – Welsh Liberal Democrats)
Wood, Leanne (Plaid Cymru – The Party of Wales)